Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol
â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau a ganlyn:- Datganodd y Cynghorwyr P R Hood-Williams, M B Lewis a T M White gysylltiad personol yng Nghofnod Rhif 55 - Adroddiad Monitro Archwilio Mewnol - 2il Chwarter 2023/24. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: - Datganodd y Cynghorwyr P R Hood-Williams, M B Lewis a T M White
gysylltiadau personol â Chofnod Rhif 55 – Adroddiad Monitro Archwilio Mewnol –
Chwarter 2 – 2023/24. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel cofnod cywir. |
|
Datganiad o Gyfrifon Drafft 2022/23. PDF 287 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Ben
Smith, y Cyfarwyddwr Cyllid, y Datganiad Cyfrifon Drafft ar gyfer 2022/23 'er
gwybodaeth' ac i'w adolygu. Roedd y Cyfrifon
Drafft ar gyfer 2022/23 wedi'u paratoi a'u llofnodi gan y Swyddog Adran 151 ar
27 Hydref 2023. Atodwyd copi yn Atodiad A yr adroddiad. Cadarnhawyd bod y
cyfrifon wedi'u cyflwyno'n ffurfiol i archwilwyr y cyngor sef Archwilio Cymru,
a oedd wedi dechrau'r archwiliad o'r cyfrifon. Esboniwyd fel rhan o'r broses
archwilio, y byddai'r cyfrifon ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd am gyfnod o
bedair wythnos o 4 Ionawr i 31 Ionawr 2024. Diolchwyd i staff
yr Adran Gyllid gan y Cyfarwyddwr am eu gwaith ar y cyfrifon, ac ailadroddwyd
hyn gan y Cadeirydd a'r Pwyllgor. Gofynnodd y
Pwyllgor nifer o gwestiynau technegol i'r Cyfarwyddwr Cyllid/Dirprwy Swyddog
Adran 151, ac fe'u hatebwyd yn briodol. Nodwyd y
cynnig i fabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar risg at brisiadau. Gofynnodd y
Cadeirydd am newidiadau ariannol, yn enwedig y gostyngiad mewn incwm gros. Byddai ymatebion
yn cael eu dosbarthu mewn perthynas â'r gostyngiad mewn incwm gros mewn meysydd
penodol a'r cynnydd ym mantolen y dyledwyr tymor hir yn Nodyn 17. |
|
Cyfarwyddiaeth Cyllid: Amgylchedd Rheoli Mewnol 2023/2024. PDF 446 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Rhoddodd Ben
Smith, y Cyfarwyddwr Cyllid, adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno
amgylchedd rheoli'r Gyfarwyddiaeth Cyllid, gan gynnwys rheoli risgiau, sydd ar
waith i sicrhau bod swyddogaethau'n cael eu harfer yn effeithiol; bod
adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithlon ac effeithiol ac yn economaidd a bod
llywodraethu effeithiol i sicrhau'r trefniadau hyn. Amlinellwyd bod y
Gyfarwyddiaeth a rôl y Cyfarwyddwr Cyllid cysylltiedig wedi'u creu yn dilyn
penderfyniad y cyngor ym mis Tachwedd 2021, ac fe'i penodwyd ar ddiwedd mis
Ionawr 2022. Yn ymarferol, cafodd ei wahanu'n ffurfiol o 1 Ebrill 2022 ar
ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd. Fel y cyfryw, hon oedd y gyfarwyddiaeth
fwyaf newydd ac un cymharol fach (yn nhermau cyllideb net), gan y bu'n rhan o'r
gyfarwyddiaeth Adnoddau yn flaenorol. Ychwanegwyd bod
ymagwedd gychwynnol y gyfarwyddiaeth at ymdrin â'i gweithrediadau ei hun yn
seiliedig ar sut yr oedd yn gweithredu fel rhan fawr o'r Gyfarwyddiaeth
Adnoddau gynt. Gan fod gan y gyfarwyddiaeth ddylanwad ar weithgarwch a chyllid
y cyngor cyfan, roedd hefyd yn arwain ar lawer o'r prosesau rheoli cyffredin yn
ogystal â chymryd rhan ynddynt. Rhestrwyd manylion y meysydd hyn. Amlinellwyd y
fframwaith sicrwydd, gan gynnwys yr elfennau allweddol ac agweddau allweddol ar
drefniadau'r Gyfarwyddiaeth Cyllid. Nodwyd bod cyrhaeddiad gweithredol ehangach
y Gyfarwyddiaeth yn golygu bod ei gweithgareddau’n llawn risg ac yn aml yn
gymhleth. Nodwyd bod adroddiadau gan y cyfryngau am gynghorau a oedd yn mynd i
drafferthion ar hyn o bryd yn gysylltiedig gan amlaf â chael eu difetha gan
fethiannau ariannol sy'n digwydd yn gymharol gyflym, a'r ffaith nad yw
rhanddeiliaid ac aelodau'n llwyr ddeall y risgiau a goblygiadau'r
penderfyniadau sy'n cael eu gwneud. Ar draws y DU roedd cyfrifon cynghorau'n
cael eu hoedi mewn cynyrchiadau drafft ac wrth gwblhau archwiliadau fel mater o
arfer, ac nid oedd yr awdurdod yn wahanol. Roedd hyn yn digwydd ochr yn ochr â
phryder cyffredinol cynyddol ynghylch cyflwr cyffredinol cyllid ar gyfer pob
cyngor. Rhestrwyd maint y
gweithrediadau gros a net a reolir yn uniongyrchol gan y Gyfarwyddiaeth ac
eitemau'r fantolen dan reolaeth uniongyrchol. Darparwyd
manylion rheoli risgiau, parhad busnes, rheoli perfformiad/DPA, cynllunio,
gwneud penderfyniadau, cyllideb, twyll ac amhriodoldeb,
cydymffurfiaeth â pholisïau, rheolau a gofynion rheoleiddio a rheoli adnoddau. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Newid
y mis y darperir yr adroddiad yn y dyfodol. ·
Gallu'r
gwasanaethau a'r galw amdanynt a'r risgiau cysylltiedig, yn enwedig pan gaiff
gwasanaethau eu rhesymoli yn y dyfodol. ·
Diffyg
gallu a chadernid o fewn y Gyfarwyddiaeth a'r camau a gymerwyd i fynd i'r afael
a'r problemau a wynebwyd. Diolchwyd i'r
Cyfarwyddwr Cyllid am adolygiad manwl a chynhwysfawr. |
|
Adroddiad Monitro Archwilio Mewnol - 2il Chwarter 2023/24. PDF 564 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwilydd, Simon Cockings, adroddiad 'er gwybodaeth' manwl a oedd yn dangos yr
archwiliadau a gwblhawyd ac unrhyw waith arall a wnaed gan yr Is-adran Archwilio
Mewnol yn ystod y cyfnod o 1 Gorffennaf i 30 Medi 2023. Cwblhawyd
cyfanswm o 16 o archwiliadau yn ystod y chwarter. Rhestrwyd yr archwiliadau a
gwblhawyd yn Atodiad 1, a oedd hefyd yn dangos lefel y sicrwydd a roddwyd ar
ddiwedd yr archwiliad a nifer yr argymhellion a wnaed ac y cytunwyd arnynt.
Roedd Atodiad 2 yn darparu crynodeb o gwmpas yr adolygiadau terfynol yn ystod y
cyfnod. Roedd Atodiad 3 yn dangos pob archwiliad a oedd yn gynwysedig yn y
Cynllun a gymeradwywyd gan y pwyllgor ar 12 Ebrill 2023 ac yn nodi safle pob
archwiliad o 30 Med 2023. Rhoddwyd
dadansoddiad o lefelau sicrwydd yr archwiliadau a gwblhawyd a gwnaed cyfanswm o
95 o argymhellion archwilio a chytunodd y rheolwyr i roi’r holl argymhellion ar
waith. Ychwanegwyd bod
salwch staff o fewn y Tîm Archwilio Mewnol wedi parhau i fod yn sylweddol yn
ystod yr ail chwarter, gyda chyfanswm o 71 diwrnod o absenoldeb wedi'u cofnodi,
a chyfanswm yr absenoldebau salwch cronnol hyd at ddiwedd chwarter dau oedd 104
diwrnod. Diweddarwyd y Pwyllgor hefyd ynghylch penodiadau staff. Nodwyd bod 36
archwiliad (31%) o 116 o weithgareddau wedi'u cwblhau yn y Cynllun Blynyddol
Archwilio Mewnol ar 30 Medi 2023. Yn ogystal, roedd 1 gweithgaredd wedi'i
gwblhau'n sylweddol, gan olygu bod 37 o weithgareddau archwilio wedi'u cwblhau
hyd at o leiaf y cam adroddiad drafft (32%), gyda 30 ar waith erbyn diwedd y
chwarter. Roedd hyn yn golygu bod 58% o weithgareddau archwilio o fewn y
cynllun wedi'u cwblhau neu ar waith. Rhoddwyd manylion
y gwaith dilynol i'r Pwyllgor hefyd gyda lefelau sicrwydd cymedrol, uchel a
sylweddol wedi'u cwblhau yn ystod y cyfnod. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Y
broses uwch-gyfeirio ar gyfer diffyg gweithredu, a oedd yn cynnwys
uwch-gyfeirio i'r cyfarwyddwr/pennaeth gwasanaeth priodol/Tîm Rheoli
Corfforaethol. ·
Amserlenni
o rhwng 3 a 6 mis ar gyfer amserlenni gwaith dilynol. ·
Ystyried
archwiliadau fel pethau annibynnol, a'r camau gweithredu canlyniadol. ·
Gwaith
dilynol ar sicrwydd cymedrol yn ystod y chwarter a gweithdrefnau i'w dilyn, yn
enwedig mewn perthynas â Rhyddid Gwybodaeth. ·
Adolygu
llywodraethiant corfforaethol a'r lefelau risg uchel
sydd ynghlwm wrth hyn. ·
Adroddiadau
archwilio sydd wedi'u dosbarthu. Holodd y cadeirydd
a oedd effeithiolrwydd y mesurau rheoli ar y gofrestr risgiau wedi'u harchwilio
fel rhan o'r archwiliad llywodraethiant
corfforaethol. Cadarnhaodd y
Prif Archwilydd y byddai'n ymateb ynghylch yr adolygiad o lywodraethiant
corfforaethol ac y byddai'n dosbarthu'r holl adroddiadau archwilio nad oeddent
wedi'i hanfon ymlaen at y Cadeirydd. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd
Jonathan Rogers, Rheolwr y Tîm Twyll Corfforaethol adroddiad 'er gwybodaeth' a
oedd yn darparu diweddariad canol blwyddyn ar y gwaith a wnaed gan y
Swyddogaeth Twyll Corfforaethol yn 2023/24 ac adolygodd y cynnydd a wnaed yn
erbyn y canlyniadau a oedd yn gynwysedig yng Nghynllun Gwrth-dwyll y
Swyddogaeth Twyll ar gyfer 2023/2024. Esboniwyd fod
Rheolwr ar gyfer y Tîm Twyll wedi'i benodi ym mis Mai 2023. Roedd y swydd
wedi'i chlustnodi i'r tri swyddog ymchwilio presennol, a bellach mae strwythur
y tîm yn cynnwys Rheolwr Twyll a dau Ymchwilydd Twyll. Tynnwyd sylw at y
ffaith bod cynnydd da wedi'i wneud yn erbyn pob un o’r wyth gweithgaredd a
gynlluniwyd yn y Cynllun Swyddogaeth Twyll Corfforaethol ac roedd y tîm ar y trywydd
iawn i gwblhau'r holl weithgareddau erbyn diwedd y flwyddyn. Darparwyd manylion yn atodiad A. Ychwanegwyd bod y tîm wedi cofnodi cyfanswm o £150,483.94 o arbedion o fewn
y chwe mis cyntaf ac wedi cyflwyno cosb sifil o £100. Yn ogystal, roedd y tîm
wedi cynorthwyo gyda gwaith i adennill dau eiddo, a'u dychwelyd i'r stoc tai,
ac wedi ymgymryd ag ymarfer rhagweithiol mewn perthynas â'r posibilrwydd o
ddefnyddio stoc fel llety gwyliau tymor byr wedi'u gwasanaethu. Darparwyd
trosolwg byr o ymchwiliadau brys i weithwyr, cefnogaeth Adnoddau Dynol, twyll
honedig, ceisiadau am ddata, gwaith rhyngasiantaethol a chyfnewid data. Llongyfarchodd y
Cadeirydd y tîm am y cynnydd a wnaed hyd yn hyn. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Aelodau
tîm ychwanegol er mwyn caniatáu i'r tîm fod yn rhagweithiol. ·
Patrymau
achosion twyll a sut roedd y tîm yn ymdrin â materion o ddydd i ddydd. ·
Gwaith
rhyngasiantaethol a gwblhawyd a phwysigrwydd rhannu adnoddau. |
|
Trosolwg o Risgiau Corfforaethol 2023/24 - 2il Chwarter. PDF 313 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Rhoddodd Richard
Rowlands, Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol adroddiad 'er gwybodaeth' a
oedd yn rhoi trosolwg o statws risgiau corfforaethol y cyngor i roi sicrwydd
i'r Pwyllgor eu bod yn cael eu rheoli'n unol â pholisi a fframwaith rheoli
risgiau'r cyngor. Roedd y canlynol
yn crynhoi statws y risgiau a gofnodwyd yn y Gofrestr Risgiau Corfforaethol ar
ddiwedd Chwarter 2 2023/24: - Roedd 5 risg
statws coch yn y Gofrestr Risgiau Corfforaethol ar ddiwedd Ch2 2023/24: - ·
Rhif
Adnabod Risg 153: Diogelu. ·
Rhif
Adnabod Risg 159: Rheolaeth Ariannol: Cynllun Ariannol Tymor Canolig ·
Rhif
Adnabod Risg 222: Digidol, Data a Seiberddiogelwch. ·
Rhif
Adnabod Risg 334: Argyfwng costau byw. ·
Rhif
Adnabod Risg 338. Targed sero net 2030. Amlinellwyd yn
ystod Chwarter 2 y cofnodwyd bod yr holl risgiau corfforaethol wedi'u hadolygu
o leiaf unwaith; ni ychwanegwyd risgiau newydd at y gofrestr Risgiau
Corfforaethol; ni chafodd unrhyw risgiau corfforaethol eu dadactifadu;
ni chafodd unrhyw risgiau eu codi i'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol; ni
chafodd unrhyw risgiau corfforaethol eu tynnu oddi ar y Gofrestr Risgiau
Corfforaethol; newidiodd dwy risg gorfforaethol eu statws Coch Oren Gwyrdd
(COG); a newidiodd pedair risg gorfforaethol eu sgôr risg weddilliol. Roedd Atodiad A yn
cyflwyno'r risgiau a gofnodwyd ar Gofrestr Risgiau Corfforaethol y cyngor ar 30
Medi 2023. Roedd yr adroddiadau ar gyfer pob risg yn cynnwys gwybodaeth
esboniadol gyffredinol yn ymwneud â'u dosbarthiad. Dilynwyd hyn gan drafodaethau
ar y canlynol: - ·
Y ffaith bod y
Pwyllgor yn ymwybodol o lefel a thebygolrwydd risg. ·
Cyflwyno matrics pum
sgôr a fyddai'n amlinellu tebygolrwydd ac effaith risg. ·
Nifer yr agweddau a
ddefnyddir i benderfynu ar lefel y risg. ·
Adolygu sut mae
awdurdodau lleol eraill yn mesur risg. ·
Sicrhau bod y Pwyllgor
yn derbyn hyfforddiant priodol ar risg. ·
Hepgoriadau ar y gofrestr a fyddai'n cael
eu diweddaru cyn yr adroddiad chwarterol nesaf. ·
Gwybodaeth a hepgorwyd
sy'n ymwneud â risg hyfforddiant gorfodol. Byddai'r Rheolwr Cyflwyno a
Pherfformiad Strategol yn dosbarthu'n wybodaeth a hepgorwyd sy'n ymwneud â risg
hyfforddiant gorfodol, yn diweddaru'r gofrestr cyn yr adroddiad chwarterol
nesaf ac yn rhoi manylion yr hyfforddiant. |
|
Traciwr Argymhellion Archwilio Cymru. PDF 232 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn
cyflwyno traciwr a oedd yn darparu diweddariadau
cynnydd wrth gyflawni argymhellion Archwilio Cymru. Amlygwyd bod yr
holl argymhellion perthnasol o adroddiadau cenedlaethol a lleol Archwilio Cymru
wedi'u cofnodi mewn traciwr ac yn cael eu monitro ar
gyfer cynnydd. Darparwyd y traciwr yn Atodiad A ac
roedd yn rhestru'r adroddiad perthnasol gan Archwilio Cymru, yr argymhellion, y
camau gweithredu roedd y cyngor yn bwriadu eu cymryd i roi'r argymhellion ar
waith, y cynnydd hyd yn hyn a dyddiadau targed i'w cwblhau. Roedd y daflen
gyntaf yn y traciwr yn rhestru holl argymhellion
Archwilio Cymru yr ystyriwyd eu bod wedi cau a'u cwblhau ym mis Tachwedd 2023.
Roedd yr ail daflen yn y traciwr yn rhestru holl
argymhellion Archwilio Cymru yr ystyriwyd eu bod yn agored ym mis Tachwedd
2023. Croesawodd y Cadeirydd gyflwyno'r traciwr
a thynnodd sylw at ei bwysigrwydd o hyn ymlaen. Holodd a oedd y cam
gweithredu'n mynd i'r afael â'r argymhelliad ac a oedd wedi'i gwblhau mewn
perthynas ag argymhellion Cymru gyfan ar adroddiad Archwilio Cymru 'Gyda'n
Gilydd Fe Allwn Ni' - Cydnerthedd a hunanddibyniaeth
cymunedau’ Byddai'r Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol yn adolygu'r
wybodaeth yn y traciwr. Yn ogystal, gofynnodd y Cadeirydd i adroddiad y traciwr archwilio gael ei ddarparu i bob yn ail cyfarfod
Pwyllgor yn y dyfodol. |
|
Archwilio Cymru - Pennu Amcanion Lles - Cyngor Dinas a Sir Abertawe. PDF 274 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol adroddiad ‘er gwybodaeth' Archwilio
Cymru ac ymateb y cyngor ynghylch pennu amcanion lles. Eglurwyd bod
adroddiad Archwilio Cymru wedi cyflawni dyletswydd yr Archwilydd Cyffredinol i
gynnal archwiliad i asesu i ba raddau yr oedd cyrff cyhoeddus wedi gweithredu'n
unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth bennu eu hamcanion lles. Nod yr archwiliad oedd: ·
esbonio
sut roedd Cyngor Abertawe (y cyngor) wedi cymhwyso'r egwyddor datblygu
cynaliadwy drwy holl broses pennu ei amcanion lles; ·
darparu
sicrwydd ynghylch i ba raddau yr oedd y cyngor wedi cymhwyso'r egwyddor datblygu
cynaliadwy wrth bennu ei amcanion lles; a ·
nodi
cyfleoedd i'r cyngor wreiddio'r egwyddor datblygu cynaliadwy ymhellach wrth
bennu ei amcanion lles yn y dyfodol. Aeth Archwilio Cymru ati i ateb y cwestiwn 'i ba raddau y mae'r cyngor wedi
gweithredu'n unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth bennu ei amcanion lles
newydd?'. Gwnaethant hyn drwy archwilio'r cwestiynau canlynol: - ·
A oedd yr egwyddor datblygu cynaliadwy'n sail i'r broses
a roddwyd ar waith gan y cyngor i bennu ei amcanion lles? ·
A yw'r cyngor wedi ystyried sut bydd yn sicrhau y gall
gyflwyno'i amcanion lles yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy? ·
A yw'r cyngor wedi rhoi trefniadau ar waith i fonitro
cynnydd a gwella sut mae'n cymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth bennu
ei amcanion lles? Roedd Atodiad 1
adroddiad Archwilio Cymru yn rhestru'r dangosyddion cadarnhaol a ddefnyddiwyd
gan Archwilio Cymru i lywio'u harchwiliad a'u hadroddiad. Manylwyd ar
ganfyddiadau Archwilio Cymru ac ymateb y cyngor. Nodwyd bod y Panel Craffu Gwella
Gwasanaethau, Adfywio a Chyllid wedi ystyried adroddiad Archwilio Cymru ac
ymateb y cyngor ar 17 Hydref 2023 a darparwyd y llythyr oddi wrth Cynullydd y
Panel at Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol yn
Atodiad B. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Adborth
gan y Panel Dinasyddion Digidol, y potensial o'i ehangu a'r Pwyllgor yn cael ei
hysbysu ynghylch cynnydd a wneir yn y dyfodol ·
Y
cynnydd a wnaed gan Gydgynhyrchu Cymru. ·
Perfformiad
corfforaethol a mesurau llwyddiant ar gyfer 2023/24, eu hadolygiad, gan gynnwys
mesurau canlyniadau a threfnu bod y canlyniadau ar gael i'r Pwyllgor. Gofynnodd y
Cadeirydd i'r Pwyllgor gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cynnydd fel y
rhestrwyd uchod. |
|
Llythyr Archwilio Cymru - Adolygiad o Raglen Drawsnewid y cyngor. PDF 396 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Ness
Young, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, adroddiad a oedd yn darparu
trosolwg o'r llythyr diweddaru a anfonwyd gan Archwilio Cymru ynghylch y
cynnydd yr oedd cyngor Abertawe yn ei wneud mewn perthynas â'i Raglen
Trawsnewid. Eglurwyd mai ffocws
y gwaith oedd deall a oedd y cyngor yn cynllunio ac yn monitro'i ymagwedd at ei
raglen trawsnewid sefydliadol a chyflwyno arbedion cysylltiedig mewn modd
effeithiol. Darparwyd llythyr Archwilio Cymru yn Atodiad A. Roedd yr
adroddiad yn manylu ar ganfyddiadau Archwilio Cymru ac ymateb Cyngor Abertawe. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Pwysigrwydd
Pwyllgorau Trawsnewid Gwasanaethau yn y broses a bod yr holl Gynghorwyr yn
ymwybodol o ddatblygiadau. ·
Y
broses o nodi arbedion, nodi a rheoli'r rhain yn glir drwy'r Cynllun Ariannol
Tymor Canolig. ·
Cydnabod
maint y rhaglenni dan sylw a faint o amser y bydd yn ei gymryd i'w cyflwyno. ·
Amrywiaeth
y dangosyddion perfformiad a ddefnyddir i fonitro cynnydd. Croesawodd y
Cadeirydd yr adroddiad llawn gwybodaeth. Nododd y swm enfawr o waith sydd
ynghlwm wrth hyn a phwysleisiodd yr angen i osgoi dyblygu gwaith, wrth gael
gwybod o hyd am ddatblygiadau, er mwyn i'r Pwyllgor gael sicrwydd o hyn ymlaen. Penderfynwyd: - 1)
Nodi'r
argymhellion a wnaed yn yr adroddiad. 2)
Rhoi'r
diweddaraf i'r pwyllgor yn y Flwyddyn Newydd ynghylch cynnydd. |
|
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 397 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 'er
gwybodaeth'. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am Gynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 'er
gwybodaeth’. Gofynnodd y Cadeirydd i'r sesiwn/sesiynau hyfforddiant gael ei drefnu/eu
trefnu ar y meysydd canlynol: - ·
Fframwaith Rheoli Perfformiad; ·
Rheoli Risgiau; ·
Archwilio Mewnol. |