Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol
â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau a ganlyn:- Datganodd y Cynghorydd P R Hood-Williams fuddiant
personol yng Nghofnod Rhif
43 – Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru 2022-23. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - Datganodd y
Cynghorydd P R Hood-Williams gysylltiad personol â Chofnod Rhif 43 – Llythyr
Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2022-23. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel cofnod cywir, yn amodol ar y diwygiadau
canlynol: - Cofnod Rhif 30 –
Trosolwg Risg Corfforaethol 2023/24 – Chwarter 1 Mewn perthynas â
thrafodaethau ynghylch Rhif Adnabod Risg 159 - Rheolaeth Ariannol – Cyflawni
CATC – diwygio'r canlynol: - 'Holwyd am yr
effaith ar arbedion trawsnewid' i 'Holwyd am sensitifrwydd yr arbedion
trawsnewid.' |
|
Cyflogaeth Staff yr Asiantaeth - Diweddariad 2023. PDF 480 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd
Rachael Davies, Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Wasanaethau adroddiad 'er
gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu sy'n
codi o Adroddiad Archwilio Staff
Asiantaeth 2021. Gofynnodd y
Pwyllgor am gamau gweithredu penodol yn y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Medi
2022 ac adroddwyd ar y cynnydd a wnaed yn erbyn pob cam penodol. Darparwyd
manylion ynghylch nifer y gweithwyr asiantaeth, costau, gofynion cydymffurfedd penaethiaid gwasanaeth, adborth gan y
Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol / Lleoedd, rôl Staffline a threfniadau
contract asiantaethau ar gyfer y dyfodol. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Y
cynnydd cadarnhaol a wnaed wrth gydnabod yr angen i sicrhau darpariaeth
gwasanaeth, yn enwedig mewn gwasanaethau rheng flaen. ·
Hysbysebu
wedi'i dargedu mewn perthynas â swyddi tymhorol. ·
Y
posibilrwydd o gyflwyno contractau hyblyg a'r anawsterau wrth reoli hyn mewn
meysydd gwaith penodol. ·
Edrych
ar y rhesymau pam mae staff llawn amser yn colli gwaith a mynd i'r afael â nhw,
er mwyn lleihau nifer y gweithwyr asiantaeth. ·
Yr
amgylchiadau unigol sy'n ymwneud â phob gweithiwr asiantaeth a nifer y
gweithwyr asiantaeth a gyflogir amser llawn, yn ôl adran. ·
Effaith
chwyddiant ar gostau gweithwyr asiantaeth. ·
Cynnig
swyddi parhaol i weithwyr asiantaeth yn hytrach na chontractau cyfnod penodol. ·
Cynnig
oriau ychwanegol i weithwyr rhan-amser yn hytrach na chyflogi staff asiantaeth. Dywedodd y
Cynghorydd R C Stewart, Arweinydd y Cyngor fod yr Awdurdod wedi ymrwymo i
geisio newid gweithwyr asiantaeth yn weithwyr parhaol. Ychwanegodd fod gweithwyr rhan-amser hefyd yn
cael cynnig oriau goramser i atal gorfod cyflogi gweithwyr asiantaeth. Gofynnwyd i'r
Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Wasanaethau ddarparu manylion y gweithwyr
asiantaeth a oedd wedi'u cyflogi ar gontractau parhaol gan yr awdurdod a'r gost
o gyflogi gweithwyr asiantaeth mewn blynyddoedd blaenorol. |
|
Diweddariad Adroddiad Archwilio Rheoli Absenoldeb. PDF 521 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Wasanaethau adroddiad 'er gwybodaeth' a
oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr Adroddiad Archwilio Rheoli
Absenoldeb. Esboniwyd o ganlyniad
i'r archwiliad mewnol cyntaf ar Reoli Absenoldeb a gynhaliwyd yn 2020, rhoddwyd
lefel sicrwydd gymedrol. Roedd archwiliad pellach yn cael ei gynnal ym mis
Hydref 2023. Roedd yr
adroddiad yn rhoi manylion ynghylch data salwch, cynnydd hyd at fis Hydref 2023
a chefnogaeth Iechyd Galwedigaethol. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Gwella'r
wybodaeth sydd ar gael i reolwyr drwy Oracle Fusion. Ychwanegwyd bod y contractau ar gyfer cwmnïau
asiantaeth i fod i gael eu hadnewyddu ym mis Ebrill 2024 ac y byddai gwybodaeth
ychwanegol ar gael ar ôl dyfarnu'r contract. ·
Prinder
staff Iechyd Galwedigaethol yn genedlaethol a'r Pwyllgor yn derbyn diweddariad
6 mis ar gynnydd. ·
Effeithiolrwydd
y Polisi Adleoli a’r defnydd ohono, yn ogystal ag ystyried ffyrdd mwy creadigol
o gadw gweithwyr. ·
Proffil oedran presennol gweithlu'r cyngor a'r
goblygiadau i'r awdurdod yn y dyfodol. ·
Effaith straen ar draws y cyngor a'r mesurau a gymerwyd i
fynd i'r afael â hyn, e.e. rheoli straen a gwasanaeth cwnsela. ·
Darparu ffigurau absenoldeb oherwydd damweiniau yn y
dyfodol. ·
Y nifer fawr o wahanol gategorïau o absenoldeb. Amlygodd Ness
Young, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod diweddariad ar Drefniadau
Rheoli'r Cyngor ar gyfer Absenoldeb Salwch ac Iechyd Galwedigaethol wedi'i
drefnu ar gyfer y Pwyllgor ar 6 Rhagfyr 2023.
Nododd y Cadeirydd y byddai'r adroddiad felly'n cael ei symud i'r
cyfarfod ar 10 Ebrill 2024. Gofynnwyd i'r Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Wasanaethau rhoi
manylion am yr amser a gollwyd oherwydd damweiniau yn yr adroddiad diweddaru
nesaf. |
|
Adroddiad Archwilio Ysgolion Gynradd Clydach 2023. PDF 229 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd David Roe, Pennaeth Dros Dro a Julian Nicholds,
Cadeirydd y Llywodraethwyr, adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r
wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad archwilio cymedrol ar gyfer Ysgol Gynradd
Clydach. Amlinellwyd, o
ganlyniad i archwiliad mewnol ar Ysgol Gynradd Clydach a gynhaliwyd yn 2023, y
rhoddwyd lefel sicrwydd cymedrol.
Datblygwyd cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd a
rhoddwyd camau gweithredu addas yn eu lle. Darparwyd yr holl eitemau gan
gynnwys y camau gweithredu a gymerwyd hyd yma yn Atodiad A, a oedd yn rhestru'r
argymhellion, y camau gweithredu cysylltiedig a'r adolygiad o'r camau
gweithredu a gymerwyd hyd yma. Roedd y Pennaeth
Gweithredol, a oedd wedi bod yn y swydd ers mis Medi 2023, a'r Pennaeth Dros
Dro, a oedd yn y swydd o fis Tachwedd 2022 i fis Gorffennaf 2023, wedi bod yn
arwain ar y gwaith o fynd i'r afael â'r holl argymhellion ac wedi cael
cefnogaeth gan swyddogion priodol yr awdurdod lleol i fynd i'r afael â'r
pwyntiau yn y cynllun gweithredu. Ychwanegwyd bod
yr holl argymhellion wedi cael eu bodloni'n llawn ac eithrio un yn y cynllun
gweithredu, y bwriadwyd ei fodloni erbyn mis Ionawr 2024. Roedd disgwyl i Archwilio Mewnol gynnal eu
harchwiliad dilynol yn ystod Chwarter 3 neu Chwarter 4, 2023-2024. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Swm y
gwaith a gwblhawyd a'r ffocws ar risg. ·
Y llinell
amser i benodi Pennaeth newydd, a oedd yn fod i gael ei chwblhau ddiwedd mis
Tachwedd 2023. ·
Cadarnhad
bod gan y Corff Llywodraethu Bwyllgor Cyllid, a oedd yn adrodd i'r Corff
Llywodraethu. Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolwyr Ysgol Clydach am fynychu'r cyfarfod ac amlygu'r
cynnydd a wnaed. |
|
Adroddiad Asesu Allanol 2023/24. PDF 309 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd Simon
Cockings, Prif Archwilydd adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi crynodeb o
ganlyniadau'r asesiad allanol o gydymffurfio â Safonau Archwilio Mewnol y
Sector Cyhoeddus, a gynhaliwyd gan Dîm Archwilio Mewnol Cyngor Bwrdeistref
Sirol Blaenau Gwent. Eglurwyd, yn unol
â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus, y cynhaliwyd yr adolygiad
diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (CBS) rhwng mis Rhagfyr
2022 ac Awst 2023. Cynhaliwyd cyfarfodydd hefyd gyda swyddogion amrywiol o fewn
Cyngor Abertawe. Darparwyd yr Adroddiad
Asesu Allanol a oedd yn amlinellu canfyddiadau'r adolygiad yn Atodiad 1. Ychwanegwyd bod
yr asesiad yn cynnwys adolygiad bwrdd gwaith o'r hunanasesiad a thystiolaeth ategol,
a chafwyd trafodaethau gyda'r Prif Weithredwr Archwilio, yr Arweinydd
Proffesiynol a'r Uwch Archwilydd ym Mwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i gael
mewnwelediad a barn am weithrediad y Tîm Archwilio Mewnol a chadw at y Safonau. I grynhoi, roedd
304 o linellau arfer gorau o fewn Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus
ac aseswyd bod Gwasanaeth Archwilio Mewnol Cyngor Abertawe yn cydymffurfio'n
llawn â 303 o'r gofynion (gan gynnwys y rhai nad ydynt yn berthnasol). Nodwyd
un maes o gydymffurfiad rhannol mewn perthynas ag adnodd archwilio Technoleg
Gwybodaeth dynodedig yn y tîm. Felly, aseswyd bod Gwasanaeth Archwilio Mewnol
Cyngor Abertawe yn cydymffurfio'n gyffredinol â'r safonau ym mhob maes
arwyddocaol ac yn gweithredu'n annibynnol ac yn wrthrychol. Awgrymwyd tri
cham gweithredu dewisol hefyd fel rhan o'r adolygiad gyda'r nod o wella
cydymffurfiaeth bresennol mewn rhai meysydd, fel a ddangosir yn Atodiad 1. Darparwyd y camau gweithredu a fyddai'n cael
eu cwblhau i fynd i'r afael â'r maes a aseswyd fel un sy'n cydymffurfio'n
rhannol, a'r tri awgrym i wella cydymffurfiaeth bresennol, yn y Cynllun
Gweithredu a gynhwysir yn yr Adroddiad Asesu Allanol. Gwnaeth y
Cadeirydd sylwadau ar y canlynol: - ·
Roedd
yr adroddiad yn gadarnhaol o ran cynnwys cyffredinol. ·
Nid
oedd unrhyw un o CBS Blaenau Gwent wedi cysylltu ag unrhyw aelodau o'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio fel rhan o'r adolygiad, a oedd yn siomedig oherwydd
bod cylch gorchwyl y Pwyllgor yn glir y dylai'r Pwyllgor fod wedi bod yn rhan
o'r asesiad ac wedi cyfrannu ato. ·
Rhoddir
ystyriaeth i gael adolygiad allanol llawn (nid adolygiad cymheiriaid), i'w
gynnal o fewn y 5 mlynedd nesaf. ·
Mae'n
syndod bod 29 o ardaloedd wedi cael eu nodi fel rhai nad ystyrir eu bod yn
gymwys o ystyried na chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad, ond cadarnhaodd y Prif
Archwilydd fod gweithdrefnau wedi'u dogfennu ar waith sy'n dangos pe gofynnwyd
i Archwilio Mewnol ymgymryd â'r gwaith hwn, y byddai'n cael ei wneud yn unol â
gofynion y Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. ·
A
ymgynghorwyd ag Adran TG y cyngor ynghylch hyfforddiant / arbenigedd TG o fewn
Archwilio Mewnol wrth gydnabod y costau uchel sy'n gysylltiedig â hyfforddiant
TG ar gyfer archwilwyr mewnol. Dywedodd y Prif
Archwilydd fod y tabl asesu wedi cael ei ddefnyddio yn ei adroddiadau blynyddol
blaenorol. Ychwanegodd fod y meysydd nad
oeddent yn berthnasol wedi cael eu hystyried fel rhai a oedd yn cydymffurfio
mewn asesiadau mewnol blaenorol oherwydd mae gan Archwilio Mewnol brosesau ar
waith i fynd i'r afael â'r materion os gofynnir iddynt wneud hynny, er mwyn
sicrhau cydymffurfiaeth lawn â'r Safonau. Penderfynwyd nad oedd y meysydd yn
berthnasol oherwydd nad oedd Archwilio Mewnol wedi ymgymryd ag unrhyw waith
ymgynghori yn ystod y flwyddyn. Ychwanegodd fod
diffyg arbenigedd TG mewn Archwilio Mewnol yn broblem sy'n wynebu nifer o
gynghorau. Roedd y cyngor yn edrych ar
sut roedd cynghorau eraill yn mynd i'r afael â'r mater a byddai'n cael ei
drafod ymhellach gyda'r Adran TG fel rhan o'r ymarfer ymgynghori blynyddol
parhaus. Mynegodd y
Cadeirydd hefyd ei siom nad oedd unrhyw un o CBS Blaenau Gwent wedi cysylltu ag
unrhyw aelodau o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel rhan o'r asesiad ac y
dylid ystyried cynnal adolygiad allanol llawn (nid adolygiad cymheiriaid) o
fewn y 5 mlynedd nesaf. |
|
Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol: Amgylchedd Rheoli Mewnol 2023/24. PDF 345 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd David
Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad a roddodd yr adolygiad
blynyddol o'r amgylchedd rheoli (Cyfarwyddiaeth), gan gynnwys rheoli risgiau,
sydd ar waith i sicrhau: bod swyddogaethau'n cael eu harfer yn effeithiol; bod
adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithlon ac effeithiol ac yn economaidd a; bod
llywodraethu effeithiol i sicrhau'r trefniadau hyn. Darparwyd
dadansoddiad eang o'r Portffolio dan y meysydd canlynol: - Ø
Rheoli Risgiau a Pharhad Busnes. Ø
Rheoli Perfformiad a Dangosyddion Perfformiad Allweddol. Ø
Cynllunio a Gwneud Penderfyniadau. Ø
Rheoli Cyllidebau ac Adnoddau. Ø
Twyll ac Amhriodoldeb Ariannol. Ø
Cydymffurfio â Pholisïau, Rheolau a Gofynion Rheoliadol. Ø
Sicrwydd Rhaglenni a Phrosiectau. Ø
Dulliau rheoli mewnol. Ø
Diogelu Data. Ø
Llywodraethu Partneriaeth/Cydweithio. Dywedodd nad oedd
yr adroddiad yn wahanol iawn i 2022.
Tynnodd sylw at sefyllfa ariannol a chynaliadwyedd y Gyfarwyddiaeth
Gwasanaethau Cymdeithasol, yn enwedig y ffaith mai hon oedd y flwyddyn gyntaf
i'r Adran wynebu gorwariant yn ystod y flwyddyn. Tynnodd sylw
hefyd at effaith chwyddiant uchel; cynyddu cyflogau'r gweithlu; cadw staff / digonolrwydd
y gweithlu; costau staff asiantaeth; gofynion newydd Llywodraeth Cymru;
diogelu, yn enwedig digonolrwydd lleoliadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal,
fel ffactorau cyfrannol. Pwysleisiwyd
hefyd effaith bosib y newidiadau sy'n cael eu cynnig ar gyfer y system WCCIS
gan Iechyd Digidol Cymru. Gofynnodd y
Pwyllgor nifer o gwestiynau i'r Swyddog, a ymatebodd yn briodol. Roedd y
trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: - ·
Y
newidiadau a gynigiwyd gan Gymru Ddigidol i'r system
WCCIS ac effaith bosib yr Adran, yr Awdurdod a'r Bwrdd Iechyd oherwydd y
cymhlethdod dan sylw. ·
Dibyniaeth
Craffu ar yr wybodaeth a ddarperir gan y system WCCIS. ·
Yr
effaith bosib ar yr unigolion sy'n dibynnu ar y gwasanaethau a ddarperir gan yr
Adran. ·
Mae'r
llwybrau gofal sefydledig o'r ysbyty i'r cartref a'r Pwyllgor yn cael blas ar
yr hyn sydd ei angen ar yr Adran i ddatblygu materion. ·
Defnyddio
mentrau cymdeithasol i ehangu gwasanaethau / ddarparu gwasanaethau o fewn
cymunedau. ·
Sicrwydd
ychwanegol yn cael ei ddarparu gan ddau Banel Perfformiad Craffu pwrpasol a sut
roedd yr Adran yn gwneud popeth o fewn ei gallu i symud ymlaen. ·
Sicrwydd
ychwanegol yn cael ei ddarparu mewn adroddiadau yn y dyfodol gan naratif yn
amlinellu camau sy'n cael eu cymryd mewn mannau problemus. Diolchodd y
Cadeirydd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol am ddarparu'r adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol Craffu 2022-23 a'r Rhaglen Waith Craffu. PDF 242 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Peter Black, Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu Adroddiad Blynyddol
Craffu 2022-23 a'r Rhaglen Waith Craffu 'er gwybodaeth'. Amlinellwyd bod
yr adroddiad yn cydnabod y berthynas rhwng y Pwyllgor Craffu a'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio, ei phwysigrwydd parhaus a'r camau a gymerwyd eisoes
fel rhan o'r broses hon. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - · Ymgysylltu
gweithredol yr holl Gynullwyr Craffu â’r broses er
mwyn osgoi dyblygu a'r gweithdrefnau ffurfiol a ddilynir i graffu yn
effeithiol. · Yr wybodaeth
gyhoeddus sydd ar gael ar Graffu, sydd ar wefan y cyngor. · Yr hyfforddiant
craffu a ddarperir, gan gynnwys yr hyfforddiant Cwestiynau Craffu a drefnwyd a
allai ddarparu ar gyfer pob Cynghorydd. · Cydbwyso
pryderon cyffredin â materion strategol yn y broses a sut y dibynnwyd ar
Gynghorwyr fel arweinwyr yn eu cymunedau eu hunain ar amrywiaeth o faterion. · Osgoi gwaith yn
gorgyffwrdd rhwng y Pwyllgorau Craffu a Thrawsnewid Gwasanaethau. · Toriadau
arfaethedig o ran staff, y broses ymgynghori a oedd yn cynnwys y Cadeirydd
Craffu a'r effaith bosib ar Graffu. · Y gwaith craffu
dilynol mewn perthynas â Chynllun Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe, a
gynhaliwyd ym mis Hydref 2023. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Cynghorydd Peter Black am gyflwyno'r adroddiad. |
|
Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2022-23. PDF 372 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Sarah
Lackenby, Pennaeth Digidol a Gwasanaethau Cwsmeriaid adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu llythyr blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
2022-23 ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, a oedd yn cynnwys perfformiad cwynion
Cyngor Abertawe ac ar draws Cymru gyfan. Ychwanegwyd bod y
cyngor yn cydnabod, er mwyn diwallu anghenion ac ymateb i bryderon aelodau'r
cyhoedd, fod monitro cwynion yn adnodd gwerthfawr yn ei ofyniad i wella
gwasanaethau'n barhaus. Cymerir pob cwyn o ddifri ac maent yn darparu
mewnwelediad gwerthfawr i gwsmeriaid. Darparwyd y llythyr
blynyddol yn Atodiad A ac mae'n tynnu sylw at y gweithgareddau a wnaed gan
swyddfa'r Ombwdsmon yn ystod y flwyddyn a pherfformiad y cyngor. Mae hefyd yn
cynnwys ceisiadau gan yr Ombwdsmon i'r cyngor gymryd camau gweithredu penodol
mewn perthynas â'r llythyr. Diolchwyd i'r Tîm
Cwynion Corfforaethol a'r staff sy'n delio â chwynion ar draws yr Awdurdod am
eu gwaith. Ychwanegwyd bod Archwilio
Mewnol wedi rhoi sgôr archwilio sylweddol i'r maes gwasanaeth. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Sut
roedd cyflwyno technoleg newydd yn ddiweddar wedi gwella'r ffordd yr ymdrinnir
â chwynion. ·
Darparu
manylion y cwynion 'amrywiol eraill' y mae'r Ombwdsmon yn ymdrin â nhw. ·
Adrannau'n
sefydlu timau sicrhau ansawdd a'r gwersi a ddysgwyd. ·
Atgyfeiriadau
a wnaed gan yr Ombwdsmon i'r Pwyllgor Safonau. Gofynnodd y
Cadeirydd i'r Pennaeth Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid ddosbarthu manylion y
Pwyllgor am gwynion 'amrywiol eraill' y mae'r Ombwdsmon yn ymdrin â nhw. |
|
Trefniadau Llywodraethu a Sicrhau Partneriaethau Strategol Cyngor Abertawe. PDF 259 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd
Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol adroddiad 'er
gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am drefniadau
llywodraethu a sicrwydd partneriaethau strategol y cyngor. Amlinellwyd bod y
Pwyllgor wedi derbyn adroddiad am drefniadau llywodraethu a sicrwydd
partneriaethau strategol y cyngor yn ei gyfarfod ar 8 Mawrth 2023. Pwrpas yr
adroddiad oedd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau hyn o fewn pob
partneriaeth briodol, gan gynnwys: - ·
Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe ·
Partneriaeth
Ranbarthol Gorllewin Morgannwg ·
Cyd-bwyllgor
Partneriaeth ·
Cyd-bwyllgor
De-orllewin Cymru ·
Cyd-bwyllgor
Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Roedd yr
adroddiad yn darparu rhagor o wybodaeth am sut roedd llywodraethu'r
partneriaethau hyn yn ymwneud â'r egwyddorion sydd yng Nghôd
Llywodraethu Corfforaethol Lleol y cyngor.
Gofynnodd y
Cadeirydd fod adroddiadau yn y dyfodol yn tynnu sylw at heriau a chyflawniadau
allweddol y partneriaethau yn ystod y cyfnod yr adroddir amdano. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Lee Cambule,
Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi, adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi
crynodeb i'r Pwyllgor o ganfyddiadau adolygiad Archwilydd Cyffredinol Cymru o
Fentrau Cymdeithasol yng Nghymru a'i argymhellion ar gyfer gweithredu gan
awdurdodau lleol. Amlinellwyd bod
Adroddiad Cyngor Abertawe ar argymhellion adroddiad 'Cyfle Wedi'i Golli'
Archwilio Cymru yn rhoi crynodeb o'r adroddiad a'i ganfyddiadau, yn ogystal ag
amlygu'r camau gweithredu a gymerwyd gan Gyngor Abertawe hyd yma. Roedd hyn yn
cynnwys yr ymateb i'r tri argymhelliad ac yn nodi meysydd ar gyfer camau
gweithredu pellach yr ydym yn bwriadu eu harchwilio ymhellach. Darparwyd
dadansoddiad y cyngor o ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn
Atodiad A. Roedd hyn yn cynnwys iteriad
cyntaf y rhestr wirio hunanwerthuso a gwblhawyd, a ddatblygwyd mewn
cydweithrediad â chydweithwyr ar draws y sefydliad dan oruchwyliaeth y
Grŵp Galluogi Cymunedau a Fforwm Tlodi Cyngor Abertawe. Yn seiliedig ar y gwerthusiad a gwblhawyd fel
rhan o'r argymhelliad cyntaf, rhestrwyd y camau allweddol a gynlluniwyd hefyd. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - · Y gwaith cydgynhyrchu da a welir yn yr adroddiad a'r enghreifftiau
gwych o waith a ddangosir yn yr adroddiad. · Y teitl camarweiniol
a ddarparwyd gan Archwilio Cymru sy'n awgrymu anghysondeb, pan fo enghreifftiau
gwych o brosiectau a mentrau. · Cwblhau a
datblygu cynllun gweithredu cadarn yn y dyfodol. · Trefniadaeth y
gweithlu wrth symud ymlaen, gan gynnwys gwasanaethau a rennir, canolbwyntio ar
iechyd a gofal cymdeithasol, meithrin perthnasoedd a data, a dathlu a rhannu
llwyddiannau. · Yr ystod eang o
fentrau cymdeithasol a microfusnesau a'r cwmpas rheoli. Cydnabu'r
Cadeirydd y gwaith a gwblhawyd eisoes a'r gwaith rhagorol a allai gymryd amser
i'w gwblhau. Gofynnodd i Reolwr y
Gwasanaeth Trechu Tlodi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlenni mewn
cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd
Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi
gwybodaeth i'r Pwyllgor am ganfyddiadau adolygiad Archwilydd Cyffredinol Cymru
o ran Cydnerthedd a Hunanddibyniaeth Cymunedau yng
Nghymru a'i argymhellion ar gyfer gweithredu gan awdurdodau lleol. Amlinellwyd bod
Adroddiad Cyngor Abertawe ar argymhellion adroddiad Cydnerthedd
a Hunanddibyniaeth Cymunedau 'Gyda'n Gilydd fe Allwn Ni' Archwilio Cymru yn
darparu crynodeb o'r adroddiad a'i ganfyddiadau, yn ogystal ag amlygu'r camau
gweithredu a gymerwyd gan Gyngor Abertawe hyd yma. Roedd hyn yn cynnwys ymateb
y cyngor i'r tri argymhelliad a meysydd nodedig ar gyfer gweithredu pellach yr
oedd y cyngor yn bwriadu eu harchwilio ymhellach. Manylwyd ar
ddadansoddiad y cyngor o ganfyddiadau adroddiad Archwilio Cymru yn Atodiad A a oedd yn cynnwys gwerthusiad wedi'i gwblhau a gynhaliwyd
gan ddau grŵp goruchwylio a gydlynodd y gwaith o gyflawni'r Flaenoriaeth
Gorfforaethol, 'Trechu Tlodi a Galluogi Cymunedau' – sef Fforwm Tlodi Cyngor
Abertawe a'r Grŵp Galluogi Cymunedau. Nododd y
gwerthusiad 10 cam allweddol ar gyfer diffinio, cyflawni a gwella'n barhaus
weledigaeth y cyngor ar gyfer cymunedau cadarn a hunanddibynnol
yn Abertawe. Byddai'r camau hyn yn dod o dan lywodraethu'r Flaenoriaeth
Gorfforaethol 'Trechu Tlodi a Galluogi Cymunedau' a byddai'r cynnydd yn cael ei
fonitro a'i adrodd drwy'r ddau grŵp goruchwylio a restrir uchod. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Safle'r
grwpiau goruchwylio o fewn y strwythur corfforaethol. ·
Pwysigrwydd
cyd-gynhyrchu a mynd â phobl ar hyd y daith gyda chi. ·
Cyfranogaeth
bwysig yr Aelodau etholedig, yn enwedig adfywio rôl hyrwyddwyr awdurdodau lleol
a'r cymorth / hyfforddiant ychwanegol sydd eu hangen, a fyddai'n cael eu
cynnwys yn y cynllun gweithredu manwl. Cydnabu'r
Cadeirydd y gwaith a gwblhawyd eisoes a'r gwaith sy’n weddill, a allai gymryd
amser i'w gwblhau. Gofynnodd i Reolwr y
Gwasanaeth Trechu Tlodi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlenni mewn
cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Archwilio Cymru - Cynllun Archwilio Manwl Dinas a Sir Abertawe 2023. PDF 651 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Derwyn
Owen, Archwilio Cymru, Gynllun Archwilio Manwl Dinas a Sir Abertawe ar gyfer
2023. Amlinellwyd bod y
cynllun yn pennu cyfrifoldebau statudol yr Archwilydd Cyffredinol fel
archwilydd allanol ac yn cyflawni ei rwymedigaethau dan y Côd Ymarfer. Roedd hefyd yn nodi'r gwaith yr oedd
Archwilio Cymru yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â'r risgiau archwilio a
nodwyd, meysydd ffocws allweddol eraill yn ystod 2023, y ffi archwilio amcangyfrifedig, manylion y tîm archwilio a dyddiadau
allweddol ar gyfer cyflawni gweithgareddau ac allbynnau arfaethedig y tîm
archwilio. Nodwyd cyfrifoldebau'r
Archwilydd Cyffredinol a darparwyd gwybodaeth am y canlynol: - ·
Archwilio
Datganiadau Ariannol ·
Archwiliad
o Berfformiad ·
Cipolwg
ar Eich Archwiliad ·
Perthnasedd
Datganiadau Ariannol ·
Risgiau
Datganiadau Ariannol Sylweddol ·
Meysydd
Ffocws Eraill ·
Amserlen
Archwilio Datganiadau Ariannol ·
Gwaith
Archwiliad o Berfformiad wedi'i Gynllunio ·
Ardystio
Hawliadau a Ffurflenni Grant, a Swyddogaethau Archwilio Statudol ·
Tîm
Ffioedd ac Archwilio ·
Ansawdd
Archwilio ·
Newidiadau
allweddol i ISA 315 a'r effaith bosib ar y cyngor Gofynnodd y
Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr Cyllid ddarparu datganiad ysgrifenedig i fynd i'r
afael â'r pryder a godwyd gan Archwilio Cymru mewn perthynas â hwyrni'r
Datganiad Cyfrifon. Nodwyd bod Archwilio
Cymru wedi cael gwybod y byddai'r cyfrifon gyda nhw cyn diwedd Hydref 2023.
Dywedodd Archwilio Cymru eu bod yn bwriadu adrodd ar y Datganiad Cyfrifon ym
mis Mawrth 2024. Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolydd Archwilio Cymru am ei adroddiad. |
|
Rhaglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru - Cyngor Dinas a Sir Abertawe. PDF 253 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Gillian Gillett, Swyddfa Archwilio Cymru, Raglen Waith ac Amserlen Archwilio
Cymru – Dinas a Sir Abertawe 'er gwybodaeth'. Roedd yr
adroddiad yn manylu ar y diweddariad chwarterol ac yn rhestru'r canlynol: - ·
Crynodeb
o'r Archwiliad Blynyddol ·
Gwaith
Archwilio Ariannol ·
Archwiliad
o Berfformiad ·
Astudiaethau
Cenedlaethol Llywodraeth Leol sydd wedi'u cynllunio/ar waith ·
Estyn ·
Arolygiaeth
Gofal Cymru (AGC) ·
Adroddiadau
Cenedlaethol Archwilio Cymru ac Allbynnau Eraill a Gyhoeddwyd ers mis Medi 2022 ·
Adroddiadau
Cenedlaethol Archwilio Cymru ac Allbynnau Eraill i'w Cyhoeddi (a gwaith arall
sydd ar waith/wedi'i gynllunio) ·
Adnoddau
Cyfnewid Arfer Da ·
Blogiau
diweddar Archwilio Cymru Cadarnhawyd hefyd
fod Archwilio Cymru wedi recriwtio i oresgyn problemau adnoddau. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Adolygiad
Thematig - Gofal heb ei drefnu – Holwyd pryd fyddai'r adroddiad ar gael. Hysbyswyd y Pwyllgor fod yr adroddiad gyda
sefydliad partner ac y byddai'r amserlen yn cael ei darparu pan fydd ar gael. ·
WCCIS
- a oedd Archwilio Cymru yn ymwybodol o'r penderfyniad gan Gymru Digidol i
symud i ffwrdd o system gwybodaeth berfformiad unigol ledled Cymru. Cadarnhawyd na fyddai Archwilio Cymru wedi
bod yn rhan o'r penderfyniad, ond roeddent yn gallu adolygu'r holl benderfyniadau
a wnaed, a nodwyd yr wybodaeth a ddarparwyd.
Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolydd Archwilio Cymru am ei hadroddiad. |
|
Adroddiad Olrhain Gweithredu y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 400 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 'er
gwybodaeth'. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Gynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 'er gwybodaeth’. |