Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Change of Committee Membership. Cofnodion: Nododd y
Cadeirydd fod aelodaeth y Pwyllgor wedi gostwng i 8 Cynghorydd a 4 Aelod
Lleyg. Diolchodd i'r Cynghorwyr A J
Jeffrey a K M Roberts, nad oeddent bellach yn Aelodau'r Pwyllgor, am eu
cefnogaeth a'u cyfranogiad. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol
â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau a ganlyn:- Datganodd y Cynghorwyr M B Lewis a T M White gysylltiad personol yng Nghofnod Rhif 26 - Adroddiad Monitro Archwilio Mewnol -
Chwarter 1 - 2023/24. Datganodd y Cynghorwyr PR Hood-Williams ac LV Walton fuddiant personol yng Nghofnod Rhif 28 - Adroddiad Dilynol Argymhelliad Archwilio
Mewnol Chwarter 1 2023/24. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - Datganodd y
Cynghorwyr M B Lewis a T M White gysylltiadau personol â Chofnod Rhif 26 –
Adroddiad Monitro Archwilio Mewnol – Chwarter 1 – 2023/24. Datganodd y
Cynghorwyr P R Hood-Williams ac L V Walton gysylltiadau personol â Chofnod Rhif
28 - Adroddiad Dilynol Argymhelliad Archwilio Mewnol Chwarter 1 2023/24. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Monitro Archwilio Mewnol Chwarter 1 - 2023/24. PDF 393 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwiliwr, Nick Davies, adroddiad 'er gwybodaeth' manwl a oedd yn darparu'r
archwiliadau terfynol ac unrhyw waith arall a wnaed gan yr Is-adran Archwilio
Mewnol yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill i 30 Mehefin 2023. Cwblhawyd cyfanswm
o 12 archwiliad yn ystod y chwarter. Rhestrwyd yr archwiliadau a gwblhawyd yn
Atodiad 1, a oedd hefyd yn dangos lefel y sicrwydd a roddwyd ar ddiwedd yr
archwiliad a nifer yr argymhellion a wnaed ac y cytunwyd arnynt. Roedd Atodiad
2 yn darparu crynodeb o gwmpas yr adolygiadau a gwblhawyd yn ystod y cyfnod. Rhoddwyd
dadansoddiad o lefelau sicrwydd yr archwiliadau a gwblhawyd a gwnaed cyfanswm o
120 o argymhellion archwilio a chytunodd y rheolwyr i roi’r holl argymhellion
ar waith. Ychwanegwyd bod salwch
staff o fewn y Tîm Archwilio Mewnol wedi parhau i fod yn sylweddol yn ystod y
chwarter, gyda chyfanswm o 43 diwrnod o absenoldeb wedi'u cofnodi. Roedd un
aelod o staff yn parhau i fod ar salwch hirdymor. Yn ogystal, roedd Uwch-archwiliwr wedi gadael
yn ystod y chwarter a chymerwyd ei le gan Archwilydd a oedd eisoes yn y tîm.
Llenwyd swydd wag yr Archwilydd ac roedd yr aelod newydd o staff yn ei swydd ac
yn derbyn hyfforddiant. Collwyd cyfanswm
o 10 niwrnod oherwydd bod y swydd yn wag. Roedd Cynllun
Archwilio Mewnol 2023/24 yn cynnwys 116 o weithgareddau archwilio ac ar 30
Mehefin 2023, roedd 16 o weithgareddau archwilio (14%) wedi'u cwblhau, gyda dau
weithgaredd ychwanegol (2%) wedi'u cwblhau'n sylweddol, a'r adroddiadau
archwilio wedi'u cyhoeddi fel fersiynau drafft.
O ganlyniad, roedd 18 o weithgareddau archwilio wedi'u cwblhau hyd y cam
adroddiad drafft o leiaf (16%). Roedd 20 gweithgaredd ychwanegol ar y gweill ar
ddiwedd y flwyddyn (17%). O ganlyniad, roedd tua 33% o'r gweithgareddau
archwilio a gynhwysir yng Nghynllun Archwilio 2023/24 naill ai wedi'u cwblhau
neu ar waith. Cyhoeddwyd dau
adroddiad cymedrol yn ystod y chwarter mewn perthynas â'r canlynol: - • Ysgol Gynradd
Clydach 2023/24. • Tîm Arlwyo a
Glanhau 2023/24. Rhoddwyd manylion
i'r pwyllgor hefyd am y gwaith dilynol a gwblhawyd rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin
2023. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Yr
Uwch-archwilydd yn gadael y tîm a'r hyder bod digon o arbenigedd o fewn yr
adran i lenwi'r swydd. ·
Archwilio
gwaith rhanbarthol, cwmpas y profi a'r posibilrwydd o ddarparu gwybodaeth i'r
pwyllgor am ba feysydd oedd wedi cael eu profi. ·
Gwasanaethu
boeleri nwy, y potensial risg cysylltiedig gydag oediadau o ganlyniad i COVID a
darparu diweddariad mewn adroddiad chwarterol yn y dyfodol. ·
Gosodiadau
ym Marina Abertawe a'r Mannau Cadw Cychod, sicrwydd a ddarperir gan swyddogion
a chael sicrwydd pellach gyda gwybodaeth ddilynol yn ystod y chwarter nesaf. ·
Archwiliad
Gosod Cyrchfannau – darparu cadarnhad bod y ffi drwyddedu heb ei thalu wedi cael
ei thalu, yn cael ei hadennill neu wedi cael ei dirymu. Gofynnodd y Cadeirydd i'r canlynol gael ei ychwanegu at adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor. |
|
Adroddiad Cymedrol - Tîm Arlwyo a Glanhau 2023/23. PDF 237 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Kelly
Small, y Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg adroddiad 'er
gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad archwilio
cymedrol ar gyfer y Tîm Arlwyo a Glanhau. Amlinellwyd bod archwiliad mewnol o'r Tîm Arlwyo a Glanhau wedi'i gynnal yn
haf 2023, a rhoddwyd lefel sicrwydd cymedrol ar ei gyfer. Roedd yr archwiliad blaenorol o'r tîm arlwyo,
a gynhaliwyd yn 2017/18 a'r tîm glanhau, a gynhaliwyd yn 2018/19, hefyd wedi
arwain at lefelau sicrwydd cymedrol.
Datblygwyd cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd a
rhoddwyd camau gweithredu addas yn eu lle. Roedd yr
adroddiad yn tynnu sylw at saith eitem Risg Ganolig a nodwyd yn yr archwiliad. Rhestrwyd yr holl eitemau yn y Cynllun
Gweithredu Rheolaeth yn Atodiad A, a oedd yn manylu ar yr holl argymhellion,
risgiau canolig, risgiau isel ac arferion da a argymhellwyd, yn ogystal â'r
camau gweithredu perthnasol a gymerwyd i gael gwared arnynt. Roedd y cynllun
gweithredu yn mynd i'r afael â'r eitemau Risg Canolig (MR) sy'n ymwneud â
gwariant; arian parod ac incwm credyd; arian parod; costau teithio; cofnodion
personél; a cherbydau. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Sicrhau
bod yr holl staff dan sylw yn ymwybodol o'r broses gaffael ac wedi cael
hyfforddiant ynddi. ·
Y
nifer bach o ysgolion a drefnodd eu harlwyo/glanhau eu hunain a'r gwasanaethau
canolog a gynigir gan yr Adran Addysg. ·
Y sicrwydd
a ddarperir gan yr holl argymhellion ac eithrio un sy'n cael eu datblygu, gan
gynnwys cwblhau hawliadau'n gywir a oedd yn diogelu'r awdurdod a'r gweithwyr. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad ac am ba mor gyflym yr oedd yr argymhellion
wedi'u cwblhau. |
|
Adroddiad Dilynol am Argymhelliad yr Archwiliad Mewnol ar gyfer Chwarter 1 2023/24. PDF 224 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwilydd adroddiad 'er gwybodaeth' i'r pwyllgor, a oedd
yn darparu statws yr argymhellion a wnaed yn yr archwiliadau hynny lle
gwnaethpwyd y gwaith dilynol yn Chwarter 1 2023/24, a oedd yn caniatáu i'r
Pwyllgor fonitro'r broses o roi’r argymhellion a wnaed gan Archwilio Mewnol ar
waith. Darparodd Atodiad
1 grynodeb o'r argymhellion a dderbyniwyd ac a roddwyd ar waith. Gofynnodd y
Cadeirydd i'r adroddiad hwn gael ei gyfuno â'r adroddiad monitro chwarterol yn
y dyfodol. Holodd y Pwyllgor hefyd ynghylch yr adroddiadau am yr holl risgiau
uchel/canolig a oedd yn weddill na chymerwyd camau yn eu cylch i'w cyflawni yn
y dyfodol er mwyn nodi risgiau hirdymor sy'n weddill. Datganodd y Prif Archwilydd
y byddai unrhyw feysydd na chawsant eu gweithredu yn cael eu hamlygu yn yr
adroddiad dilynol a bod yn rhaid i feysydd gwasanaeth egluro pam nad oeddent
wedi cymryd camau i gyflawni argymhellion.
Ychwanegodd y byddai'n trafod y ddau gais â'r Prif Archwilydd a
gofynnwyd i'r camau gweithredu gael eu cynnwys yn yr Adroddiad Olrhain Camau
Gweithredu. Rhoddodd Ness
Young, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ddiweddariad i'r Pwyllgor ar y
cynnydd ynghylch gosod olrheiniwr camau gweithredu archwilio allanol. Ychwanegodd ei bod yn cymryd mwy o amser na'r
disgwyl ond bod yr holl argymhellion archwilio allanol yn cael eu holrhain ar
hyn o bryd ar daenlen. Byddai adroddiad
ynghylch argymhellion archwilio allanol yn cael ei ddarparu ym mis Rhagfyr 2023
ac ychwanegwyd y camau gweithredu at yr Adroddiad Olrhain Gweithredu. |
|
Trosolwg Risgiau Corfforaethol 2023/24 - Chwarter 1. PDF 311 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Rhoddodd Ness
Young, Cyfarwyddwr Dros Dro'r Gwasanaethau Corfforaethol adroddiad 'er
gwybodaeth' a oedd yn rhoi trosolwg o statws risgiau corfforaethol y cyngor i
roi sicrwydd i'r Pwyllgor eu bod yn cael eu rheoli'n unol â pholisi a
fframwaith rheoli risgiau'r cyngor. Roedd y canlynol
yn crynhoi statws y risgiau a gofnodwyd yn y Gofrestr Risgiau
Corfforaethol ar ddiwedd Chwarter 1 2023/24: - Roedd 4 risg
statws coch yn y Gofrestr Risgiau Corfforaethol Diwedd Ch1
2023/24: ·
Rhif
Adnabod Risg 153: Diogelu. ·
Rhif
Adnabod Risg 159: Rheolaeth Ariannol: Cynllun Ariannol Tymor Canolig ·
Rhif
Adnabod Risg 222: Digidol, Data a Seiberddiogelwch. ·
Rhif
Adnabod Risg 334: Argyfwng costau byw. ·
Cofnodwyd
bod yr holl risgiau corfforaethol wedi'u hadolygu o leiaf unwaith yn ystod Ch1. ·
Ychwanegwyd
un risg newydd at y Gofrestr Risgiau Corfforaethol: Rhif Adnabod Risg 350: Cynllun Trawsnewid
Corfforaethol Abertawe Lwyddiannus
a Chynaliadwy ·
Cafodd
2 risg eu dadactifadu: Rhif Adnabod Risg 309: Rhoi prosiect
Oracle Fusion ar waith. Rhif Adnabod Risg 333: Cynllun Trawsnewid
Corfforaethol. ·
Ni
chafodd unrhyw risgiau eu huwch-gyfeirio i'r Gofrestr
Risgiau Corfforaethol. ·
Ni
chafodd unrhyw risgiau corfforaethol eu tynnu oddi ar y Gofrestr Risgiau
Corfforaethol. ·
Newidiodd
dwy risg gorfforaethol eu statws Coch Oren Gwyrdd (COG) yn ystod Ch1: Rhif Adnabod Risg 309: Prosiect rhoi
Oracle Fusion ar waith – Oren i wyrdd. Rhif Adnabod Risg 290: Effaith Tlodi –
Dim COG i oren. ·
Newidiodd
dwy risg gorfforaethol eu sgôr risg weddilliol yn ystod Ch1: Rhif Adnabod Risg 159: Rheolaeth Ariannol
– Cyflawni'r CATC - sgôr o 20 i
sgôr o 25. Rhif Adnabod Risg 309: Rhoi Prosiect
Oracle Fusion ar waith – sgôr o 8 i sgôr o 2. Roedd Atodiad A
yn cyflwyno'r risgiau a gofnodwyd ar Gofrestr Risgiau Gorfforaethol y cyngor ar
30 Mehefin 2023. Roedd yr adroddiadau ar
gyfer pob risg yn cynnwys gwybodaeth esboniadol gyffredinol yn ymwneud â'u dosbarthiad. Dilynwyd hyn gan
drafodaethau ar y canlynol: - ·
Adolygiad
o'r Fframwaith Rheoli Risgiau Corfforaethol – Y cam cadarnhaol iawn i ddarparu
hyfforddiant rheoli risgiau gan y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth
Cyhoeddus (APSE) i'r Cabinet/TRhC fel rhan o'r
adolygiad, a fyddai'n cael ei gyflwyno i swyddogion. Cadarnhawyd bod y costau hyfforddi'n cael eu
hariannu gan Gronfa Wella Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac y byddai
hyfforddiant pellach yn cael ei ddarparu'n fewnol. ·
Rhif Adnabod
Risg 309 – Rhoi Prosiect Oracle Fusion ar waith –
nodwyd bod y system newydd wedi mynd yn fyw ym mis Ebrill yn unol ag amserlen y
prosiect. ·
Rhif
Adnabod Risg 159 – Rheolaeth Ariannol – Cyflawni CATC – Dywedodd Ben Smith, y
Cyfarwyddwr Cyllid fod cyllid llywodraeth leol yn ddifrifol iawn ar hyn o bryd
a dyma'r sefyllfa bresennol y mae'r cyngor yn ei hwynebu. Ychwanegodd y byddai'r risg yn parhau'n uchel
nes bod y gyllideb ar gyfer 2024/25 wedi'i gosod. Gofynnwyd am yr effaith ar
arbedion trawsnewid. Dywedodd y
Cyfarwyddwr Cyllid er bod yr Awdurdod mewn sefyllfa well na'r rhan fwyaf o
awdurdodau lleol yng Nghymru, fod y sefyllfa ariannol yn parhau i fod yn hynod
sensitif. Ychwanegodd bod cyllideb
2023/24 wedi sicrhau arbedion sylweddol ac roedd trawsnewid yn agwedd bwysig
dros fywyd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.
Fodd bynnag, byddai'r cyngor yn gorfod wynebu gwneud dewisiadau anodd yn
y dyfodol, a allai effeithio ar ei allu i ddod o hyd i arbedion ychwanegol a
buddsoddi mewn prosiectau trawsnewid. ·
Rhif
Adnabod Risg 153 – Diogelu – Holwyd a oedd pwysau'r gweithlu yn parhau a nodwyd
y byddai'r mater yn cael ei godi gyda Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
ym mis Hydref 2023 pan fydd yn cyflwyno'i Adroddiad ar Amgylchedd Rheoli Mewnol
y Gyfarwyddiaeth. |
|
Y Gyfarwyddiaeth Addysg: Amgylchedd Rheoli Mewnol 2023/2024. PDF 507 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd Helen
Morgan-Rees, Cyfarwyddwr Addysg a Kelly Small, Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau
Addysg adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno amgylchedd rheoli'r
Gyfarwyddiaeth Addysg, gan gynnwys rheoli risgiau sydd ar waith i sicrhau: bod
swyddogaethau'n cael eu harfer yn effeithiol; bod adnoddau’n cael eu
defnyddio’n effeithlon ac effeithiol ac yn economaidd a; bod llywodraethu
effeithiol i sicrhau'r trefniadau hyn. Amlinellwyd
dadansoddiad bras o gyllideb y Portffolio Addysg, pwyntiau allweddol i'w nodi,
elfennau allweddol o'r fframwaith sicrhau, elfennau allweddol o drosolwg yr
Awdurdod o drefniadau ariannol ysgolion, manylion trefniadau archwilio ysgolion
ac agweddau allweddol ar drefniadau'r Gyfarwyddiaeth Addysg. Darparwyd
manylion rheoli risgiau, parhad busnes, rheoli perfformiad/DPA, cynllunio,
gwneud penderfyniadau, cyllideb, twyll ac amhriodoldeb,
cydymffurfiaeth â pholisïau, rheolau a gofynion rheoleiddio a rheoli
adnoddau. Ychwanegwyd bod y Risgiau o fewn Addysg wedi'u nodi'n brydlon a'u rheoli ar
lefelau priodol (corfforaethol, cyfarwyddiaeth, gwasanaeth, rhaglen/prosiect),
ac wedi’u lliniaru gyhyd ag y bo modd, fel rhan o'r adolygiad o wasanaethau a
phrosesau'r cylch cynllunio a hunanwerthusiad parhaus. Aethpwyd ati i fonitro
drwy reoli perfformiad y Gyfarwyddiaeth a
mecanweithiau adrodd yng nghyfarfodydd MPA, BAS ac UDAA a byrddau
rhaglen/prosiect gyda risgiau'n cael eu huwch-gyfeirio
fel y bo'n briodol (gan ganolbwyntio'n benodol ar risgiau 'coch'). Rheolwyd risgiau ar lefel rhaglenni
a phrosiectau sy'n gysylltiedig ag Addysg o Safon (AoS)/Rhaglen
Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu drwy raglen aeddfed a phrosesau rheoli
risgiau prosiect yn unol â gofynion corfforaethol ac amodau grant Llywodraeth
Cymru ac argymhellion adolygiad Gateway. Amlygodd yr
adroddiad hefyd nodweddion allweddol dulliau rheoli mewnol, diogelu data a
llywodraethu partneriaethau/cydweithio. Roedd Atodiad A
yn darparu Risgiau’r Gyfarwyddiaeth a
Chorfforaethol (y Gyfarwyddiaeth) ar 1 Medi 2023 ac roedd Atodiad B yn
darparu’r Map Sicrwydd (Cyfarwyddiaeth) diweddaraf. Rhoddodd y
Cyfarwyddwr Addysg ddiweddariad i'r Pwyllgor hefyd ar y cefndir, y cynnydd a
wnaed a'r sefyllfa bresennol ynghylch Ysgol Gynradd Clydach, a oedd mewn
mesurau arbennig ar hyn o bryd, er mwyn rhoi sicrwydd bod yr adran yn monitro'r
sefyllfa'n agos. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Hyfforddiant
caffael - nodwyd bod y niferoedd a oedd yn mynd i'r hyfforddiant wedi bod yn
gadarnhaol ac roedd yr adran yn monitro'r ysgolion oedd wedi mynd iddo. ·
Ysgol
Gynradd Clydach - Cadarnhawyd bod yr ysgol mewn mesurau arbennig ar hyn o bryd,
bod arweinyddiaeth yr ysgol wedi newid ac y dylai'r ysgol fod yn gweithredu'n
iawn ymhen tua 12 mis ac y dylai fod allan o fesurau arbennig mewn tua 18 i 24
mis. Mynegodd y Pwyllgor bryder am y
diffyg rheolaeth ariannol yn yr ysgol. Nododd y
Cadeirydd y byddai'r Panel Craffu Perfformiad Addysg yn monitro'r sefyllfa yn
Ysgol Gynradd Clydach ac ychwanegodd y byddai'r Pwyllgor yn cael sicrwydd o'u
canfyddiadau. Gofynnodd bod hyn yn cael
ei ychwanegu at yr Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddogion am ddarparu adolygiad manwl o'r Gyfarwyddiaeth Addysg. |
|
Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2022-23 (gan gynnwys Adroddiad Hunanasesu). PDF 254 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn
cyflwyno drafft o Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2022/23 y cyngor, sy'n
bodloni'r gofynion statudol i gyhoeddi adroddiad hunanasesu blynyddol ac
adroddiad blynyddol ar les o dan Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
Llywodraeth Leol (Cymru) 2021 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
2015 yn eu tro. Eglurodd y
Cadeirydd fod yr adroddiad wedi'i drafod yng nghyfarfodydd y Grŵp
Llywodraethu Strategol ym mis Mai a mis Awst a bod y Panel Craffu Gwella
Gwasanaethau, Adfywio a Chyllid wedi craffu arno'n
gynnar ym mis Medi 2023, felly roedd wedi bod drwy broses herio. Mynegwyd bod yr
adroddiad yn darparu'r cynnydd yr oedd y cyngor wedi'i wneud i gyflawni'i
amcanion lles, fel y nodir yn ei Gynllun Corfforaethol ar gyfer 2022/23. Amlinellwyd yr
ymagwedd, y dull a'r gwelliannau a wnaed yn dilyn asesiad 2021/22 a chrynodeb o
hunanasesiad 2022/23. Dywedodd Ness
Young, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol mai hon oedd ail flwyddyn yr
hunanasesiad a bod nifer o elfennau wedi'u cynnwys i wneud yr adroddiad yn fwy
hygyrch, gan adlewyrchu sylwadau'r Pwyllgor ar adroddiad 2021-22, wrth sicrhau
hefyd fod gofynion y ddeddf yn cael eu bodloni. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Nid
oedd 30% yn cyrraedd eu targedau perfformiad a sut y byddai'r cyngor yn
adolygu'r wybodaeth. ·
Lefel
y manylion a gynhwysir yn Adran 7 – Meysydd ar gyfer gwelliant parhaus. ·
Yr
angen i'r ddogfen gael ei phrawf ddarllen oherwydd camgymeriadau
teipograffyddol. ·
Ychwanegu
astudiaethau achos at yr adroddiad sy'n gam cadarnhaol. ·
Lefel
y manylion a ddarperir mewn perthynas â gweithio mewn partneriaeth a'r
posibilrwydd o gynnal adolygiadau 360 gradd gyda sefydliadau partner yn y
dyfodol. ·
Cyfraniadau
a wnaed gan staff at yr hunanasesiad a hysbysebwyd yn fewnol mewn gwahanol
leoliadau. ·
Roedd
yr angen i wirio'r ffigurau perfformiad yn gyson â'r rheini yn adroddiadau
perfformiad corfforaethol y Cabinet. ·
Sut i
hwyluso mwy o ymgysylltiad â'r cyhoedd wrth ddatblygu adroddiadau yn y dyfodol. Penderfynwyd: - 1)
Caiff
yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft ar gyfer 2022/23 ei nodi. 2)
Bydd
y diwygiadau awgrymedig i'r adroddiad drafft yn cael eu diweddaru cyn i'r
adroddiad gael ei gyflwyno i'r cyngor. |
|
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 377 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 'er
gwybodaeth'. Amlygodd y
Cadeirydd fod y Pwyllgor i fod i gael gwybod am y cam gweithredu sy’n ymwneud â
Chofnod Rhif 40 – 27/09/22 - Diweddariad ar yr Adroddiad Archwilio Rheoli
Absenoldeb, ym mis Hydref 2023. Dywedodd
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y byddai adroddiad am yr adolygiad o
reoli salwch a'r broses rheoli absenoldeb o'r dechrau i'r diwedd, gan gynnwys Iechyd
Galwedigaethol, yn cael ei roi i'r Tîm Rheoli Corfforaethol ym mis Hydref ac
i'r Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2023. Nodwyd hefyd fod
y camau canlynol wedi'u cwblhau: - ·
Cofnod
17 – 19/07/23 – Adroddiad Cwynion Blynyddol – Diweddariad Chwe Mis. ·
Cofnod
70 – 14/12/22 – Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2021-22. |
|
Rhaglen waith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 227 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am Gynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 'er
gwybodaeth’. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyllid fod Datganiad Cyfrifon drafft ar gyfer
2022/23 ac Adroddiad Archwilio Cyfrifon – Drafft - Dinas a Sir Abertawe –
Archwilio Cymru wedi'u hoedi ac y byddent yn cael eu gohirio tan gyfarfod y
Pwyllgor ym mis Rhagfyr. |