Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel cofnod cywir, yn amodol ar y diwygiadau
canlynol: - Cofnod Rhif 111 –
Strategaeth a Chynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2023/24 – Diwygio paragraff
5, brawddeg 3 i'w darllen fel a ganlyn: - 'Cafwyd
trafodaethau ynghylch maint y cynllun, adnodd hysbys Archwilio Mewnol a’r
potensial ar gyfer profi effeithiolrwydd y gwasanaeth a ddarperir yn hytrach na
phrofi cydymffurfiaeth â gweithdrefnau ariannol yn ymwneud â meysydd risg is. |
|
Adroddiad Blynyddol Drafft y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 251 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd Adroddiad Blynyddol Drafft y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar
gyfer blwyddyn ddinesig 2022/23 i'r Pwyllgor ei adolygu a gwneud sylwadau arno
cyn cyflwyno'r adroddiad terfynol i'r cyngor. Diolchodd i Aelodau'r Pwyllgor a'r swyddogion am eu
gwaith ac ychwanegodd fod yr adroddiad yn dangos ehangder y gwaith a gwmpesir
yn ystod y flwyddyn a'r heriau a wynebir.
Roedd hefyd yn rhoi sicrwydd o ran y meysydd risg sylweddol. Trafododd/amlinellodd y Pwyllgor y canlynol: - ·
Dileu'r
gair 'drafft' o baragraffau 2.5, 2.6 a 2.7 o'r adroddiad. ·
Paragraff
1.8 – cynnwys manylion aelodaeth Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a'i
Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. ·
Paragraff
1.9 – diwygio'r ail frawddeg i ddarllen 'ar gyfer blwyddyn ariannol Ebrill
2022-2023'. ·
Paragraff
1.9 – diwygio brawddeg tri i ddarllen '....Cynllun Corfforaethol y cyngor,
'Darparu Abertawe Lwyddiannus a Chynaliadwy.....' ·
Paragraff
1.9 – diwygio'r frawddeg olaf i 'Cytunodd y Cabinet ar y Strategaeth ym mis
Hydref 2022 ac mae trefniadau ar waith i gyflwyno'r Strategaeth'. ·
Paragraff
1.19 – Ehangu i esbonio natur heriau sylweddol. ·
Paragraff
3.25 – newid y frawddeg olaf i '....Rhagfyr 2022'. ·
Paragraffau
5.1 a 5.3 – Symud brawddegau dau a thri o baragraff 5.3 i ddiwedd paragraff
5.1. ·
Paragraff
5.4 – diwygio i nodi bod y Pwyllgor wedi cyfarfod ar 11 achlysur, nid 12. Penderfynwyd cytuno ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio 2022-2023 ac, yn amodol ar ychwanegu'r gwelliannau a
amlygwyd gan y Pwyllgor, ei anfon i'r cyngor i'w gymeradwyo. |
|
Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2022/23. PDF 253 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Simon
Cockings, Prif Archwiliwr, adroddiad a oedd yn crynhoi'r gwaith a gwblhawyd gan
Archwilio Mewnol 2022/23 ac a oedd yn cynnwys barn y Prif Archwilydd ar gyfer
2022/23, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn. Darparwyd Cynllun
Archwilio Mewnol 2022/23 hyd at 31 Mawrth 2023 yn Atodiad 1. Amlinellwyd
rhestr gyflawn o bob archwiliad a gwblhawyd yn ystod 2022-23, ynghyd â lefel y
sicrwydd a nifer yr argymhellion a wnaed ac a dderbyniwyd yn Atodiad 2 a
manylwyd ar ddangosyddion perfformiad 2022-23 yn Atodiad 3. Darparwyd
manylion y canlynol: - ·
Adolygiad
o 2022/23; ·
Gwaith
dilynol a gwblhawyd; ·
Dangosyddion
perfformiad; ·
Rhaglen
sicrhau ansawdd a gwella a datganiad o gydymffurfio â Safonau Archwilio Mewnol
y Sector Cyhoeddus (PSIAS); ·
Datganiad
o annibyniaeth sefydliadol; ·
Barn
y Prif Archwilydd am y gwaith a gwblhawyd yn 2022-23. Tynnodd y Prif
Archwiliwr sylw at yr absenoldeb salwch o fewn y Tîm Archwilio Mewnol a sut yr
oedd hynny wedi effeithio ar gyflawni Cynllun Archwilio Mewnol 2022-2023. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Manteision
gwahodd swyddogion i gyfarfodydd i ddarparu diweddariadau cynnydd mewn
perthynas ag adroddiadau cymedrol a rôl y Pwyllgor wrth eu cynorthwyo/cefnogi i
wella materion. ·
Adroddiadau
archwilio a gwblhawyd yn y flwyddyn yn sefydlu nifer yr adroddiadau gohiriedig
/ etifeddiaeth, y gwaith sydd yn y cam drafft ar hyn o bryd a’r adroddiadau a
gynhwysir yn y farn, effaith barhaus COVID-19 a arweiniodd at drosglwyddo
gwaith o flynyddoedd blaenorol. ·
Manylion
gweithgareddau archwilio nad ydynt wedi'u cynnwys mewn adroddiadau, e.e.
ardystio grant. ·
Sail
barn y Prif Archwiliwr. ·
Cadarnhad
nad oedd unrhyw feysydd pryder wedi'u nodi gan y Prif Archwiliwr y tu hwnt i'r
6 adroddiad cymedrol a nodwyd eisoes. ·
Adolygiad
o drefniadau llywodraethu o fewn yr Awdurdod a chynnwys hyn o bosib fel rhan o
gasgliad cyffredinol y Prif Archwiliwr. ·
Cadarnhad
y byddai canlyniadau'r Adolygiad o Lywodraethu Corfforaethol yn cael eu bwydo
i'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. ·
Y
sefyllfa adnoddau bresennol o fewn y Tîm Archwilio Mewnol. Amlygodd y
Cadeirydd ei bod wedi bod yn flwyddyn heriol i'r Prif Archwiliwr Mewnol gyda
swyddi gwag/salwch a nododd y ddarpariaeth i hyn barhau o fewn Cynllun
Archwilio 2023-2024. Ychwanegodd fod y
Prif Archwiliwr wedi seilio ei farn ar y gwaith a gwblhawyd, gan amlygu nad
oedd unrhyw faterion arwyddocaol i'w hadrodd ar hyn o bryd a rhoddodd sicrwydd
bod yr Adolygiad Llywodraethu Corfforaethol ar y gweill, gan ganiatáu amser i
adrodd ar unrhyw faterion arwyddocaol a ganfuwyd. Mynegodd y
Cadeirydd a'r Pwyllgor eu diolch i'r Prif Archwiliwr a'r Tîm Archwilio Mewnol
am eu gwaith drwy gydol y flwyddyn flaenorol. Diolchodd y Prif
Archwiliwr i'r Tîm Archwilio Mewnol am eu gwaith drwy gydol y flwyddyn. Penderfynwyd: - 1)
Nodi'r
gwaith a wnaed gan y Tîm Archwilio Mewnol yn 2022/23; 2)
Nodi'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol; 3)
Nodi
barn y Prif Archwilydd. |
|
Y Diweddaraf am Osodiadau Cyrchfan . PDF 234 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Sue
Reed, Rheolwr Datblygu Cymunedau, Partneriaethau a Chyrchfannau a Jamie
Rewbridge, Rheolwr Strategol Hamdden, Partneriaethau, Iechyd a Lles adroddiad
'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y
cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu a ddeilliodd o'r archwiliad mewnol o
gosodiadau cyrchfan yn 2022. Amlinellwyd bod y
Cynllun Gweithredu yn Atodiad A wedi'i ddatblygu i fynd i'r afael â'r argymhellion
a nodwyd yn yr adroddiad archwilio ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y
camau gweithredu a roddwyd ar waith. Rhoddwyd yr
wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y cynnydd o ran Maes Carafanau Bryn y
Mwmbwls. Cadarnhawyd hefyd fod y cabanau sydd ar gael i'w rhentu yn Langland wedi cael ymateb cadarnhaol ac mae pob un wedi'i
rentu a £98,000 wedi ei dderbyn ymlaen llaw drwy systemau ar-lein. Cadarnhaodd y
Prif Archwiliwr fod Archwilio Mewnol yn cynnal adolygiad dilynol ar hyn o bryd
a byddai'r canlyniad yn cael ei adrodd yn adroddiad Chwarter 1 2023-2024. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Symud
i gyfrifon ar-lein ond parhau i ddarparu ar gyfer rhai cwsmeriaid drwy'r post. ·
Y
newid enfawr o'r sefyllfa flaenorol, sut y cafodd yr holl ddyledion a oedd yn
ddyledus eu clirio a'u bod yn gyfredol â'u hamserlenni ad-dalu. Diolchodd y
Swyddogion i'w staff a'u cydweithwyr Archwilio Mewnol am eu cefnogaeth drwy
gydol y broses. |
|
Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2022/23. PDF 144 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol adroddiad a oedd yn
darparu Datganiad Llywodraethu Blynyddol (DLlB)
drafft 2022/23 a gofynnodd am sylwadau'r Pwyllgor cyn i'r adroddiad gael ei
anfon ymlaen i'r cyngor i'w gymeradwyo fel rhan o'r Datganiad Cyfrifon. Cyfeiriodd yr
adroddiad at y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA)
a chanllawiau fframwaith diwygiedig y Gymdeithas Prif Weithredwyr Awdurdodau
Lleol ar y Côd Llywodraethu Corfforaethol, a oedd yn manylu ar y 7 egwyddor a
ddarparwyd o fewn y fframwaith.
Amlinellwyd hefyd fanylion sut roedd yr awdurdod wedi cydymffurfio â'r
fframwaith, ynghyd â materion arwyddocaol a wynebwyd yn ystod y flwyddyn. Darparwyd DLlB 2022/23 drafft yn Atodiad A a
byddai'r fersiwn derfynol yn cael ei hadrodd wrth y cyngor cyn iddo gael ei
lofnodi gan yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr a'i gyhoeddi gyda Datganiad
Cyfrifon archwiliedig 2022/23. Cadarnhaodd y Cynghorydd L V Walton (cynrychiolydd y
Pwyllgor ar y Grŵp Llywodraethu) fod y broses yn parhau'n gadarn a bod
adrannau'n parhau i dynnu sylw at faterion newydd a sylweddol yn brydlon. Ychwanegodd Ben Smith, Cyfarwyddwr Cyllid, fod uwch-reolwyr wedi trafod y
ddogfen ac wedi cael sicrwydd gan y DLlB a oedd yn
gyson ac yn drylwyr. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Agweddau
penodol, e.e. nid yw'r Fargen Ddinesig ar gael yn llawn i'r cyhoedd ac ar y cyfan,
sut roedd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn ddogfen ddefnyddiol iawn. ·
Ystyried
dileu dyblygu yn yr adroddiad yn y dyfodol i'w wneud yn gryno, yn fwy cynnil ac
i ddarparu mwy o effaith; ·
Mae
Fframwaith Solace CIPFA yn fodel arfer da i'w ddilyn. ·
Gellir
dadlau bod effaith COVID-19 yn llai drwy gydol 2022-2023. ·
O
bosib amlygu ymhellach nifer y materion llywodraethu yn Adran 13.12 yr
adroddiad terfynol. ·
Amlygu'r
gwahaniaeth rhwng llywodraethu risgiau a'r risgiau eu hunain. ·
Adran
11.15 – cynnwys nodiadau'r Cyfarfod Blynyddol gydag Arolygiaeth Gofal Cymru
(AGC). Diolchodd y
Cadeirydd i'r Cynghorydd L V Walton a'r swyddogion am eu gwaith gyda'r
Gweithgor Llywodraethu, a oedd o fudd i swyddogion a'r Pwyllgor. Penderfynwyd: - 1)
cadarnhau'r
Datganiad Llywodraethu Blynyddol, ar yr amod bod y gwelliannau a amlygwyd gan y
Pwyllgor yn cael eu hychwanegu. 2)
Cylchredeg
yr adroddiad diwygiedig i'r pwyllgor. 3)
Anfon
yr adroddiad i'r cyngor i'w gymeradwyo fel rhan o'r Datganiad Cyfrifon. |
|
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Hunanasesu arfer da. PDF 257 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Ben
Smith, Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd
yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn hunanasesiad Aelodau'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio o arfer da. Amlinellwyd bod
yr hunanasesiad o effeithiolrwydd y Pwyllgor a'i feincnodi yn erbyn arfer da
CIPFA wedi'i gwblhau ym mis Mawrth / Ebrill 2023. Hwyluswyd y broses gan staff
yr Adran Gyllid a oedd yn gweithredu ar wahân i'r Adran Archwilio Mewnol ac
Aelodau'r Pwyllgor. Ychwanegwyd bod
holl Aelodau'r Pwyllgor wedi derbyn yr holiadur a'r offeryn hunanwerthuso
rhyngweithiol a gyhoeddwyd gan CIPFA.
Crynhowyd y canlyniadau yn Atodiad 1, darparwyd copi o'r offeryn CIPFA
yn Atodiad 2 a darparwyd yr adolygiad blaenorol a hwyluswyd gan Archwilio Cymru
yn Atodiad 3. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Cyfarfod
Aelodau'r Pwyllgor â chynrychiolwyr Archwilio Cymru yn dilyn y cyfarfod. ·
Anghenion
hyfforddi'r Pwyllgor yn y dyfodol, yn enwedig darparu cynllun hyfforddi,
dealltwriaeth o brosesau archwilio cyffredinol, deall y derminoleg a ddefnyddir
a mesur meini prawf a ddefnyddir. ·
Ystyried
ac ehangu gwaith ar bob maes craidd. ·
Gwelliannau
mewn effeithlonrwydd / effeithiolrwydd ers cyflwyno aelodau lleyg i'r Pwyllgor. ·
Y
fantais fawr o gael swyddogion i ymddangos gerbron y Pwyllgor i roi'r wybodaeth
ddiweddaraf am adroddiadau archwilio cymedrol a sut mae hyn yn ysgogi
gwelliannau. Dywedodd y
Cadeirydd mai holl bwrpas y Pwyllgor oedd bod yn heriol yn adeiladol er mwyn
gwella gwasanaethau'r cyngor.
Ychwanegodd ei bod yn bwysig bod y Pwyllgor yn cefnogi ac yn helpu
swyddogion i wella gwasanaethau a chael effaith gadarnhaol. |
|
Archwilio Cymru - Cyngor Dinas a Sir Abertawe - Cynllun Archwilio Amlinellol 2023. PDF 323 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Gillian Gillett, Archwilio Cymru, Gynllun Archwilio Amlinellol 2023. Roedd yr
adroddiad yn manylu ar gyfrifoldebau statudol yr archwiliwr allanol,
gweithgareddau / allbynnau cynlluniedig y tîm archwilio, cyfrifoldebau
archwilio, yr archwiliad o ddatganiadau ariannol, gwaith archwiliad o
berfformiad, y tîm ffïoedd ac archwilio. Amlinellwyd y
dyddiadau allweddol ar gyfer cyflawni'r gwaith archwilio a'r allbynnau
arfaethedig, ynghyd â'r ymrwymiad i ansawdd archwilio Archwilio
Cymru. Roedd Atodiad 1 yn darparu'r
newidiadau allweddol i ISA 315 a'r effaith bosib ar y cyngor. Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolydd Archwilio Cymru am yr adroddiad. |
|
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 359 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am Adroddiad
Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 'er gwybodaeth'. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 131 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Gynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 'er gwybodaeth’. Holodd y Pwyllgor
pryd y byddai cyfarfodydd yn dychwelyd i gylch chwe wythnos. Nodwyd y byddai dyddiadur y cyngor yn cael ei
drafod yng nghyfarfod blynyddol y cyngor ar 18 Mai 2023. Os cytunir ar hyn, byddai cyfarfodydd
pwyllgor yn dechrau cylch chwe wythnos gan ddechrau ar 14 Mehefin 2023. |