Mater - cyfarfodydd

Polisi Goleuo Neuadd y Ddinas.

Cyfarfod: 18/07/2024 - Y Cabinet (Eitem 22)

22 Polisi Goleuo Neuadd y Ddinas. pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb adroddiad i lywio trafodaeth a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet ynghylch mabwysiadu Polisi Goleuo Neuadd y Ddinas ffurfiol.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Y dylid cymeradwyo'r Polisi.

 

2)             Rhoi awdurdod dirprwyedig i Aelod y Cabinet wneud penderfyniadau, mewn ymgynghoriad â'r is-grŵp, ar unrhyw fater sy'n ymwneud â rhoi'r Polisi ar waith gan gynnwys cymeradwyo'r holl geisiadau a wneir o dan y Polisi. Gall Aelod y Cabinet roi'r awdurdod i swyddog o'i ddewis arfer y cyfrifoldeb dirprwyedig ar ei ran, mewn ymgynghoriad ag aelodau'r is-grŵp.

 

3)             Mewn perthynas â cheisiadau brys dylid rhoi cymeradwyaeth i Aelod y Cabinet a all weithredu'n unochrol neu a all awdurdodi swyddog i weithredu'n unochrol yn ei absenoldeb.