Mater - cyfarfodydd

Gweithio Ystwyth a Gweithio Symudol.

Cyfarfod: 19/09/2019 - Y Cabinet (Eitem 63)

63 Rhaglen Gweithio Ystwyth a Gweithio Symudol Ddiwygiedig 2018-2022. pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio diwygio'r Rhaglen Gyfalaf o ran cyflwyno offer TGCH ar gyfer gweithio ystwyth a gweithio symudol.  Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf", i neilltuo ac awdurdodi cynlluniau i'r Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r adroddiad a'r cyllidebau Cyfalaf a'u neilltuo i'r Rhaglen Gyfalaf.