52 Sefydlu Cytundeb Partneriaeth ar gyfer Cronfeydd Cyfun ar gyfer Cartrefi Gofal. PDF 263 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer ymrwymo i gytundeb partneriaeth o dan Adran 33 o Ddeddf
Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot a
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe at ddibenion creu cronfa gyfun ranbarthol
ar gyfer cartrefi gofal.
Penderfynwyd: -
1) Rhoi cymeradwyaeth ar gyfer cytundeb Adran 33, ac y bydd yr awdurdod yn amrywio neu'n diwygio unrhyw un o'r darpariaethau yn y cytundeb, yn ôl y galw, i sicrhau bod trefniadau'n aros yn addas at y diben ac i fodloni rhwymedigaethau o dan ran 9 y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.