40 Adroddiad blynyddol ar weithio rhanbarthol 2018/19 PDF 178 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Arweinydd y
Cyngor adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran
Gweithio Rhanbarthol yn ystod 2018-2019 yn benodol ar gyfer Ein Rhanbarth ar
Waith (ERW), Bae'r Gorllewin (Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg) a
Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.
Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd M H Jones gwestiwn ynghylch diffyg Craffu mewn
perthynas รข Bae'r Gorllewin (Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg).
Esboniodd y Cynghorydd M C Child y byddai'r Bartneriaeth Ranbarthol yn
croesawu'r broses graffu.
Dywedodd Arweinydd y
Cyngor y byddai'n ysgrifennu at y Cadeirydd i ofyn am y diweddaraf am y mater
craffu.