Mater - cyfarfodydd

Social Services Directorate

Cyfarfod: 21/01/2019 - Panel Ymchwilio Craffu - Cydraddoldebau (Eitem 3)

3 Cydraddoldebau - Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Dave Howes, ynghyd â Rachel Moxey a Jane Whitmore yn bresennol yng nghyfarfod y panel a rhoddwyd cyflwyniad PowerPoint ganddynt ar y cwestiynau craidd a anfonwyd cyn y cyfarfod.  Nodwyd y pwyntiau canlynol a oedd yn ychwanegol i'r cyflwyniad.

 

·         Cydgynhyrchu a sut mae'n gweithio  Mae newid fesul cam yn golygu gwneud pethau'n sylweddol wahanol.  Mae'n wahanol am ein bod yn gweithio gyda'n gilydd fel partneriaid cyfartal.  Mae angen llawer o amser er mwyn gwneud hyn yn iawn, mae angen sgil arbennig ac mae angen datblygu rhywfaint o ymddiriedaeth rhwng pawb sy'n rhan o'r broses.  Rhaid i ni fod yn siŵr am yr hyn y gellir ei wneud neu beidio.  Mae rheoli disgwyliadau'n allweddol. Os caiff ei wneud yn dda, mae'n golygu bod penderfyniadau go iawn yn cael eu gwneud ar y cyd.  Rydym ar y camau cynnar, ac yn dysgu wrth i ni fynd yn ein blaenau.  Byddwn yn datblygu strategaeth cydgynhyrchu a gaiff ei llunio'n gydgynhyrchiol.

·         Dylai cydgynhyrchu olygu bod y cynnyrch gorffenedig yn well ac yn fwy tebygol o ddarparu gwasanaethau y mae pobl yn dymuno'u cael a gwneud hynny'n well.  Bydd y gwahaniaeth y bydd hyn yn ei wneud i'r unigolyn yn y dyfodol yn cael ei brofi.

·         Gallai cydgynhyrchu hefyd fod yn ateb i chwalu rhwystrau ond gall fod yn anodd dod o hyd i'r bobl sy'n wirioneddol eithriedig mewn cymunedau a'u cynnwys.  Mae'n her i ni o ran a ydym yn ddigon agored i ddod o hyd i'r unigolion mwyaf eithriedig ac ymgysylltu â nhw.  Gwaith ar droed yw hwn yn bendant. Rydym yn tueddu i weithio gyda'r un bobl dro ar ôl tro; bydd angen i ni gysylltu'n ehangach â phobl.

·         Rydym ar gamau cynnar iawn yn y gwaith cydgynhyrchu hwn ac mae gennym yr uchelgais i wneud hyn yn llawer gwell, ond gallwn wynebu sawl rhwystr wrth wneud hyn.  Rydym yn cydnabod ein bod yn dysgu ein hunain ac yn ceisio bod yn sefydliad sy'n datblygu'n barhaus.  Mae bod yn fwy adeiladol wrth ymgysylltu a chynnwys yn anodd ond yn uchelgeisiol.

·         Yn sgîl ymchwiliad craffu i dlodi ychydig  flynyddoedd yn ôl, rydym yn sefydlu Comisiwn Gwirionedd Tlodi.  Bydd yn cynnwys gweithio gyda phobl sy'n profi tlodi.  Bydd hyn yn cynnwys y cyngor yn ogystal â darparwyr gwasanaethau allweddol eraill.  Rydym yn gweithio gyda'r Pwyllgor Datblygu Polisi i ddatblygu hyn.

·         Yn Abertawe yn y Gwasanaethau Cymdeithasol rydym yn cefnogi'n staff drwy arfer myfyriol.  Edrych yn ofalus ar pam y mae rhywbeth wedi gweithio neu beidio.  Edrych ar y ffactorau allweddol sy'n arwain at y canlyniad rydych chi a'ch teulu wedi'i gyflawni, gan gynnwys rhwystrau, a sut cawsant eu goresgyn.  Mae'n hynod ddefnyddiol hefyd pan fyddwch yn gofyn i'r teulu ar y diwedd. Rydym yn ceisio gwneud mwy o hynny er gall fod yn anodd, yn enwedig os nad y canlyniad a gafwyd yw'r un roeddent wedi gobeithio'i gael. 

·         Rydym yn cydnabod nad yw gweithlu'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn adlewyrchu cymunedau a'r angen i allu uniaethu â'r bobl hynny sydd ar gyrion cymdeithas a/neu sy'n ddiamddiffyn.  Mae staff y Gwasanaethau Cymdeithasol yn tueddu i fod yn ifanc, yn wyn ac yn fenywod gyda staff y Gwasanaethau i Oedolion i'r gwrthwyneb, ac yn bennaf yn fenywod hŷn.  Oes gennym ni strategaeth ddigon cadarn ar gyfer staffio? Na nid yw'n ddigon cadarn, mewn gwirionedd, nid yw'n swydd arbennig o atyniadol.  Rydym yn gwneud ein gorau glas i oresgyn y canfyddiad hwn, ond mae'n anodd.

·         Mae'n un o'n blaenoriaethau yn y dyfodol i sicrhau bod ein gweithlu'n adlewyrchu cymunedau'n well; mae'n bendant yn faes y gallwn ei gryfhau.

·         Mae'r Tîm Tlodi a'i Atal yn fwy amrywiol, ond nid yw o reidrwydd yn ddigon amrywiol; gallai fod gwell cydbwysedd.  Datblygodd amrywiaeth y tîm hwn drwy'r rhaglen Cymunedau'n Gyntaf flaenorol.

·         Os ydym am i'n gweithlu fod yn fwy amrywiol, rhaid i ni fel awdurdod newid ein hymagwedd at arfer recriwtio a chyflogaeth.  Mae hefyd yn anodd edrych ar ba mor amrywiol yw ein gweithlu oherwydd nad yw'r data a gesglir yn arwydd dibynadwy.

·         Nid oes digon o amser nac arian i fynd ati i gydgynhyrchu ar hyn o bryd (cyhoeddus).

·         Gall fod yn anodd dod o hyd i AEC ar wefan y cyngor ac nid yw'n hawdd deall y broses a ddefnyddir.  A ddylid cynnwys pobl y mae penderfyniadau'n effeithio arnynt? (cyhoeddus)

·         Targed o 1% yn unig sydd gan Gyngor Abertawe ar gyfer staff ag anabledd. A yw hwn yn rhy isel? Targed Llywodraeth Cymru yw 5%. (cyhoeddus)

·         Rydym am gael ymagwedd gydgynhyrchiol at ddarparu gwasanaethau ac rydym yn hapus i weithio gyda phobl i ddatblygu hyn.  Mae'r gwaith wedi cychwyn, ond nid yw wedi'i wreiddio.  Mae adnoddau'n broblem.  Ond rydym yn dechrau o sefyllfa nodweddiadol i wneud hyn.

·         Mae angen i fwy o ddogfennau fod yn rhai hawdd eu darllen (cyhoeddus)

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.30pm