123 Peidio â rhoi deunyddiau ailgylchadwy mewn sachau du. PDF 167 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad, a oedd yn
cynnwys cynnig i beidio â rhoi deunyddiau ailgylchadwy mewn sachau du ar ymyl y
ffordd i annog cynnydd mewn ailgylchu er mwyn cyrraedd targedau statudol cynyddol.
Roedd yr ymagwedd hefyd yn ceisio osgoi'r angen i gyfyngu ymhellach ar nifer y
sachau du y gellir eu derbyn neu amlder y casgliadau.
Dywedodd fod canlyniadau’r ymgynghoriad
wedi’u cylchredeg.
Penderfynwyd:
1) Cynghori preswylwyr na chaniateir gosod y deunyddiau ailgylchadwy a restrir isod yn eu gwastraff gweddilliol (sachau du):
Ø Bwyd;
Ø Caniau a thuniau;
Ø Poteli gwydr a jariau;
Ø Papur a chardbord;
Ø Poteli plastig, tybiau a hambyrddau (rhaid gosod haenau neu blastig tenau yn y sachau du o hyd).
2)
Dechrau
proses Hyrwyddiadau Ailgylchu i wirio sachau du am ddeunyddiau ailgylchadwy
sylweddol;
3)
Dilyn
y broses a nodir ym mharagraffau 4.3 i 5.1 yr adroddiad i geisio newid
sylweddol o ran rheoli gwastraff ac ailgylchu yn y cartref.