135 Trefniadau Tâl Crwneriaid. PDF 112 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Prif Swyddog Cyfreithiol a'r Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygiad
Sefydliadol adroddiad ar y cyd, a oedd yn ceisio cytundeb i fabwysiadu
Fframwaith y Cydbwyllgor Trafod i gynorthwyo'r broses wneud penderfyniadau wrth
benderfynu ar gyflog crwneriaid a'i osod.
Penderfynwyd:
1)
Cytuno
ar Fframwaith ac Arweiniad Cyflog y Cydbwyllgor Trafod a'u mabwysiadu at
ddibenion gosod cyflog ar gyfer crwneriaid;
2)
Gosod
lefel cyflog Uwch-grwner Dinas a Sir Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ar
£127,000 cyflog gros;
3)
Ôl-ddyddio'r codiad cyflog i 1 Tachwedd 2017 pan gafodd Fframwaith y
Cydbwyllgor Trafod ei gyhoeddi;
4)
Erys
cyfradd ddyddiol y Crwneriaid Cynorthwyol yn £400 y dydd.