Clerc Cyngor
Tref sy'n cynghori'r Cyngor Tref ac yn eu cynorthwyo i ddatblygu polisïau i'w
dilyn wrth ymgymryd â'u gweithgareddau. Y Clerc hefyd
sy'n cynhyrchu'r holl wybodaeth y mae ei hangen i
wneud penderfyniadau effeithiol a'u gweithredu.
Clerc y Cyngor Tref sy'n bennaf gyfrifol am weinyddiaeth a
chyllid y Cyngor Tref. Y Clerc sy'n gweithredu fel Swyddog
Ariannol Cyfrifol y Cyngor Tref.
Mae prif ddyletswyddau Clerc Cyngor Tref yn cynnwys:
· Cymryd cofnodion
mewn cyfarfodydd a'u dosbarthu.
· Ysgrifennu
llythyrau a gwneud galwadau ffôn ynghylch materion a godwyd mewn cyfarfodydd.
· Derbyn post a
pharatoi rhestrau a dosbarthu gwybodaeth i Gynghorwyr rhwng cyfarfodydd.
· Cysylltu â'r
Cadeirydd.
· Paratoi Agendâu.
· Delio â
cheisiadau cynllunio yn y Gymuned a phan fo hynny'n
berthnasol cysylltu â Chyngor y Ddinas ynghylch cynlluniau o'r fath.
· Paratoi cyfrifon
diwedd y flwyddyn i'w harchwilio.
· Hysbysu Cyngor y
Ddinas ynghylch unrhyw swyddi gwag sy'n codi ar y Cyngor a delio â'r swyddi
gwag hynny yn unol â chyfraith statudol.
Cyswllt:
Nigel Havard, Clerk
Cyfeiriad:
30 Huntingdon Way
Tycoch
Abertawe
SA2 9HN
Ffôn: 01792 419121
E-bost: clerk@llwchwrtowncouncil.gov.uk
Gwefan: https://www.llwchwrtowncouncil.org/
Nid yw Swansea Council yn gyfrifol am gynnwys unrhyw linc allanol