Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Manylion y mater

Dyfarnu Contract ac awdurdodi'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer adeilad newydd i YGG Tan-y-lan.

Yn dilyn proses ymgynghori statudol ym mis Mawrth 2019, cymeradwyodd y Cabinet y cynnig i godi adeilad newydd ar gyfer YGG Tan-y-lan â lle i 420 o ddisgyblion, ynghyd â dosbarth meithrin, yn Heol Beacons View, y Clâs.

 

Cymeradwywyd yr Achos Busnes Amlinellol mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2018. Cafwyd caniatâd cynllunio ar 7 Mai 2019.

Cynhaliwyd proses tendro adeiladu yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf 2019. Mae'r Swyddog cyfrifol yn fodlon bod y broses dendro wedi'i chynnal yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 a'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau y cyngor ac argymhellir cymeradwyo dyfarnu'r contract ar y sail honno.

 

Mae'r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth i ddyfarnu'r contract yn unol â Rheol 13.10 y Gweithdrefnau Contract, ac ymrwymo'r cynllun i'r rhaglen gyfalaf yn unol â Gweithdrefn Ariannol 7.

Math o fusnes: Key

Statws: Argymhellion wedi'u Cymeradwyo

Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 20/09/2019

Angen Penderfyniad: 17 Hyd 2019 Yn ôl Y Cabinet

Prif Aelod: Aelod y Cabinet - Addysg a Dysgu

Prif Gyfarwyddwr: Pennaeth Gwasanaeth - Addysg, Cynllunio ac Adnoddau

Cyswllt: Louise Herbert-Evans, Pennaeth yr Uned Cynllunio a Chyflwyno Cyfalaf E-bost: louise.herbert-evans@swansea.gov.uk.

Eitemau agenda