Mae Is-adran Cynllunio Strategol ac Amgylchedd Naturiol y cyngor wedi bod
yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Green Infrastructure
Consultancy i ddatblygu strategaeth isadeiledd gwyrdd
a fydd yn cyflawni nodau Fframwaith Adfywio Ardal Ganolog Abertawe gan sicrhau
bod canol y ddinas yn elwa o welliannau isadeiledd gwyrdd wedi'u cynllunio'n
strategol.
Mae'r strategaeth yn archwilio buddion a chost-effeithiolrwydd
isadeiledd gwyrdd h.y. llai o berygl o lifogydd, oeri yn yr haf, aer a dŵr
glanach, llai o sŵn, gwell iechyd meddwl a chorfforol, mwy o fioamrywiaeth
ac economi gryfach. Bydd yn galluogi'r cyngor a rhanddeiliaid
i gymryd ymagwedd fwy gwybodus a chysylltiedig tuag at fwyafu'r
buddion hyn a bydd yn hybu hyder buddsoddwyr mewn isadeiledd gwyrdd yng nghanol
y ddinas.
Bydd yn
ffurfio rhan o gyfres o ddogfennau a ddyluniwyd i lywio holl gynlluniau a
datblygiadau defnydd tir yn y dyfodol, gan gefnogi Rhwydwaith Isadeiledd Gwyrdd
Strategol Polisi ER 2 y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).
Bydd y strategaeth hefyd yn cyfrannu at ddyletswyddau'r cyngor o dan
Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf yr Amgylchedd
(Cymru) 2016 a bydd yn cefnogi cais Safon Systemau Draenio Cynaliadwy Statudol
2019.
Math o fusnes: Allweddol
Statws: Argymhellion wedi'u Cymeradwyo
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 23/08/2019
Cyfyngiad Disgwyliedig: Agorwch -
Angen Penderfyniad: 17 Hyd 2019 Yn ôl Y Cabinet
Prif Aelod: Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad (Y Ddirprwy Arweinydd)
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Lleoedd
Cyswllt: Penny Gruffydd, Sustainable Policy Officer E-bost: penny.gruffydd@swansea.gov.uk.