Mae’r prosiect hwn yn rhan o Fand B Rhaglen Ysgolion yr
21ain Ganrif ac os caiff ei gymeradwyo, fe’i hariennir ar y cyd gan Lywodraeth
Cymru a Chyngor Abertawe.
Mae’r prosiect yn amodol ar gymeradwyo’r cais cynllunio ac
ar Lywodraeth Cymru’n cymeradwyo achosion busnes.
Diben y gwaith i ailfodelu ac adnewyddu’r adeilad presennol
yw mynd i’r afael â materion cyflwr ac addasrwydd. Cyflwynir y rhaglen waith
fesul cam fel y bo’n briodol er mwyn blaenoriaethu’r ardaloedd lle mae’r angen
mwyaf. Bydd y cynnig yn gwella cyfleusterau’r ysgol ond ni fydd yn cynyddu
nifer y lleoedd i ddisgyblion sy’n 1094 ar hyn o bryd. Hefyd bydd angen
dymchwel yr hen gabanau presennol sy’n is na’r safon.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion wedi'u Cymeradwyo
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 17/05/2019
Cyfyngiad Disgwyliedig: Hollol Eithriedig - View reasons
Angen Penderfyniad: 20 Meh 2019 Yn ôl Y Cabinet
Prif Aelod: Aelod y Cabinet - Addysg a Dysgu
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Lleoedd
Cyswllt: Louise Herbert-Evans, Pennaeth yr Uned Cynllunio a Chyflwyno Cyfalaf E-bost: louise.herbert-evans@swansea.gov.uk.