Ar 15 Rhagfyr 2016 cymeradwyodd y Cabinet
gynlluniau Cyngor Dinas a Sir Abertawe i adnewyddu ei holl wasanaeth EOTAS yn
sylweddol i ddarparu arfer sy'n arwain y sector. Y nod yw ail-lunio'r
gwasanaeth er mwyn datblygu arfer da presennol, a thrawsnewid y ddarpariaeth i
gefnogi plant diamddiffyn a'u teuluoedd ac i fodloni'r gofyn i ddarparu addysg
amser llawn addas yn brydlon i'r plant a'r bobl ifanc y mae angen iddynt gael
addysg mewn lleoliad heblaw'r ysgol. Mae'n rhaid ystyried hyn hefyd yng
nghyd-destun y polisi cenedlaethol sy'n datblygu, gan gynnwys yr adroddiad
diweddar gan Estyn (Mehefin 2016) yn ogystal â phwysau cyllidebol cenedlaethol
a lleol.
Roedd argymhellion a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr
2016 yn cynnwys cynnig i ailstrwythuro Uned Atgyfeirio Disgyblion Abertawe'n
dri llinyn (ABC), er mwyn cyflwyno addysg mewn awyrgylch dysgu sy'n addas at y
diben.
Cymeradwywyd datblygiad cynllun am Uned
Atgyfeirio Disgyblion newydd ar dir yn Heol y Cocyd a chyflwyniad cais
cynllunio manwl gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2017.
Cymeradwywyd caniatâd cynllunio ar gyfer
dymchwel 3 adeilad ar y safle ac adeiladu cyfleuster pwrpasol 3500m2
ym mis Mawrth 2018.
Byddai'r cyfleuster newydd arfaethedig mewn un adeilad a fydd yn rhoi darpariaeth benodol ar gyfer pob Uned Atgyfeirio Disgyblion. Fe'u gwahenir yn briodol a bydd gan bob un fynediad addas i gyrtiau mewnol. Yn allanol, bydd gan bob un fynediad i'w leoedd hamdden dynodedig, a bydd digon o fannau casglu a gollwng ar gyfer cerbydau. Bydd swyddfa gweithio ystwyth addas yn yr adeilad ar gyfer y tîm Cefnogi Ymddygiad a'r tîm Tiwtora Gartref er mwyn darparu mwy o gefnogaeth effeithiol ar y safle.
Math o fusnes: Allweddol
Statws: Argymhellion wedi'u Cymeradwyo
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 28/09/2018
Cyfyngiad Disgwyliedig: Agorwch -
Angen Penderfyniad: 18 Hyd 2018 Yn ôl Y Cabinet
Prif Aelod: Aelod y Cabinet - Addysg a Dysgu
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Addysg
Cyswllt: Louise Herbert-Evans, Pennaeth yr Uned Cynllunio a Chyflwyno Cyfalaf E-bost: louise.herbert-evans@swansea.gov.uk.