Mae'r Cynllun Hawliau Plant a
Phobl Ifanc yn nodi'r trefniadau y bydd Dinas a Sir Abertawe'n
eu rhoi ar waith i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'i dyletswydd i roi sylw
priodol i'r CCUHP. Mae'n rhoi
tryloywder o ran y prosesau a fydd yn cael eu dilyn er mwyn cydymffurfio â'r
ddyletswydd, ac yn amlinellu gweithdrefnau monitro a chanlyniadau disgwyliedig.
Mae'r adroddiad yn cynnwys;
· Trosolwg
o sut y datblygwyd y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc a sut mae'n cael ei
weithredu.
· Manylion
am sut rydym wedi hyrwyddo gwybodaeth am y CCUHP a dealltwriaeth ohono trwy
sesiynau hyfforddi a chynyddu ymwybyddiaeth
· Sut
rydym wedi gweithredu ymagwedd cyngor cyfan at Hawliau Plant
· Cyfranogiad
plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau am bethau sy'n effeithio arnynt
(Erthygl 12)
· Atebolrwydd
a chydymffurfio
· Camau
nesaf wrth edrych i'r dyfodol
Math o fusnes: Allweddol
Statws: Argymhellion wedi'u Cymeradwyo
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 31/08/2018
Cyfyngiad Disgwyliedig: Agorwch -
Angen Penderfyniad: 20 Rhag 2018 Yn ôl Y Cyngor
Prif Aelod: Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Plant
Prif Gyfarwyddwr: Pennaeth Gwasanaeth - Tlodi a'i Atal
Cyswllt: Katie Spendiff, Cydlynydd Hawliau Plant E-bost: Katie.Spendiff@swansea.gov.uk, Jane Whitmore, Comisiynydd Strategol Arweiniol E-bost: jane.whitmore@swansea.gov.uk.