Mae Cynghorwyr Hyrwyddo'n bodoli i roi llais i grwpiau
sydd wedi'u tangynrychioli'n
draddodiadol, neu faterion
y mae angen eu cadw ar flaen
busnes y cyngor er nad
ydynt efallai'n gyfrifoldeb
i unrhyw unigolyn neu bwyllgor.
Mae Cynghorwyr Hyrwyddo, (weithiau o'r enw Aelodau Arweiniol neu Aelodau
Hyrwyddo), yn ychwanegol at eu cyfrifoldebau
eraill, yn sicrhau bod y mater neu'r
grŵp maent yn ei hyrwyddo'n cael ei ystyried wrth lunio
polisi'r cyngor a gwneud penderfyniadau.
Gall Cynghorwyr weithredu fel hyrwyddwyr nifer o feysydd megis gwrthdlodi,
bioamrywiaeth, plant, cydraddoldebau,
gwella iechyd, digartrefedd, cefnogi a datblygu aelodau, pobl hŷn, craffu a phobl ifanc. Nid yw'r
rhestr hon yn gynhwysfawr.
Penodir Cynghorwyr Hyrwyddo gan Arweinydd y
Cyngor
Yn nodweddiadol, bydd yr Cynghorwyr Hyrwyddo'n:
·
sicrhau yr ystyrir ei faes diddordeb wrth lunio polisi neu wneud penderfyniadau;
· gofyn cwestiynau
am berfformiad ac adnoddau i'r maes;
·
codi proffil y maes ac yn rhoi gwybod i'r
awdurdod am arfer da; ymgysylltu
â chyrff allanol sy'n gweithio yn y maes;
· cysylltu â swyddogion ac aelodau eraill mewn
perthynas â'r rôl;
· ymgysylltu â grwpiau cymunedol â diddordeb/budd yn y maes;
· rhoi gwybod i'r Cynghorwyr am gamau gweithredu trwy'r cyngor, corff perthnasol arall neu'n electronig.