Mae Cynghorwyr Hyrwyddo'n
bodoli i roi llais i
grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli'n draddodiadol, neu faterion y mae
angen eu cadw ar flaen
busnes y cyngor er nad ydynt
efallai'n gyfrifoldeb i unrhyw unigolyn
neu bwyllgor.
Mae Cynghorwyr Hyrwyddo,
(weithiau o'r enw Aelodau Arweiniol
neu Aelodau Hyrwyddo), yn ychwanegol
at eu cyfrifoldebau eraill, yn sicrhau
bod y mater neu'r grŵp
maent yn ei hyrwyddo'n cael
ei ystyried wrth lunio polisi'r
cyngor a gwneud penderfyniadau.
Gall Cynghorwyr weithredu
fel hyrwyddwyr nifer o feysydd megis gwrthdlodi, bioamrywiaeth, plant, cydraddoldebau,
gwella iechyd, digartrefedd, cefnogi a datblygu aelodau, pobl hŷn, craffu a phobl ifanc. Nid yw'r rhestr
hon yn gynhwysfawr.
Penodir Cynghorwyr Hyrwyddo
gan Arweinydd y Cyngor
Yn nodweddiadol, bydd
yr Cynghorwyr Hyrwyddo'n:
·
sicrhau yr ystyrir ei faes diddordeb
wrth lunio polisi neu wneud
penderfyniadau;
·
gofyn cwestiynau am berfformiad
ac adnoddau i'r maes;
·
codi proffil y maes
ac yn rhoi gwybod i'r awdurdod
am arfer da; ymgysylltu
â chyrff allanol sy'n gweithio yn
y maes;
·
cysylltu â swyddogion ac aelodau eraill mewn perthynas â'r rôl;
·
ymgysylltu â grwpiau cymunedol
â diddordeb/budd yn y maes;
·
rhoi gwybod
i'r Cynghorwyr am gamau gweithredu trwy'r cyngor, corff perthnasol arall neu'n electronig.