Mae Cynghorwyr
Hyrwyddo'n bodoli i roi llais
i grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli'n
draddodiadol, neu faterion y mae
angen eu cadw ar flaen
busnes y cyngor er nad ydynt
efallai'n gyfrifoldeb i unrhyw unigolyn
neu bwyllgor.
Mae Cynghorwyr Hyrwyddo,
(weithiau o'r enw Aelodau Arweiniol
neu Aelodau Hyrwyddo), yn ychwanegol
at eu cyfrifoldebau eraill, yn sicrhau
bod y mater neu'r grŵp
maent yn ei hyrwyddo'n cael
ei ystyried wrth lunio polisi'r
cyngor a gwneud penderfyniadau.
Gall Cynghorwyr weithredu fel hyrwyddwyr nifer o feysydd megis gwrthdlodi, bioamrywiaeth, plant, cydraddoldebau,
gwella iechyd, digartrefedd, cefnogi a datblygu aelodau, pobl hŷn, craffu a phobl ifanc. Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr.
Penodir Cynghorwyr Hyrwyddo gan Arweinydd y Cyngor
Yn nodweddiadol,
bydd yr Cynghorwyr
Hyrwyddo'n:
· sicrhau yr ystyrir ei
faes diddordeb wrth lunio polisi
neu wneud penderfyniadau;
· gofyn cwestiynau am berfformiad
ac adnoddau i'r maes;
· codi proffil y maes ac yn rhoi gwybod
i'r awdurdod am arfer da; ymgysylltu â chyrff allanol sy'n gweithio yn
y maes;
· cysylltu
â swyddogion ac aelodau eraill mewn perthynas
â'r rôl;
· ymgysylltu
â grwpiau cymunedol â diddordeb/budd yn y maes;
· rhoi gwybod i'r Cynghorwyr
am gamau gweithredu trwy'r cyngor, corff perthnasol arall neu'n electronig.