Cyfrifoldebau

Cynghorydd Hyrwyddwr dros faterion LGBT (Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol)

Disgrifiad

Mae Cynghorwyr Hyrwyddo'n bodoli i roi llais i grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli'n draddodiadol, neu faterion y mae angen eu cadw ar flaen busnes y cyngor er nad ydynt efallai'n gyfrifoldeb i unrhyw unigolyn neu bwyllgor.

Mae Cynghorwyr Hyrwyddo, (weithiau o'r enw Aelodau Arweiniol neu Aelodau Hyrwyddo), yn ychwanegol at eu cyfrifoldebau eraill, yn sicrhau bod y mater neu'r grŵp maent yn ei hyrwyddo'n cael ei ystyried wrth lunio polisi'r cyngor a gwneud penderfyniadau.

Gall Cynghorwyr weithredu fel hyrwyddwyr nifer o feysydd megis gwrthdlodi, bioamrywiaeth, plant, cydraddoldebau, gwella iechyd, digartrefedd, cefnogi a datblygu aelodau, pobl hŷn, craffu a phobl ifanc. Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr.

Penodir Cynghorwyr Hyrwyddo gan Arweinydd y Cyngor

Yn nodweddiadol, bydd yr Cynghorwyr Hyrwyddo'n:

·                     sicrhau yr ystyrir ei faes diddordeb wrth lunio polisi neu wneud penderfyniadau;

·                     gofyn cwestiynau am berfformiad ac adnoddau i'r maes;

·                     codi proffil y maes ac yn rhoi gwybod i'r awdurdod am arfer da; ymgysylltu â chyrff allanol sy'n gweithio yn y maes;

·                     cysylltu â swyddogion ac aelodau eraill mewn perthynas â'r rôl;

·                     ymgysylltu â grwpiau cymunedol â diddordeb/budd yn y maes;

·                     rhoi gwybod i'r Cynghorwyr am gamau gweithredu trwy'r cyngor, corff perthnasol arall neu'n electronig.

 

Gwneir y swydd gan