eDdeisebau

Mae e-ddeiseb yn ddeiseb sy'n casglu llofnodion ar-lein. Mae hyn yn caniatáu i ddeisebau a gwybodaeth ategol fod ar gael i gynulleidfa lawer ehangach na deiseb bapur, draddodiadol.

Gall unrhyw un sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yn Abertawe gyflwyno neu lofnodi e-Ddeiseb.

Mae e-Ddeisebau yn rhan o ymrwymiad parhaus Cyngor Abertawe i wrando a gweithredu ar farn y cyhoedd.

Dewiswch amrediad dyddiad cynharach isod i ddod o hyd i e-ddeisebau ac ymatebion gan y cyngor.

Nid oes unrhyw e-ddeisebau ar hyn o bryd

Cefnogi e-Ddeiseb

I gefnogi e-Ddeiseb sydd eisoes yn bodoli, dewiswch e-Ddeiseb ac ychwanegwch eich enw, eich cyfeiriad a'ch cyfeiriad e-bost.

I gael rhagor o wybodaeth am y mater, gweler yr wybodaeth ategol, a ddarparwyd gan y prif ddeisebwr, sy'n atodedig i'r e-Ddeiseb.

Cyflwyno e-Ddeiseb

Gall e-Ddeiseb ymwneud ag unrhyw fater y mae gan y cyngor bwerau neu ddyletswyddau yn ei gylch neu y mae gan y cyngor gyfrifoldebau cyflawni a rennir yn ei gylch drwy drefniant partneriaeth.

Ymwadiad

Ni fydd unrhyw atebolrwydd ar Ddinas a Sir Abertawe am y deisebau ar y gwedudalennau hyn. Nid yw'r farn a fynegir yn y deisebau o anghenraid yn adlewyrchu barn y darparwyr.