Mae penderfyniadau dirprwyedig yn benderfyniadau a wneir gan ddeiliaid Portffolio’r Cabinet yn unol â’r cynllun Dirprwyo. Oni bai eu bod wedi’u heithrio, nid yw penderfyniadau’n derfynol tan ddiwedd y cyfnod galw i mewn ac ni chafwyd unrhyw heriau.
Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod i ddod o hyd i wybodaeth am benderfyniadau dirprwyedig a wnaed gan Aelodau Cabinet y Cyngor (y cyfeirir atynt yma fel Aelodau Gweithredol).
Fel arall gallwch ymweld â'r dudalen Penderfyniadau Swyddogion i gael gwybodaeth am benderfyniadau a ddirprwyir i swyddogion a wnaed gan swyddogion y cyngor.
Cymeradwyo gwariant cyfalaf ar gyfer bwriad arfaethedig adran Glanhau i brynu cerbydau newydd ar gyfer 2024/25.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarwyddwr Lleoedd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/08/2024
Effective from: 20/08/2024
Penderfyniad:
Cymeradwy FPR7.
Prif swyddog: Mark Barrow
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/08/2024 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 07/08/2024
Effective from: 06/08/2024
Penderfyniad:
Cymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/08/2024 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 07/08/2024
Effective from: 06/08/2024
Penderfyniad:
1. 2024/0277/S73 – Cymeradwywyd
2. 2024/0733/FUL – Cymeradwywyd
3. 2023/1174/FUL – Cymeradwywyd
4. 2023/1175/LBC – Cymeradwywyd
5. 2024/0604/S73 – Cymeradwywyd
6. 2024/0081/FUL - Cymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/08/2024 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 07/08/2024
Effective from: 06/08/2024
Penderfyniad:
Dim
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/08/2024 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 07/08/2024
Effective from: 06/08/2024
Penderfyniad:
Cymeradwywyd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/08/2024 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 07/08/2024
Effective from: 06/08/2024
Penderfyniad:
Y Cynghorydd M H Jones – Eitem 1 (2024/0277/S73) – Personol
Y Cynghorydd R A Williams – Eitem 6 (2024/0081/FUL) – Personol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Craffu - Grŵp Cynghorwyr Craffu Partneriaeth
Gwnaed yn y cyfarfod: 24/06/2024 - Craffu - Grŵp Cynghorwyr Craffu Partneriaeth
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 06/08/2024
Effective from: 24/06/2024
Penderfyniad:
Mae'r
cytundeb cyfreithiol yn nodi y dylai’r holl gyfarwyddwyr addysg o bob un o'r
cynghorau fod yn bresennol gyda'i gilydd a dylai cadeirydd y cyd-bwyllgor fod
yn bresennol, o leiaf unwaith y flwyddyn. Er mwyn ceisio sicrwydd ac
ystyried a yw Partneriaeth yn gweithredu yn unol â'r cytundeb cyfreithiol, ei
chynllun busnes a bod ei amserlen yn cael ei rheoli'n effeithiol gwnaed y
canlynol:
1. Rhoddodd Cadeirydd Cyd-bwyllgor
Partneriaeth ei farn ar sut mae pethau’n mynd yn eu blaen. Croesawodd grŵp y
cynghorwyr Glynog Davies.
Yna, amlinellodd ei farn fel a
ganlyn:
· Mae angen arweinyddiaeth gref
ar draws y rhanbarth ac rydym yn gwerthfawrogi'r rhaglen hon a hyrwyddo'r
gwaith hwn. Byddwn yn annog pob ymarferwr i ymwneud ag un o'r rhaglenni hyn.
· Mae’n bwysig sylweddoli bod
Partneriaeth yn dal yn gymharol newydd ac ar daith.
· Rwy’n hapus ac yn hyderus bod
yr hyn sy’n digwydd yn cyd-fynd â’r cynllun busnes a’r cytundeb cyfreithiol a’i
fod yn atgyfnerthu’r cysylltiadau rhwng y tri chyngor.
Gofynnodd grŵp y cynghorwyr:
· A ydym yn mynd ag athrawon
gyda ni ar y daith hon i gyflwyno’r cwricwlwm newydd?
Dywedodd y Cynghorydd Davies ei fod yn gwricwlwm diddorol iawn, ond yn y
gorffennol rhoddwyd cynllun i athrawon ei ddilyn. Mae mor wahanol yn awr, ond
rwy’n cael adroddiadau rhagorol.
Dywedodd Gareth Morgans (Sir Benfro) ei fod yn cael adborth rheolaidd
oherwydd y berthynas waith agos rhwng ei swyddogion a swyddogion Partneriaeth.
Mae hyn wedi datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf a chanlyniad hyn yw bod y
ddarpariaeth yn llawer mwy pwrpasol ac yn llawer mwy perthnasol i ysgolion
unigol.
Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Arweiniol). Mae hefyd yn bwysig
cydnabod bod Partneriaeth yn addasu i ofynion ac anghenion lleol.
Ian Altman (Swyddog Arweiniol). Bu symudiad yn awr o gymorth lefel
uchel i ddull mwy pwrpasol i ddiwallu anghenion ysgolion unigol ac mae hefyd yn
ymwneud â’r math o gymorth sydd ar gael i athrawon a’r math a’r lefel gywir
ohono.
· Beth yw’r prif wahaniaeth
rhwng sut mae Partneriaeth yn gweithredu nawr a sut yr oedd y bartneriaeth
flaenorol yn gweithredu? Clywodd y grŵp fel a ganlyn:
Mae’n broses llawer mwy cydweithredol.
Mae maint y sefydliad bellach yn llawer llai sy'n ei wneud yn llawer haws
i'w reoli.
Mae'r sefydliad yn gwrando ar randdeiliaid ac, yn bwysig, yn ymateb yn
bwrpasol.
Mae’n addasu ac yn newid i ddiwallu’r
angen lleol.
Ceir sgyrsiau anffurfiol a ffurfiol gyda’r cyfarwyddwyr bob mis.
Mae’n agored, yn dryloyw ac yn barod i ymateb.
Glynir at y cytundeb cyfreithiol a’r cynllun busnes.
Mae ein hathrawon a’n harweinwyr wedi gwir werthfawrogi canolbwyntio ar ddilyniant
sgiliau disgyblion ac mae cael yr arbenigedd hwnnw o fewn Partneriaeth, hy
canolbwyntio’n benodol ar lythrennedd, rhifedd, gwyddoniaeth, ac ati, wedi magu
hyder gwirioneddol ar draws y system ac mae hynny’n cael ei werthfawrogi’n
fawr. Wrth gwrs, mae addysgu da yn cefnogi cwricwlwm da ac mae’r rhaglen
‘addysgu â phwrpas’ wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran dychwelyd i’r pethau
sylfaenol gan wneud yn siŵr bod addysgeg dda yn arwain at gynnydd da gan
ddisgyblion. Mae'r rhaglen wedi bod o gymorth mawr i ymarferwyr fyfyrio ar eu
hymarfer ac i adeiladu arno. Mae’r gefnogaeth i ysgolion uwchradd wedi’i
hatgyfnerthu ymhellach ac wedi’i theilwra ymhellach ac mae’n fwy pwrpasol fyth.
2. Gofynnwyd i gyfarwyddwyr unigol pob
awdurdod lleol roi eu barn ar sut mae pethau yn mynd eu blaen o ran eu cyngor hwythau,
beth yw’r heriau allweddol y maent yn eu hwynebu, a gofynnwyd am sicrwydd gan
bob cyngor eu bod yn credu bod Partneriaeth yn gweithredu yn unol â’r cytundeb
cyfreithiol, ei gynllun busnes a bod ei amserlen yn cael ei rheoli'n
effeithiol.
Gareth Morgan – Cyfarwyddwr Addysg Sir
Gaerfyrddin
· Mae ystod eang o gyrsiau'n
cael eu cyflwyno. Mae’r heriau’n ymwneud â chyllid rhai ysgolion neu’r gallu i
gael staff cyflenwi er mwyn rhyddhau ymarferwyr fel bod modd iddynt fynychu’r
digwyddiadau.
· Cafwyd digwyddiad ymarfer ar y
cyd ac mae un arall wedi'i gynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod.
· Cafwyd trafodaethau rheolaidd
â chyfarwyddwyr.
· Gall Partneriaeth fod o fudd a
gall helpu awdurdodau lleol unigol i gyflawni eu hamcanion.
· Ymchwil – gwaith da yn y maes
hwn i gefnogi ein dysgwyr, mae’n bwysig rhannu’r arfer da hwnnw.
· Mae darpariaeth leol yn cael
ei thrafod; rydym i gyd yn gweithio'n agos gyda'n gilydd.
· Rwy’n gadarnhaol ynglŷn â
ble mae’r arian yn cael ei wario a’i fod yn dryloyw.
Helen Morgan Rees, Cyfarwyddwr Addysg
Abertawe
· Ategaf yr hyn y mae Gareth
wedi’i ddweud a byddwn yn amlinellu rhai meysydd cyffredinol i’w gwella
Ni ddylai’r adran Adnoddau Dynol ddefnyddio brand Partneriaeth yn ddiangen
Llai o theori i alluogi athrawon i wneud pethau ymarferol yn yr ystafell
ddosbarth sydd o ddefnydd ac o werth i athrawon.
Rhaid i’r gwaith o ddatblygu arweinwyr y dyfodol o ansawdd uchel barhau fel
elfen hanfodol ar gyfer cefnogi ein hysgolion yn y dyfodol.
Mae Swyddogion Gwella Ysgolion yn yr awdurdodau lleol hefyd wedi bod yn
allweddol o ran gallu gwella cymorth ar gyfer addysgu a dysgu yn ein hysgolion.