Yn sgîl trefniadau llywodraethu
newydd a gytunwyd yn 2019, y cyfarfod arweiniol ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Abertawe bellach yw ‘Cyd-bwyllgor
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe’.
Cofnodion ac Agendâu Blaenorol Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe yn bartneriaeth o asiantaethau gwasanaethau cyhoeddus sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella gwasanaethau lleol. Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i bedwar corff gyfranogi. Y Bwrdd Iechyd, Cyfoeth Naturiol Cymru, y Gwasanaeth Tân ac Achub a'r Cyngor yw'r pedwar corff hyn. Fe'i cefnogir gan Ddinas a Sir Abertawe ac mae hefyd yn cynnwys darparwyr gwasanaethau pwysig eraill, er enghraifft, yr heddlu a'r prifysgolion.
Yn unol â’n Hysbysiad
Cydymffurfio, cyhoeddir agendâu a chofnodion ein cyfarfodydd yn ddwyieithog.