Cofnodion:
Cyflwynodd Simon
Cockings, y Prif Archwilydd, adroddiad sy'n amlinellu ac yn adolygu gwaith yr
Adran Archwilio Mewnol yn ystod 2018/19 ac sy'n cynnwys barn ofynnol y Prif
Archwilydd am yr amgylchedd rheoli mewnol ar gyfer 2018/19 yn seiliedig ar y
profion archwilio a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn.
Amlinellodd
a manylodd ar gynnwys yr adroddiad, gan gynnwys y meysydd allweddol canlynol:
·
Materion Staffio
·
Cwblhawyd 87% o archwiliadau o leiaf at y cam adroddiad
drafft yn ystod y flwyddyn, ac roedd 5 archwiliad arall ar waith
·
Amlinellwyd yr amser a dreulir ar bob maes yn Atodiad 1
·
Amlinellwyd yr archwiliadau a gwblhawyd yn ystod 2018/19
yn llawn yn Atodiad 2
·
Yn ystod y flwyddyn, derbyniwyd 99% o'r argymhellion a
wnaed gan gleientiaid
·
Grantiau a ardystiwyd ac a archwiliwyd yn 2018/19
·
Archwiliadau dilynol a gynhaliwyd
·
Dangosyddion Perfformiad - cyflawnwyd 10 allan o 11 o
ddangosyddion, sy'n dangos gwelliant ar 2017/18. Amlinellwyd y rhain yn llawn
yn Atodiad 3
·
Sicrhau Ansawdd a Rhaglen Gwella a Datganiad
Cydymffurfio â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus
·
Datganiad o Annibyniaeth Sefydliadau
·
Barn am Reoli Mewnol
Nododd
yn swyddogol ei fod am ddiolch i'w dîm am eu gwaith ardderchog yn ystod y
flwyddyn ddiwethaf.
Gofynnodd
y pwyllgor gwestiynau ynghylch hyfforddiant, gosod targedau cyraeddadwy, a
dangosyddion perfformiad y gellir eu cymharu, yn enwedig gydag awdurdodau nad
ydynt yn defnyddio dangosyddion perfformiad.
Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi a'i
gymeradwyo.
Dogfennau ategol: