Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda item

Llythyrau Craffu.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am lythyrau craffu, er gwybodaeth.

 

Amlygodd y llythyr ymateb a dderbyniwyd oddi wrth Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, dyddiedig 26 Tachwedd 2018. Ar fater camau gweithredu posib i fynd i'r afael â phryderon ynghylch allyriadau mygdarth cerbydau ger ysgolion, a chyngor gan Aelod y Cabinet, nodwyd y byddai'n fwy addas i ofyn i gyrff llywodraethu ystyried a yw eu polisïau lles yn ymdrîn â risgiau iechyd sy'n gysylltiedig ag allyriadau mygdarth ac i ofyn iddynt gytuno ar strategaeth ar gyfer cyfleu neges i rieni. Roedd teimlad hefyd y gellid annog ysgolion sy'n rhan o Raglen Eco-ysgolion i ystyried y mater hwn.

 

Mewn perthynas â'r llythyr oddi wrth Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, nodwyd hefyd fod yr awdurdod lleol wedi argymell i gyrff llywodraethu y dylai pob llywodraethwr ysgol gael gwiriad GDG. Fodd bynnag, gan nad yw hyn yn orfodol, mae'n fater i gyrff llywodraethu gytuno arno.

 

Hefyd, amlygodd gais a dderbyniwyd gan y Gweithgor Craffu Llygredd Aer a Sŵn i gwrdd yn flynyddol. Dylid ystyried hyn fel rhan o'r Gynhadledd Cynllunio Gwaith ar gyfer y flwyddyn ddinesig nesaf.

 

Hysbysodd y Cadeirydd y pwyllgor y cynhelir craffu cyn penderfynu gan y Panel Perfformiad Ysgolion ar 17 Rhagfyr 2018 ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Craig-cefn-parc (adroddiad ar yr Arolygiad o Ysgolion Bach) ac YGG Felindre (adroddiad ar Drefniadaeth Ysgolion sy'n gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg), a oedd yn destun penderfyniad gan y Cabinet ar 20 Rhagfyr.

Dogfennau ategol: