Agenda item

Bwriad i adfeddu 21 Heol Acacia, West Cross, Abertawe.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio penderfyniad ynghylch a ddylid adfeddu eiddo 21 Heol Acacia, West Cross SA3 5LF at ddibenion tai. Mae'r tir y cynigir ei adfeddu ar hyn o bryd yn dir gwasanaethau cymdeithasol y cyngor ac ystyrir nad oes ei angen mwyach at y dibenion hyn.

 

Dywedodd fod adroddiad diwygiedig wedi’i gylchredeg.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Adfeddu'r eiddo a nodwyd ar y cynllun yn Atodiad B yr adroddiad at ddibenion tai, sef darparu dwy neu o bosib dair uned ar gyfer tai cyngor.

Dogfennau ategol: