Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda item

Peidio â rhoi deunyddiau ailgylchadwy mewn sachau du.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad, a oedd yn cynnwys cynnig i beidio â rhoi deunyddiau ailgylchadwy mewn sachau du ar ymyl y ffordd i annog cynnydd mewn ailgylchu er mwyn cyrraedd targedau statudol cynyddol. Roedd yr ymagwedd hefyd yn ceisio osgoi'r angen i gyfyngu ymhellach ar nifer y sachau du y gellir eu derbyn neu amlder y casgliadau.

 

Dywedodd fod canlyniadau’r ymgynghoriad wedi’u cylchredeg.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cynghori preswylwyr na chaniateir gosod y deunyddiau ailgylchadwy a restrir isod yn eu gwastraff gweddilliol (sachau du):

 

Ø    Bwyd;

Ø    Caniau a thuniau;

Ø    Poteli gwydr a jariau;

Ø    Papur a chardbord;

Ø    Poteli plastig, tybiau a hambyrddau (rhaid gosod haenau neu blastig tenau yn y sachau du o hyd).

 

2)              Dechrau proses Hyrwyddiadau Ailgylchu i wirio sachau du am ddeunyddiau ailgylchadwy sylweddol;

 

3)              Dilyn y broses a nodir ym mharagraffau 4.3 i 5.1 yr adroddiad i geisio newid sylweddol o ran rheoli gwastraff ac ailgylchu yn y cartref.

Dogfennau ategol: