Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio rhoi
ystyriaeth i wrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Statudol
a gofynnodd am benderfyniad ar y cynigion yn yr adroddiad:
i)
Cau Ysgol
Gynradd Gymraeg Felindre'n weithredol o 31 Awst 2019;
ii) Cynyddu maint Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan ar safle newydd o fis Ionawr 2021;
iii) Cynyddu maint Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw ar safle newydd o fis Ionawr 2021;
iv) Rhoi newidiadau dalgylch sy’n gysylltiedig â 2) a 3) uchod ar waith o fis Medi 2021.
Penderfynwyd:
1) Cau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre'n weithredol o 31 Awst 2019;
2) Cymeradwyo cyhoeddiad yr Adroddiad
Gwrthwynebu ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre (fersiwn ddrafft yn Atodiad
A yr adroddiad);
3) Cynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Gynradd
Gymraeg Tan-y-lan i 420 ynghyd â meithrinfa mewn ysgol newydd ei hadeiladu yn
Heol Beacons View yn y Clâs
o fis Ionawr 2021, gyda newidiadau dalgylch cysylltiedig yn cael eu rhoi ar
waith o fis Medi 2021;
4) Cynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Gynradd
Gymraeg Tirdeunaw i 545 ynghyd â meithrinfa mewn ysgol newydd ei hadeiladu ar
safle Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe oddi ar Heol Gwyrosydd o fis Ionawr 2021,
gyda newidiadau dalgylch cysylltiedig yn cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2021.
Dogfennau ategol: