Pori cyfarfodydd

Grŵp Cynghori ar AoHNE Gŵyr

Mae cyfarfodydd y cyngor bellach yn cael eu cynnal fel cyfarfodydd aml-leoliad (cyfeirir atynt hefyd fel cyfarfodydd hybrid) a chânt eu ffrydio’n fyw lle bo modd.

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn caniatáu i’r cyngor gynnal ei gyfarfodydd o bell a/neu lle nad yw’r holl cyfranogwyr yn yr un lle’n gorfforol.

Gwylio cyfarfodydd ar-lein

Gallwch lawrlwytho, gweld ac anodi ein papurau cyfarfod yn awtomatig trwy ddefnyddio’r ap ‘mod.gov’ ar ddyfeisiau iPad, Android a Window.

Os oes angen yr wybodaeth hon arnoch mewn fformat gwahanol (e.e. dogfen Word) cysylltwch â’r gwasanaethau democrataidd - ffôn 01792 636923 / e-bost democratiaeth@abertawe.gov.uk

Mae penderfyniadau a wneir gan y cyngor, y Cabinet ac unrhyw gorff arall y cyngor yn cael eu gwneud drwy godi llaw oni bai fod system bleidleisio electronig ar gael.

Cyhoeddir canlyniadau e-bledleisiau yn www.abertawe.gov.uk/ebleidlesiau.

Mae’r dudalen hon yn rhestru’r cyfarfodydd ar gyfer Grŵp Cynghori ar AoHNE Gŵyr.

Cyfarfodydd

Gwybodaeth ynghylch Grŵp Cynghori ar AoHNE Gŵyr

Mae’r cyfarfod hwn wedi disodli Grŵp Llywio Partneriaeth AoHNE Gŵyr, yn effeithiol o fis Ionawr 2023.

 

Grŵp ymgynghorol yw Grŵp Cynghori ar AoHNE Gŵyr. Fe'i sefydlwyd gan y Cyngor er mwyn hwyluso rheolaeth AoHNE Gŵyr wrth gyflawni ei gyfrifoldebau a dyletswyddau cyfreithiol parthed AoHNE Gŵyr.

 

Yn unol â’n Hysbysiad Cydymffurfio, cyhoeddir agendâu a chofnodion ein cyfarfodydd yn ddwyieithog.