Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Pori cyfarfodydd

Panel Llofnodwyr Cyfamod y Lluoedd Arfog

Mae cyfarfodydd y cyngor bellach yn cael eu cynnal fel cyfarfodydd aml-leoliad (cyfeirir atynt hefyd fel cyfarfodydd hybrid) a chânt eu ffrydio’n fyw lle bo modd.

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn caniatáu i’r cyngor gynnal ei gyfarfodydd o bell a/neu lle nad yw’r holl cyfranogwyr yn yr un lle’n gorfforol.

Gwylio cyfarfodydd ar-lein

Gallwch lawrlwytho, gweld ac anodi ein papurau cyfarfod yn awtomatig trwy ddefnyddio’r ap ‘mod.gov’ ar ddyfeisiau iPad, Android a Window.

Os oes angen yr wybodaeth hon arnoch mewn fformat gwahanol (e.e. dogfen Word) cysylltwch â’r gwasanaethau democrataidd - ffôn 01792 636923 / e-bost democratiaeth@abertawe.gov.uk

Mae penderfyniadau a wneir gan y cyngor, y Cabinet ac unrhyw gorff arall y cyngor yn cael eu gwneud drwy godi llaw oni bai fod system bleidleisio electronig ar gael.

Cyhoeddir canlyniadau e-bledleisiau yn www.abertawe.gov.uk/ebleidlesiau.

Mae’r dudalen hon yn rhestru’r cyfarfodydd ar gyfer Panel Llofnodwyr Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Cyfarfodydd

Gwybodaeth ynghylch Panel Llofnodwyr Cyfamod y Lluoedd Arfog

Llofnododd Dinas a Sir Abertawe a'i bartneriaid Gyfamod Abertawe a'r Lluoedd Arfog ar 4 Rhagfyr 2012. Mae llofnodi'r Cyfamod Cymunedol wedi galluogi sefydliadau elusennol yn ardal Dinas a Sir Abertawe i gael mynediad i'r Cynllun Grant Cyfamod Cymunedol. Sefydlwyd y panel hwn o blith llofnodwyr Abertawe er mwyn trafod ceisiadau a gyflwynir a blaenoriaethu'r rhai sy'n bodloni'r meini prawf i gael eu hasesu ymhellach gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

 

Yn unol â’n Hysbysiad Cydymffurfio, cyhoeddir agendâu a chofnodion ein cyfarfodydd yn ddwyieithog.