Pori cyfarfodydd

Grŵp Partneriaeth AoHNE Gŵyr

Mae cyfarfodydd y cyngor bellach yn cael eu cynnal fel cyfarfodydd aml-leoliad (cyfeirir atynt hefyd fel cyfarfodydd hybrid) a chânt eu ffrydio’n fyw lle bo modd.

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn caniatáu i’r cyngor gynnal ei gyfarfodydd o bell a/neu lle nad yw’r holl cyfranogwyr yn yr un lle’n gorfforol.

Gwylio cyfarfodydd ar-lein

Gallwch lawrlwytho, gweld ac anodi ein papurau cyfarfod yn awtomatig trwy ddefnyddio’r ap ‘mod.gov’ ar ddyfeisiau iPad, Android a Window.

Os oes angen yr wybodaeth hon arnoch mewn fformat gwahanol (e.e. dogfen Word) cysylltwch â’r gwasanaethau democrataidd - ffôn 01792 636923 / e-bost democratiaeth@abertawe.gov.uk

Mae penderfyniadau a wneir gan y cyngor, y Cabinet ac unrhyw gorff arall y cyngor yn cael eu gwneud drwy godi llaw oni bai fod system bleidleisio electronig ar gael.

Cyhoeddir canlyniadau e-bledleisiau yn www.abertawe.gov.uk/ebleidlesiau.

Mae’r dudalen hon yn rhestru’r cyfarfodydd ar gyfer Grŵp Partneriaeth AoHNE Gŵyr.

Gwybodaeth ynghylch Grŵp Partneriaeth AoHNE Gŵyr

Mae’r cyfarfod hwn wedi’i ddisodli gan Grŵp Cynghori ar AoHNE Gŵyr, yn effeithiol o fis Ionawr 2023.

 

Grŵp ymgynghorol yw Partneriaeth AoHNE Gŵyr ('y Bartneriaeth AoHNE'). Fe'i sefydlwyd gan y Cyngor er mwyn hwyluso rheolaeth AoHNE Gŵyr wrth gyflawni ei gyfrifoldebau a dyletswyddau cyfreithiol parthed AoHNE Gŵyr.

 

Yn unol â’n Hysbysiad Cydymffurfio, cyhoeddir agendâu a chofnodion ein cyfarfodydd yn ddwyieithog.