Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol

Cofnodion:

Dim

 

2.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

3.

Trosolwg o Gaffael pdf eicon PDF 324 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg manwl o Gaffael i'r Panel gan Chris Williams, Pennaeth y Gwasanaethau Masnachol.  Nodwyd y pwyntiau canlynol yn yr adroddiad:

 

·         Rheolau a rheoliadau caffael

·         Rheolau Gweithdrefnau Contractau

·         Swyddogaethau caffael

·         Dulliau a phrosesau caffael

·         Effeithlonrwydd ac arbedion

·         Y Tu Hwnt i Frics a Morter

·         Heriau a chyfleoedd yn y dyfodol; a

·         Risgiau

 

Nodwyd y pwyntiau canlynol yn dilyn y drafodaeth:

·         Mae'n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng prynu a chaffael

·         Yr ethos o gael cyfle teg o ran caffael.  Rhaid atgyfnerthu tryloywder a didwylledd wrth hwyluso cystadleuaeth.  Rhaid cael safonau uchel.

·         Mae'r cyngor yn cyhoeddi ei Reolau Sefydlog a'i Reolau Gweithdrefnau Contractau ei hun ar gyfer defnyddio arian cyhoeddus yn Abertawe.  Mae hyn yn helpu i atal twyll a sicrhau gwerth gorau.  Mae'r rheolau gweithdrefnau yn y broses o gael eu newid a chânt eu trafod yn fuan yng nghyfarfod Gweithgor y Cyfansoddiad.  Hoffai'r panel gael diweddariad am y newidiadau hyn pan fyddant wedi'u cytuno.

·         Mae'r tîm Caffael yn gofyn am adborth gan y cyflenwyr a hoffai'r Panel weld hynny fel rhan o'r ymchwiliad.

·         Mae rheolau clir yn ymwneud â hyn, a bydd angen ymateb i bawb fel bod pob ymgeisydd yn derbyn yr un wybodaeth.  Bydd angen y cyfan yn ysgrifenedig, heb unrhyw gyfathrebu ar lafar, er cadernid.

·         Caffael lleol - rheolau sy'n rhoi mwy o gyfleoedd i ni allu gweithio gyda chyflenwyr lleol.  Hoffai'r Cyng. Hopkins sefydlu ffyrdd gwell o gyfathrebu â chyflenwyr lleol.  Mae annog cyflenwyr lleol i dendro'n bwysig.  Rhaid sicrhau ei fod yn hawdd i gyflenwyr lleol fod ar y rhestr.  Clywyd y cynhelir digwyddiadau gwahanol gyda chyflenwyr yn gyson, a hoffai aelodau'r Panel fynd i un o'r rheini fel rhan o'r ymchwiliad.

·         Mae strwythur rheoli categorïau ar waith, ac mae hynny'n eglur ac yn atal meddylfryd seilo, a gellir cael y darbodion maint gorau yn y modd hwn.  Rydym yn ceisio gwneud hynny heb lawer o fiwrocratiaeth. Gall cyflenwyr gwblhau ffurflen fer ar-lein, felly nid yw cofrestru'n eu hatal rhag cymryd rhan.

·         Mae gennym gylch caffael rheolaidd i wella effeithlonrwydd a lleihau costau.  Rydym hefyd yn ystyried meddwl am ffyrdd newydd o weithio er mwyn lleihau gwariant.  Rydym yn adolygu'r gwariant gyda'r Grŵp Comisiynu Pobl, er enghraifft, sy'n helpu i gynllunio contractau a chytuno ar amserlenni addas.  Mae'r broses gomisiynu'n ein helpu i gael y canlyniadau gorau.  Bydd y Panel yn ystyried astudiaeth achos o'r Gwasanaethau Cymdeithasol fel rhan o'r ymchwiliad.

·         Rhaid i bawb ar draws y cyngor feddu ar wybodaeth dda am y system, a nodwyd ysgolion fel enghraifft mewn perthynas â rheolau gweithdrefnau a'r cymhlethdod oherwydd eu bod yn gyrff â chyfrifoldebau unigol.  Mae'r tîm Archwilio Mewnol yn archwilio ysgolion.  Hoffai'r Panel siarad â'r tîm Archwilio Mewnol i weld sut mae caffael yn cael ei archwilio ar draws y cyngor fel rhan o'r ymchwiliad.

·         Mae swyddogion yn mynd i gyfarfodydd Gweithgor Caffael CLlLC. Mae hwn yn cynnwys swyddogion o Gymru gyfan er mwyn iddynt rannu gwybodaeth, syniadau ac arfer da.

·         Trafodwyd y Ddeddf Gwerth Cymdeithasol a'r awdurdodau lleol sy'n ei defnyddio fel ysgogydd i wella buddsoddiad mewn cymunedau lleol. Amlygwyd Cyngor Caerdydd a'i Bolisi Caffael Cymdeithasol Gyfrifol. Bydd y Panel yn cynnal sesiwn sy'n canolbwyntio'n benodol ar Gaffael Cymdeithasol fel rhan o'r ymchwiliad.

·         Y bwriad yn Abertawe yw adfywio'r economi leol, ac mae caffael yn rhan bwysig o'r broses.  Mae angen ystyried bylchau mewn darpariaeth leol a gweithio gyda datblygiadau economaidd i gael busnesau i lenwi'r bylchau hynny.

·         Trafodwyd hyd y contractau a rhoddwyd gwybod i'r Panel mai'r hyd arferol yw 3-5 mlynedd, ond byddai hyn yn dibynnu ar gaffael y gwasanaeth.

 

Bydd yr adroddiad a'r pwyntiau a drafodwyd heddiw'n rhan o becyn tystiolaeth y Panel a'r adroddiad canfyddiadau ar ddiwedd yr ymchwiliad.

 

4.

Cynllun yr ymholiad Caffael pdf eicon PDF 29 KB

Cofnodion:

Trafododd y Panel eu cylch gorchwyl a chytuno iddo a chaiff cynllun prosiect ar gyfer yr ymchwiliad ei lunio a'i ddosbarthu i'r Panel.