Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

9.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

 

10.

Cofnodion. pdf eicon PDF 99 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

 

11.

Strategaeth Seilwaith Gwyrdd.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Lleoedd at yr ymgynghoriad a'r adborth dilynol a oedd yn canolbwyntio ar fanteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd.

 

Nododd aelodau fod y gwaith yn parhau yn nhermau cynyddu dealltwriaeth a gwelededd y Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd, yn enwedig yn nhermau prosiectau'r dyfodol (Polisi'r Cyngor/Canllawiau Cynllunio Atodol/Strategaeth Cerbydlu Gwyrdd).

 

Trafododd aelodau oblygiadau cynnal a chadw (i'r cyngor a datblygwyr), pryderon technegol, sicrhau bod datblygwyr yn hyrwyddo bioamrywiaeth drwy gytundebau adran 106, costau sy'n gysylltiedig â chael gwared ar goed ynn, nodi ardaloedd targed, blaenoriaethu canol y ddinas (o ganlyniad i faint o ddatblygiadau sydd ar waith ar hyn o bryd), annog y gymuned ac ysgolion i berchnogi'r amgylchedd a'r argyfwng newid yn yr hinsawdd. 

 

Dangosodd y Cyfarwyddwr Lleoedd y byddai'r drafft terfynol ar gael i'r pwyllgor ei ystyried ym mis Medi gyda'r bwriad o gael rhanddeiliaid eraill i ystyried y strategaeth ac i'r cyngor ei mabwysiadu erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Diolchodd y cadeirydd i'r Cyfarwyddwr Lleoedd am ei gyflwyniad llawn gwybodaeth.

 

Penderfynwyd:

 

1.     Trefnu trafodaeth ar y Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd ddrafft yng nghyfarfod mis Medi;

2.     Y byddai'r Cyfarwyddwr Lleoedd yn ystyried cynnwys cyfranogiad y gymuned/ysgolion;

3.     Y byddai'r Cyfarwyddwr Lleoedd yn ystyried y llwybr gwneud penderfyniadau priodol yn nhermau cytundebau adran 106.

 

 

12.

Economi Abertawe (Twristiaeth).

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Lleoedd at y dull o gyfrifo effaith economaidd twristiaeth a ddefnyddir ar draws y DU.

 

Nododd yr aelodau fod effaith economaidd twristiaeth ar Abertawe wedi cynyddu 30% ers 2017 ac roedd y duedd yn cynyddu blwyddyn ar ôl blwyddyn. O ran yr effaith mewn perthynas â chefnogi nifer o swyddi, mae hyn wedi cynyddu 1% ers 2017. Cesglir data yn nhermau ymwelwyr ar y penwythnos, yn ystod y dydd ac ymweliadau tymor hwy a lle y maent yn aros.

 

Cynigodd y Cyfarwyddwr Lleoedd y dylid gwahodd Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol (neu swyddogion perthnasol) i ddarparu trosolwg cynhwysfawr.

 

Penderfynwyd y dylai Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol (neu swyddogion perthnasol) fod yn bresennol yn y cyfarfod a drefnir ar gyfer 17 Hydref, 2019.

 

13.

Cynllun Gwaith 2019/2020. pdf eicon PDF 93 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y trafodaethau a gafwyd yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Mehefin, 2019.

 

Penderfynwyd y dylai'r cynllun gwaith ar gyfer 2019/2020 gynnwys y canlynol:

 

19 Medi 2019

 

1)    Strategaeth Ddrafft Coridor Afon.

 

2)    Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd.

 

 

17 Hydref 2019

 

1)    Economi Abertawe (Twristiaeth).

 

2)    Strategaeth Trafnidiaeth (Teithio Llesol).

 

14 Tachwedd 2019

 

1)    Economi Abertawe (Goblygiadau Brexit)

2)    Eiddo gwag ar y Stryd Fawr.


19 Rhagfyr 2019

 

 

16 Ionawr 2020

 

 

20 Chwefror 2020

 

 

19 Mawrth 2020

 

 

16 Ebrill 2020

 

 

I’w drefnu

1)    Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer - Ymweliad Safle â Chastell-nedd Port Talbot.

2)    Toiledau Cyhoeddus - Gweithdy.