Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

14.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

15.

Cofnodion. pdf eicon PDF 241 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir.

16.

Trafodaethau gyda chynrychiolwyr ERW.

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad Powerpoint gan Andi Morgan ac Yan James o ERW a oedd yn amlinellu'r meysydd canlynol:

 

·         Sefyllfa bresennol y sefydliad o ran y cynigion a'r amserlenni ar gyfer rhoi'r cwricwlwm newydd ar waith, yn arbennig y cynnwys diwygiedig a gaiff ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2020;

 

·         Y strwythur staffio presennol a'r digwyddiadau a gynllunnir ar draws y rhanbarthau i athrawon ac ysgolion;

 

·         4 prif faes ar gyfer prosiectau arloesedd ysgolion - Ysgolion Gwella Ansawdd, Ysgolion Arloesi, Ysgolion Ymholi Arweiniol ac Ysgolion y Rhwydwaith Cenedlaethol;

 

·         Prif rôl Ysgolion Gwella Ansawdd - mireinio'r cwricwlwm yng ngoleuni'r adborth, mireinio'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yng ngoleuni'r adborth, datblygu'r fframwaith asesu a chefnogi gwaith Cymwysterau Cymru;

 

·         Ysgolion Gwella Ansawdd Abertawe: Y Celfyddydau Mynegiannol - Llanrhidian a Parkland, Gwyddoniaeth a Thechnoleg - Ysgol Gyfun Tre-gŵyr, Mathemateg a Rhifedd - Ysgol Pen y Bryn, Y Dyniaethau - YGG Bryn Tawe ac YG Bryniago, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu - Crug Glas a'r Trallwn, Iechyd a Lles - Glyncollen, Ysgol Gyfun yr Olchfa a St Thomas;

 

·         Rôl Ysgolion Arloesi - Darparu adborth uniongyrchol i'r grwpiau gwella ansawdd drwy gynllunio'r cwricwlwm yn yr ysgol a nodi modelau mecanyddol, logistaidd a strwythurol i gyflawni'r cwricwlwm drwy gynllunio yn yr ysgol;

 

·         Ysgolion Arloesi Abertawe - Parkland ac Ysgol Gyfun yr Olchfa;

 

·         Rôl yr Ysgolion Ymholi Arweiniol - gelwid y rhain o'r blaen yn Ysgolion Arloesi Dysgu Proffesiynol. Bydd yr ysgolion hyn yn parhau i weithio mewn grwpiau rhanbarthol gan ddatblygu cylchoedd ymholi a gefnogir gan PCYDDS;

 

·         Ysgolion Ymholi Arweiniol Abertawe: Y Dyniaethau - Ysgol Gyfun Cefn Hengoed, y Celfyddydau mynegiannol - Christchurch, ILlCh Ysgol Gyfun Gŵyr, Iechyd a Lles - Pontarddulais;

 

·         Rôl Ysgolion y Rhwydwaith Cenedlaethol - bydd yr ysgolion hyn yn anfon cynrychiolydd i gyfarfodydd y rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer yr holl feysydd Dysgu a Phrofiad ac yn gweithio gydag ysgolion gwella ansawdd i sicrhau bod y cwricwlwm a dysgu proffesiynol yn gweithio'n agos ar gyfer cam nesaf y gwaith.

 

·         Ysgolion Rhwydwaith Cenedlaethol Abertawe: Y Dyniaethau - Ysgol Gyfun Cefn Hengoed, ILlCh - Ysgol Gyfun Gwyr, Iechyd a Lles - Pontarddulais;

 

·         Ysgolion eraill - bydd ERW yn sicrhau bod yr holl ysgolion yn y rhanbarth yn cael gwybod am y gwaith sy'n cael ei wneud. Caiff yr wybodaeth hon ei rhannu mewn amrywiaeth o ffyrdd gan staff ERW, gan gynnwys cyfathrebu electronig, digwyddiadau cynnwys rhanbarthol, presenoldeb mewn cyfarfodydd penaethiaid a digwyddiadau ymgynghorwyr herio;

 

·         Amlinellir Tîm Cwricwlwm ERW a'r 12 Maes Dysgu, strwythur a diagram ERW sy'n amlinellu'r cysylltiadau rhwng y cyrff amrywiol ac eang sy'n rhan ohono, a'r meysydd i'w gwella y mae pedwar prif bwrpas y cwricwlwm newydd yn sail i bob un ohonynt;

 

·         Bydd cefnogaeth ERW ar gyfer ysgolion yn datblygu disgyblion Mwy Abl a Thalentog fel y gallant wneud cynnydd o fewn y cwricwlwm newydd - prosiect adolygu cymheiriaid Ysgolion Cyfun Treforys a Phenyrheol, Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt ac Ysgol Llangyfelach wedi derbyn arian a chefnogaeth i ddatblygu ysgolion addysgeg arweiniol: ysgolion cyfun Llandeilo Ferwallt a Gellifedw yw arweinwyr MAT Abertawe ac maent yn cydweithio ag ysgolion eraill yn y rhanbarth i ddatblygu cynnig dysgu proffesiynol i bob ysgol yn ERW o ran adnabod dysgwyr MAT, ymagweddau dysgu ac addysgu ac arweinyddiaeth effeithiol ar eu cyfer. Byddant yn darparu gweithdai i ysgolion ar draws y rhanbarth gan rannu eu cryfderau a'u harbenigedd.

 

·         Eglurder - Prosiect Dysgu ar y Cyd Arweiniol - mae ysgolion cyfun yr Esgob Vaughan a Thre-gŵyr yn gweithio ar brosiect gwella ysgolion gyda'r addysgwr Dr Lyn Sharratt, sy'n gweithio yn Ontario. Mae'r ymchwil a ddisgrifir yn 'Clarity: What Matters Most in Learning, Teaching and Leading’ gan Dr Lyn Sharratt yn brosiect gwella ysgolion ar draws y rhanbarth a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, ac mae Prifysgol Abertawe yn cofnodi'r daith ac yn gwerthuso effaith y gwaith. Mae ethos Dr Sharratt ar gyfer gwella ysgolion yn seiliedig ar 14 o baramedrau fel fframwaith dysgu;

 

·         Digwyddiadau Ysgolion ERW fel Sefydliadau Dysgu a Chwricwlwm i Gymru - yn ystod tymor yr haf 2019, cyflwynodd ERW ddigwyddiadau ymgysylltu Cwricwlwm i Gymru ar draws y rhanbarth. Yn ystod tymor yr hydref a'r gwanwyn 2019-2020 bydd ERW yn darparu rhagor o hyfforddiant i arweinwyr ysgolion ar Ysgolion fel Sefydliadau Arweiniol a'r Cwricwlwm i Gymru, ac mae'n bwysig bod pob arweinydd ysgol yn y rhanbarth yn mynd i'r hyfforddiant yn yr hydref a'r gwanwyn fel y gellir rhaeadru gwybodaeth allweddol ac y gall ERW sicrhau bod ysgolion yn cael y diweddaraf ar yr hinsawdd addysg yng Nghymru sy'n newid yn gyflym.

 

·         Bydd sesiynau Athrawon Newydd Gymhwyso a datblygu Meysydd Profiad Dysgu yn cynnal hyfforddiant ar y cwricwlwm newydd ym mis Tachwedd.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau amrywiol i gynrychiolwyr ERW a swyddogion y cyngor, yn enwedig am y materion a'r pynciau canlynol: Cydlynu ymagwedd ar draws yr awdurdod, gan sicrhau bod yr holl ysgolion yn cymryd rhan yn llawn ac y caiff gwybodaeth ei rhaeadru, darparu cefnogaeth briodol i athrawon, rhannu arfer da rhwng ysgolion, adeiladu gallu mewnbwn ysgolion i gyflwyno'r cwricwlwm newydd, ymagwedd ysgol gyfan a staff yn ymwneud â newid, bwlch sgiliau, yn enwedig o gwmpas cyrsiau galwedigaethol/adeiladu, cysylltiadau â chyflogwyr ac addysg uwch ac o bosib ailedrych ar gylch gwaith Partneriaeth Sgiliau Abertawe. Mae angen sicrhau bod trefniadau ar waith i gefnogi disgyblion nad ydynt yn cyflawni cymaint, cyflawniad pobl ifanc NEET a disgyblion PDG, problemau o ran sicrhau bod arian ar gael i rai ysgolion.

 

Ymatebodd cynrychiolwyr ERW a swyddogion y cyngor yn briodol i'r cwestiynau a'r materion a godwyd uchod, gan amlinellu'r mesurau a'r mentrau sydd ar waith i fynd i'r afael â'r meysydd a amlinellwyd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr ERW am eu presenoldeb a'u mewnbwn.

 

 

17.

Cynllun Gwaith 2019/2020. pdf eicon PDF 199 KB

Cofnodion:

Yn dilyn y drafodaeth a'r wybodaeth a gyflwynwyd yn y cyfarfod blaenorol ag ysgolion ac uchod â chynrychiolwyr ERW, trafododd yr aelodau'r opsiynau ar gyfer y cyfarfodydd i ddod.

 

Amlinellwyd y canlynol fel eitemau i'w trafod yn y cyfarfodydd sydd i ddod ym mis Hydref, Tachwedd a Rhagfyr - tystiolaeth gan ysgolion cynradd (yn arbennig y rheini sy'n rhan o'r prosiectau cwricwlwm newydd), gwybodaeth/tystiolaeth gan weithgor y swyddogion addysg ar y cwricwlwm newydd, diweddariad gan Bartneriaeth Sgiliau Abertawe, rhagor o wybodaeth am gyfleoedd galwedigaethol i bobl ifanc.

 

Bydd swyddogion yn trefnu hyn fel y bo'n briodol yn dilyn trafodaeth â'r ysgolion a swyddogion perthnasol.

 

Penderfynwyd diweddaru'r cynllun gwaith yn unol â hyn pan fydd y trefniadau ar gyfer y 3 chyfarfod nesaf wedi'u cadarnhau.