Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

 

6.

Cylch Gorchwyl. pdf eicon PDF 56 KB

Cofnodion:

 

Adroddwyd am Gylch Gorchwyl y pwyllgor er gwybodaeth.

 

7.

Cofnodion. pdf eicon PDF 114 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 10 Ebrill a 9 Mai 2019 yn gywir, yn amodol ar ddiwygio cofnodion 10 Ebrill fel a ganlyn: Cofnod 44, paragraff 3, llinell 2 i ddarllen 3 blynedd nid 2 flynedd.

 

8.

Adborth ar yr adroddiad grant datblygu disgyblion i'r Cabinet.

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd bod adroddiad y pwyllgor am y Grant Datblygu Disgyblion wedi'i gyflwyno i'r Cabinet a'i gytuno ganddo ar 16 Mai 2019.

 

Dywedodd fod Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a'r Cabinet cyfan, wedi croesawu cynnwys ac argymhellion yr adroddiad fel ffordd o ddatblygu polisi mewn perthynas â'r GDD yn Ninas a Sir Abertawe.

 

Mae angen rhannu'r enghreifftiau da o arfer da gyda chynifer o ysgolion â phosib yn Abertawe.

 

9.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018.

Cofnodion:

Yn dilyn y trafodaethau a gafwyd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Ebrill, cadarnhaodd y Cadeirydd fwriad y pwyllgor i edrych ar oblygiadau cyflwyno'r cwricwlwm newydd, a'r paratoadau ar gyfer gwneud hyn.

 

Dywedodd y dylai'r pwyllgor fod yn ceisio hysbysu a chynorthwyo ysgolion mewn perthynas â'r paratoadau, ac yn dylanwadu arnynt.

 

Dywedodd Nick Williams y byddai angen trosolwg strategol. Roedd y cynnig ar gyfer y cwricwlwm newydd, nad yw 'wedi'i lywio gan gynnwys', ar y cam ymgynghori ar hyn o bryd, ac yn agored i bob parti wneud sylw arno. Dywedodd ei fod yn ymwybodol o rai gwrthwynebiadau i’r newidiadau a thensiwn yn eu cylch.

 

Dywedodd y byddai newid sylweddol wrth symud o'r arfer profi presennol i gwricwlwm sy'n seiliedig ar sgiliau. Fel yr amlinellwyd mewn cyfarfodydd blaenorol, byddai lefel y gefnogaeth a'r hyfforddiant ychwanegol i athrawon yn elfen sylfaenol i unrhyw lwyddiant.

 

Mynegodd fod darparwyr hyfforddiant athrawon yn rhan o'r Bartneriaeth Sgiliau, felly maen nhw'n ymwybodol o'r heriau sydd o'u blaenau.

 

Dywedodd y byddai'n cwrdd ag ERW yn ddiweddarach yn yr wythnos ac y byddai ERW hefyd yn cynnal sesiwn friffio i ysgolion yn ddiweddarach yn yr wythnos.

 

Nododd Helen Morgan-Rees fod gan ysgolion 3 blynedd i baratoi i'w roi ar waith, ac ni fyddai llawer o ysgolion yn dechrau o'r dechrau oherwydd y gwaith a wnaed yn flaenorol, yn enwedig gan yr Ysgolion Arloesi. Byddai'n rhaid i unrhyw gynllun strategol a ddatblygwyd gan yr awdurdod lleol gael ei ddatblygu ar y cyd ag ysgolion, ac yn dilyn ymgynghoriad â hwy. Bydd angen cefnogi ysgolion yn yr elfennau allweddol a'r meysydd diwygio a amlygwyd yn y cyfarfod ym mis Ebrill.

 

Nod y diwygiadau oedd symud i ffwrdd o gwricwlwm cenedlaethol cul a chaniatáu i ysgolion ddatblygu a bod yn fwy annibynnol a sefyll ar eu traed eu hunain i ddatblygu cwricwlwm sy'n fwy addas ar gyfer eu hanghenion.

 

Nododd y byddai gweithgor swyddogion ar y cwricwlwm newydd yn cynnal ei gyfarfod cyntaf ym mis Gorffennaf. Byddai arweinwyr y cyfnodau cynradd ac uwchradd hefyd yn rhan o'r grŵp. Gallai'r swyddogion perthnasol hefyd fynd i gyfarfodydd y GDD yn y dyfodol ac adrodd yn ôl am y materion a godwyd a'r cynnydd a wnaed etc.

 

Dywedodd ei bod hi'n teimlo, yn ôl y disgwyl, fod ymatebion cymysg gan ysgolion i'r ymgynghoriad, gyda'r ysgolion nad ydynt yn rhai arloesi yn teimlo'n fwy agored i'r cynigion.

 

Trafodwyd y materion a'r meysydd uchod gan yr aelodau a gofynnwyd cwestiynau i'r Swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Gellid ceisio mewnbwn a barn ERW hefyd o ran y cynigion mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Amlinellwyd mater addasrwydd a dyluniad adeiladau ysgolion presennol er mwyn gallu cyflwyno'r cwricwlwm newydd fel maes y byddai angen ei archwilio ymhellach.

 

Penderfynwyd

 

1)    Y byddai gwaith y pwyllgor ar gyfer y flwyddyn ddinesig i ddod yn canolbwyntio ar oblygiadau'r cwricwlwm newydd;

2)    Gwahodd cynrychiolwyr o ysgolion amrywiol (ysgolion arloesi ac ysgolion eraill) i'r cyfarfod ym mis Gorffennaf i gyflwyno'u barn am y cynigion;

3)    Gwahodd cynrychiolwyr o ERW i gyfarfod yn y dyfodol;

4)    Gwahodd swyddogion perthnasol ac aelodau'r gweithgor i ddod i gyfarfodydd yn y dyfodol.