Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 316 KB
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.
Cofnodion:
Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Awst 2019 yn
gofnod cywir o'r cyfarfod.
|
4. |
Cwestiynau gan y cyhoedd
Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i
faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod
o 10 munud.
Cofnodion:
Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.
|
5. |
Y diweddaraf am gynnydd Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc PDF 232 KB
Gavin Evans, Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Ieuenctid
Cofnodion:
Roedd Joanne Abbott-Davies,
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaethau, Bwrdd Iechyd Gorllewin
Morgannwg, yn bresennol i gyflwyno diweddariad am gynnydd gan gynnwys
perfformiad, gweledigaeth strategol a gwasanaethau i gefnogi iechyd a lles
plant a phobl ifanc ac i ateb cwestiynau'r panel. Roedd Gavin Evans, Rheolwr Gwasanaethau
Cefnogi Ieuenctid y cyngor, hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.
Pwyntiau i'w trafod:
- Mae'r modd y mae Abertawe'n cydymffurfio â thargedau perfformiad
Llywodraeth Cymru ar gyfer CAMS, o'r pwynt atgyfeirio,
yn gwella
- Mae'r amser aros
cyn i blant a phobl ifanc gael eu hatgyfeirio
hefyd yn gwella yn Abertawe.
- Mae'r gwasanaeth
Addysg a'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhan o grŵp llywio strategol
CAMHS. Ceir llwybr teithio a rennir. Mae'n gymhleth, ond maent yn ceisio
cael proses fwy cydlynol.
- Bydd gwasanaeth
CAMHS integredig gydag un pwynt cyswllt. Bwriedir i hyn fod ar waith ym
mis Mehefin 2020.
- Mae iechyd
emosiynol a lles yn cael ei anelu at blant oed cynradd. Derbyniwyd arian o grant ar gyfer pobl
ifanc 11 i 18 oed. Dylai hyn helpu plant sydd bellach mewn ysgolion
uwchradd na chawsant eu nodi ar gyfer CAMHS pan oeddent yn yr ysgol
gynradd.
- Mae trosglwyddo ar
gyfer y ddau - o'r cynradd i'r uwchradd ac o'r uwchradd ymlaen. Cynhelir
cyfarfod grŵp i geisio gwella'r trosglwyddo o'r cynradd i'r uwchradd.
- Bydd atgyfeiriadau
yn y dyfodol yn ehangach, ac nid trwy feddyg teulu'n unig (ysgolion,
gweithwyr proffesiynol eraill etc.). Mae gwaith i'w wneud o hyd ar y
broses atgyfeirio newydd sydd wedi'i
safoni.
- Mae angen bod yn
glir ynghylch pa ymyriadau amgen sydd ar gael i unigolion nad ydynt yn
bodloni'r meini prawf ar gyfer CAMHS.
- Cwm Taf sy'n
darparu'r gwasanaeth CAMHS ym Mwrdd Iechyd Gorllewin Morgannwg. Mae'r
Bwrdd Iechyd yn prynu'r gwasanaeth i mewn o Gwm Taf.
- Mae Aelodau Cabinet
yn eistedd ar Fwrdd Partneriaeth CAMHS. Os yw aelodau'n eu hysbysu o
unrhyw blant sy'n aros amser hir ar gyfer gwasanaeth CAMHS, gallant fynd ar drywydd hyn.
- Mae'r panel yn
teimlo bod y cynlluniau newydd ar gyfer CAMHS yn rhaid da. Fodd bynnag, cafwyd llawer o broblemau
yn y gorffennol ac mae angen i'r panel barhau i'w monitro. Cytunwyd i gael
diweddariad arall am CAMHS ymhen 12 mis.
Camau gweithredu:
Ychwanegu 'Diweddariad ar gynnydd gyda CAMHS' at y rhaglen Waith ymhen 12
mis (Hydref 2020).
|
6. |
Briffio ar Wasanaeth Troseddau Ieuenctid PDF 2 MB
Jay McCabe, Prif Swyddog Bays+ a Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid
Cofnodion:
Roedd Jay McCabe, Prif Swyddog Bays+ a'r
Gwasanaethau Cyflawnder Ieuenctid yn bresennol i roi diweddariad ar
ddatblygiadau ers gwahanu Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Bae'r Gorllewin ym
mis Mawrth 2019 a ffurfio Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Abertawe ym mis
Ebrill 2019, ac i ateb cwestiynau'r Panel.
Pwyntiau i'w trafod:
- Amserlen -
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Bwrdd Rheoli ym mis Gorffennaf 2019;
cynhaliwyd sesiwn hyfforddi Bwrdd Rheoli ar 30 Hydref 2019; cynhaliwyd ail
gyfarfod y Bwrdd Rheoli ar 7 Tachwedd 2019. Yn y dyfodol, y cynllun yw
cynnal cyfarfod o'r bwrdd bob deufis. Y gobaith yw y bydd unigolion ar y
bwrdd yn derbyn cyfrifoldeb personol am faes.
- Mae'r Gwasanaeth
Cyfiawnder Ieuenctid bellach wedi'i integreiddio â'r Gwasanaethau Plant a
Theuluoedd yn Abertawe.
- Bydd y Bwrdd
Cyfiawnder Ieuenctid yn cynnal arolygiad ffug ym mis Rhagfyr 2019 i helpu
i adolygu'r daith wella a gwneud argymhellion ar gyfer meysydd i'w gwella
cyn yr arolygiad nesaf a fydd o fewn 18 mis o fis Mehefin 2019.
- Bydd gan yr adran
felly syniad ehangach am sut mae'r gwasanaeth yn perfformio (nid
dangosyddion perfformiad yn unig).
- Gan fod hwn yn
wasanaeth newydd, hoffai'r panel gael adroddiad diweddaru ar Wasanaeth
Troseddau Ieuenctid Abertawe mewn tua 12 mis i wirio cynnydd.
- Mae ymyrryd yn
gynnar yn allweddol.
- Mae integreiddio'n
lleol yn bendant yn arwain at fuddion. Mae llawer mwy o gynllunio a
gweithio cydlynol rhwng y Tîm Troseddau Ieuenctid, y Gwasanaethau Plant,
Ymyrryd yn gynnar ac atal etc.
- Cadwyd llawer o
bethau cadarnhaol o'r gwaith rhanbarthol.
- Roedd Aelod y
Cabinet dros Addysg yn bresennol ar gyfer yr eitem hon a chroesawodd yr
adroddiad hwn. Roedd o'r farn nad oedd y drefn flaenorol yn gweithio, nid
oedd aelodau'r bwrdd yn hapus ac roedd y dangosyddion perfformiad yn rhy
gul.
- Cytunwyd y byddai'r
panel yn derbyn astudiaethau achos ar y gwasanaeth ym mis Mawrth 2020 i
helpu aelodau i'w ddeall yn well.
- Cafodd y Gwasanaeth
Cyfiawnder Ieuenctid rhanbarthol arolygiad gwael iawn ond mae'r
argymhellion yn ddefnyddiol iawn ar gyfer y gwasanaeth cyfiawnder
ieuenctid yn Abertawe sydd newydd ei ffurfio. Mae'n gadarnhaol iawn gweld
sut mae'r tîm wedi meddwl am atebion ac wedi datblygu prosesau.
- Mae'r adran yn
trafod cynnal asesiadau ansoddol yn ogystal â rhai meintiol. Yn hanesyddol, sawl DP sydd wedi'u
hysgogi gan berfformiad? Mae angen rhagor o wybodaeth ansoddol i nodi
profiad a chanlyniadau unigolion.
Camau Gweithredu:
- Ychwanegu eitem
'Diweddariad ar y Gwasanaeth
Troseddau Ieuenctid' at y rhaglen waith ar gyfer mis Hydref 2020.
- Ychwanegu eitem ar
'Wasanaeth Troseddau Ieuenctid Abertawe' at y rhaglen waith ar gyfer mis
Mawrth 2020.
|
7. |
Cyflwyniad - Y diweddaraf am adroddiad i Lywodraeth Cymru ar Strategaeth Lleihau Nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal yn Ddiogel
Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Cofnodion:
Roedd Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn bresennol
i roi'r diweddaraf i'r panel ar y mater hwn ac i ateb cwestiynau.
Pwyntiau i'w trafod:
·
Trafodwyd
blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal
yng Nghymru.
·
Hysbyswyd
y panel am fanylion yr ymweliad gan swyddogion LlC. Roedd Abertawe wedi cael adborth
cadarnhaol iawn yn dilyn ei gyflwyniad, a derbyniwyd y cynigion a roddwyd
ynghylch lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal yn Abertawe mewn modd diogel,
ac nid oedd angen gwybodaeth ychwanegol. Mae cynigion a thargedau meddal yn
adlewyrchu'r gwaith sydd wedi bod yn digwydd yn Abertawe ers rhai blynyddoedd
felly nid oedd angen newid sylweddol i arfer neu Gynllun Gwella'r Gwasanaethau
Plant a Theuluoedd.
·
Mae
adroddiadau rheolaidd ar gael i'r panel drwy adroddiad perfformiad misol y
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.
·
Hoffai'r
panel wahodd y Gweinidog i un o gyfarfodydd y panel i drafod targedau
Llywodraeth Cymru.
Camau Gweithredu:
·
Gwahodd
Gweinidog i ddod i un o gyfarfodydd y panel i drafod targedau Llywodraeth
Cymru.
|
8. |
Amserlen y Rhaglen Waith ar gyfer 2019/20 PDF 310 KB
Cofnodion:
Ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel.
|
9. |
Lythyrau PDF 172 KB
a)
Lythyr At Aelod y Cabinet (cyfarfod 28 Awst 2019)
Cofnodion:
Cafodd llythyr ei dderbyn a'i ystyried gan y panel.
|
|
Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 28 Hydref 2019) PDF 175 KB
|