Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd holl gyfranogwyr y cyfarfod a gofynnodd i'r Prif Gyfreithiwr
amlinellu'r weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr is-bwyllgor wrth ystyried y cais. Rhoddodd y Prif
Gyfreithiwr drosolwg o'r weithdrefn i'w mabwysiadu gan yr is-bwyllgor wrth
ystyried y cais. Adroddodd y
Swyddog Trwyddedu am gais i amrywio trwydded mangre
ar gyfer Boo's Kitchen, 2
Heol Woodville, y Mwmbwls. Cyfeiriodd at yr amcanion
trwyddedu, ystyriaethau polisi a'r arweiniad gan y Swyddfa Gartref. Cyfeiriwyd
yn benodol at yr amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded mangre
yn Atodiad A, cynllun lleoliad y fangre yn Atodiad B,
a'r sylwadau a wnaed gan bobl eraill yn Atodiad C. Dywedodd nad oes
modd gorfodi amod sydd ynghlwm wrth y drwydded wreiddiol a roddwyd yn 2012 -
“Bydd y fangre ar gau i'r cyhoedd ar ddydd Sul” - a
dylid ei ddileu o'r drwydded yn y dyfodol. Dywedodd y
Swyddog Trwyddedu fod y safle wedi cael caniatâd cynllunio/oriau gweithredu
diwygiedig yn ddiweddar o 08:00 i 22:30 (dydd Sul i ddydd Iau) ac o 08:00 i
23:30 (dydd Gwener i ddydd Sadwrn). Yn absenoldeb y
bobl eraill, darllenodd y Prif Gyfreithiwr gynnwys y ddau lythyr a dderbyniwyd. Amlinellodd
Angharad Bethan Boo (yr ymgeisydd) y rhesymau a'r
rhesymeg y tu ôl i'w chais a chyfeiriodd at weithrediad presennol ac
arfaethedig y caffi bach llysieuol annibynnol yn y dyfodol yr oedd hi wedi bod
yn ei weithredu ers mis Mai 2018. Dywedodd ei bod wedi cynnal rhai digwyddiadau prawf gyda'r nos ym mis
Rhagfyr yn dilyn awgrymiadau gan gwsmeriaid. Profodd y rhain yn llwyddiannus,
felly roedd hi'n bwriadu ehangu ei busnes i gynnwys agor gyda'r nos yn
rheolaidd. Awgrymodd ei bod yn gobeithio cyflogi staff amser llawn ychwanegol o
ganlyniad. Mewn ymateb i
gwestiynau gan Aelodau, cadarnhaodd yr ymgeisydd y materion canlynol: Ardaloedd awyr
agored sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer bwyta/yfed, prinder
arwyddion sy'n ymwneud ag ysmygu, y cwynion a dderbyniwyd ynghylch y wyntyll
echdynnu a phroblemau parcio yn y fangre, mae'r fflat
uwchben y fangre yn llety rhent, gweinir bwyd/diodydd
i gwsmeriaid trwy wasanaeth bwrdd yn unig, roedd ei rhif cyswllt ar gael i
drigolion lleol ar gyfer unrhyw gwynion/faterion, hyfforddiant staff mewn
perthynas â Her 21. Yn dilyn
cwestiynau pellach, nododd y byddai'n hapus i'r ardal awyr agored gael ei
defnyddio tan 6pm, ac i arddangos arwyddion wrth yr allanfa gan ofyn i
gwsmeriaid barchu cymdogion o ran sŵn/aflonyddwch ac ati. Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd
o'r gwrandawiad yn unol â pharagraff 14 Rheoliadau Deddf Trwyddedu
(Gwrandawiadau) 2005, er mwyn i'r is-bwyllgor gael cyngor cyfreithiol. (Sesiwn Gaeëdig) Trafododd yr aelodau'r materion ynghylch y cais. (Sesiwn Agored) Rhoddodd y cyfreithiwr a oedd yn
cynghori'r is-bwyllgor drosolwg cynhwysfawr o'r cyngor cyfreithiol a roddwyd. Dywedodd y Cadeirydd fod yr
is-bwyllgor wedi ystyried y cais a'r sylwadau a wnaed ynghyd â holl anghenion a
buddion yr holl bartïon o ran Datganiadau Polisi Trwyddedu'r cyngor, arweiniad
statudol a gofynion Deddf Trwyddedu 2003. Penderfynodd yr
is-bwyllgor amrywio'r cais yn ddibynnol ar yr amodau diwygiedig a amlinellir
isod: 1.
Yn
unol â chyngor cyfreithiol, dylid dileu'r cyfeiriad at gau’r fangre i'r cyhoedd ar ddydd Sul o'r drwydded gan nad yw'n
briodol at ddibenion Deddf Trwyddedu 2003 ei gael ar y drwydded mangre. 2.
Cymeradwywyd
yr amrywiad yn unol â'r cais i werthu alcohol o 10:00 i 23:00 o ddydd Llun i ddydd
Sul ac Amod Rhif 2 ar y drwydded yn cael ei addasu i ddarllen “… Ni ddylid
defnyddio'r ardal awyr agored ar ôl 18:00…”. Rheswm dros y
penderfyniad Nododd yr
is-bwyllgor y diweddariad ynglŷn â'r cais cynllunio a bod oriau agor wedi
eu caniatáu o 08:00 i 22:30 o ddydd Sul i ddydd Iau ac o 08:00 i 23:30 ar ddydd
Gwener a dydd Sadwrn. Yn unol â chyngor cyfreithiol, ystyriodd aelodau’r
is-bwyllgor y cais o'u blaenau yn unol â'u dyletswydd o dan A5 Deddf Trwyddedu
2003 a hyrwyddo'r amcanion trwyddedu. Rhoddodd yr
is-bwyllgor ystyriaeth i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu yng nghyd-destun y cais
ac ystyriodd effaith yr amrywiad arfaethedig i gynyddu’r oriau gwerthu alcohol
fel a nodwyd yn y ddau sylw perthnasol a dderbyniwyd. Gan nad oedd y
naill berson na’r llall yn bresennol, roedd yr is-bwyllgor yn ei chael yn anodd
penderfynu a fyddai cymeradwyo’r cais yn cael yr effaith a awgrymwyd o
danseilio'r amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus, gan fod y sylwadau
ysgrifenedig yn amwys ac ni allai'r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i'r bobl eraill
i ymhelaethu neu ehangu ar y materion a godwyd ganddynt. Roedd yn rhaid
diystyru rhai cwynion ynglŷn â pharcio a chyfeiriadau at synau oddi wrth
gyffiniau'r fangre fel rhai nad oeddent yn berthnasol
i'r penderfyniad yn unol â Deddf 2003 ac Arweiniad Statudol. Gofynnodd yr
is-bwyllgor i'r ymgeisydd am unrhyw gwynion a wnaed. Clywsant gyfeiriadau at
gwynion yn ymwneud â'r materion cynllunio a bod oddeutu 34 o wrthwynebiadau
wedi dod i law, sef problemau gyda pharcio a gwyntyll echdynnu swnllyd a oedd
wedi ei datrys ganddi, agor yn rhy gynnar a phroblemau sbwriel nad oeddent yn
fai ar y fangre ac roedd hi wedi tynnu lluniau fel
tystiolaeth. Nododd yr is-bwyllgor fod yr ymgeisydd wedi dweud nad oedd ei chwsmeriaid
yr un rhai â'r rheiny a oedd yn mynychu Heol Newton ac nad oedd safle tacsis
gerllaw. Ymhellach, nid oedd y fangre drws nesaf i'r
cymydog gan fod fflat rhyngddynt. Cadarnhaodd nad oes ganddi fanciau poteli a
bod yr holl ailgylchu yn cael ei wneud y tu mewn i'r fangre.
Dywedodd nad oedd safle tacsis gerllaw. Airbnb oedd y
fflat ac ni fyddai defnydd o'r ardal awyr agored yn dderbyniol yn hwyr y nos,
felly ni ddefnyddiwyd hi ar ôl 17:00. Yn absenoldeb
unrhyw sylwadau gan awdurdodau cyfrifol a gyda gwybodaeth gyffredinol a chyfyngedig
yn unig ynglŷn â niwsans cyhoeddus wedi'i chyflwyno gan bobl eraill,
canfu'r is-bwyllgor nad oedd unrhyw dystiolaeth o sŵn yn dod o'r fangre yn ystod yr oriau gweithredu. Roedd yr
is-bwyllgor o'r farn bod potensial ar gyfer niwsans cyhoeddus o ddefnyddio
ardal awyr agored y fangre ond roedd yn fodlon y
byddai addasu amod Rhif 2 yn atal unrhyw sŵn o'r ardal awyr agored ar
adegau sensitif o ran sŵn. Roedd yr
is-bwyllgor yn fodlon, o ystyried natur y fangre, ei chapasiti cyfyngedig a'i hamodau sy'n ei gwneud yn ofynnol
i weinyddwyr ddarparu alcohol i gwsmeriaid sy'n eistedd wrth fyrddau'n unig, na
fyddai'r oriau ychwanegol ar gyfer gwerthu alcohol yn tanseilio'r amcan
trwyddedu er mwyn atal niwsans cyhoeddus os cymeradwywyd oriau a geiswyd. Roedd yr is-bwyllgor hefyd yn fodlon bod deiliad y
drwydded mangre a'r goruchwyliwr mangre
dynodedig bellach yn gwbl gyfarwydd â'r amodau sydd ynghlwm wrth ei thrwydded mangre a'r angen i gydymffurfio â hwy. Cadarnhaodd yr
ymgeisydd fod ei rhif cyswllt ar gael i unrhyw un a oedd â phroblemau wrth
reoli'r fangre. |