Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd A S
Lewis gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 19
“Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol”, a gadawodd y cyfarfod cyn iddo
ddechrau; 2)
Mynegodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 19 "Penodiadau Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb
gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion
yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol; 3)
Datganodd y Cynghorydd R C
Stewart gysylltiad personol â Chofnod 19 “Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod
Lleol”. |
|||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 16 Mai 2019. |
|||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Gweddarlledu'r Cyfarfod Dywedodd Arweinydd y Cyngor, fel rhan o'r gwaith
cyfredol i fynd ati i weddarlledu cyfarfodydd y
cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen Graffu, fod y
cyfarfod yn cael ei recordio. |
|||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd cwestiwn mewn perthynas â Chofnod 21,
“Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe”. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cyngor dros
Gymunedau Gwell. |
|||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Llongyfarchwyd y Cynghorydd A S Lewis gan y
Cynghorydd T J Hennegan am gael ei phenodi’n Llefarydd Tai Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). |
|||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 96 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer
yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol
(ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg
ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
|||||||
Adroddiad Cynnal Cyfalaf Adeiladu 2019/20 - Cyllid Ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. PDF 119 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd
y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb ar y cynlluniau i'w hariannu
drwy'r Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf ar gyfer 2019-2020. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r cynlluniau cynnal a chadw cyfalaf ychwanegol
arfaethedig ar gyfer y Gwasanaethau Adeiladu, fel y’u rhestrir yn Atodiad A yr
adroddiad; 2)
Rhoi caniatâd i gynnwys y goblygiadau ariannol a nodwyd
yn Atodiad C yr adroddiad yn y rhaglen gyfalaf. |
|||||||
Comisiwn y Gwirionedd am Dlodi Abertawe PDF 161 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gymunedau Gwell adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i'r
camau nesaf arfaethedig yn natblygiad Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe ac i
gytuno ar fanylion yr ymrwymiad gofynnol gan Gyngor Abertawe. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r cynnig i roi camau nesaf sefydlu Comisiwn
Gwirionedd Tlodi Abertawe ar waith; 2)
Ymrwymo i Gomisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe a’i gefnogi. |
|||||||
Gwahardd y cyhoedd. PDF 112 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
y nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|||||||
Dyfarnu'r Contract (Adeiladu) Cam Cyntaf ac Awdurdodi'r Rhaglen Gyfalaf perthnasol ar gyfer y Prosiect Ailfodelu ac Ailwampio yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio
awdurdod i: 1)
Ddyfarnu
Contract Cam Un ar gyfer y gwaith i Tendr 4 ar gyfer gwaredu asedau’n unol â
Chyfansoddiad y Cyngor; 2)
Ymrwymo
cyfanswm o £596,179 i'r Rhaglen Gyfalaf i ariannu costau'r cyfnod cyn adeiladu
ac i gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - ymrwymo i gynllun newydd
i'r Rhaglen Gyfalaf a’i awdurdodi. Cymeradwywyd y
Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019/20 a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2018/19 i
2023/2025 gan y cyngor ar 28 Chwefror 2019. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad. |
|||||||
Pryniant Arfaethedig o Fuddsoddiad Eiddo yng Nghanol y Ddinas. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer prynu eiddo fel rhan o'r Gronfa Buddsoddi mewn Eiddo.
Crëwyd y Gronfa yn dilyn penderfyniad gan y Cabinet a wnaed ar 21 Gorffennaf
2016. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad. |
|||||||
Gwerthu Tir Priffordd yn y Mwmbwls, Abertawe. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn rhoi'r
diweddaraf am gynnydd ac a ddarparodd opsiynau mewn perthynas â defnyddio’r tir
a nodwyd yn yr adroddiad yn y dyfodol. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad. |