Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019-2020. Cofnodion: Penderfynwyd ethol Paula O’Connor yn Gadeirydd ar gyfer
Blwyddyn Ddinesig 2019/2020. (Bu Paula O’Connor (Cadeirydd Annibynnol) yn
llywyddu) |
|
Ethol is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019-2020. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd P R Hood-Williams yn
Is-Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2019-2020. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: - Y Cynghorydd P K Jones – Cofnod Rhif 9 - Cynllun Archwilio Mewnol Blynyddol
ar gyfer 2018/19 - Adroddiad Monitro ar gyfer y cyfnod o 1 Ionawr 2019 i 31
Mawrth 2019 – Llywodraethwr Ysgol Gyfun yr Esgob Vaughan – personol. Y Cynghorydd P R Hood-Williams - Cofnod Rhif 9 - Cynllun Archwilio Mewnol
Blynyddol ar gyfer 2018/19 - Adroddiad Monitro ar gyfer y cyfnod o 1 Ionawr
2019 i 31 Mawrth 2019 – Llywodraethwr Ysgol Gynradd Cilâ – personol. Y Cynghorydd T M White - Cofnod Rhif 9 - Cynllun Archwilio Mewnol Blynyddol
ar gyfer 2018/19 - Adroddiad Monitro ar gyfer y cyfnod o 1 Ionawr 2019 i 31
Mawrth 2019 – Llywodraethwr Ysgol - personol Paula O’Connor – yr Agenda yn ei chyfanrwydd - Gweithiwr cyflogedig gydag
Ymddiriedolaeth GIG Felindre - yn darparu Gwasanaeth Archwilio Mewnol fel
Pennaeth Archwilio Mewnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio fel cofnod
cywir. ·
Olrhain Risgiau Corfforaethol Misol - Mawrth 2019 Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi cwrdd â'r Rheolwr Perfformiad a Chyflwyno
Strategol a'r Prif Archwilydd i weld y feddalwedd Rheoli Risgiau newydd.
Dywedodd y byddai'r feddalwedd, sy'n cael ei datblygu o hyd, yn gwella ansawdd
ac yn cyfoethogi gwaith adolygu a monitro risgiau. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd Ben Smith, y Prif Swyddog Cyllid, Sian
Williams, Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau a Michelle, Rheolwr Arian Parod a
Chyfrifon Derbyniadwy, adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf am y Ganolfan
Gwasanaethau a swyddogaeth Cyfrifon Derbyniadwy. Amlinellwyd, o ganlyniad i archwiliad
mewnol ar y swyddogaeth Cyfrifon Derbyniadwy a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2018,
y rhoddwyd lefel sicrwydd cymedrol. Datblygwyd cynllun gweithredu i fynd i'r
afael â'r materion a nodwyd a rhoddwyd camau gweithredu addas yn eu lle. Amlinellwyd manylion y cynllun gweithredu,
gan gynnwys risgiau uchel a chanolig a chynnydd hyd yma. Darparwyd yr adroddiad
Archwiliad Cyfrifon Derbyniadwy Terfynol yn Atodiad A. Trafododd y pwyllgor y canlynol: - ·
Cytunwyd ar drefniadau arfer da gyda'r
Gwasanaethau Cyfreithiol; ·
Y cysylltiad rhwng lleihau adnoddau staff
a gostyngiad o anfonebau a adenillir o 95% i 85%; ·
Cymharu'r arian a gollwyd oherwydd y
gostyngiad yn yr anfonebau a adenillir â chost lleihau staff a'r ddyled
gymharol fach o'i chymharu â meysydd eraill, e.e. Treth y Cyngor/Ardreth
Annomestig Genedlaethol; ·
Cydnabod canlyniadau lleihau niferoedd
staff a'r nifer perthnasol (gostyngwyd nifer y staff o 12 i 6); ·
Y broses o adennill dyled, gan gynnwys
blaenoriaethu adennill dyledion mwy a'r angen i ddarparu sail gyfreithiol ar
gyfer dyledion; ·
Cyfrifoldebau adrannau mewnol yr
awdurdod o ran y broses adennill dyledion; ·
Roedd y broses yn ymddangos i fod yn
ddryslyd yn dilyn anfon llythyrau atgoffa; ·
Gweithdrefnau dileu a'r ffaith bod y
broses o adennill dyledion wedi dod i ben cyn iddynt gael eu dileu; ·
Gweithio/cynnal trafodaethau gyda
sefydliadau partner ynghylch dyledion heb eu talu; ·
Nid yw dyledion heb eu talu'n
effeithio'n fawr ar weithdrefnau cyfrifeg o fewn yr awdurdod oni bai fod
dyledion yn cael eu dileu; Mynegodd y Cadeirydd bryder bod y broses o adennill dyledion yn wan a bod
datganoli'r gweithdrefnau wedi gwneud y broses o adennill yn hirach.
Ychwanegodd fod angen adroddiad dilynol (a gofynnodd i'r archwiliad ystyried y
prosesau a datganolir) o fewn 6 mis er mwyn rhoi sicrhad o ran effeithiolrwydd
y broses o adennill dyledion i'r Pwyllgor Archwilio. Penderfynwyd: - 1) Dylid nodi cynnwys yr adroddiad; 2) Dylid darparu adroddiad dilynol o fewn y 6 mis nesaf. |
|
Polisi a Fframwaith Risg Corfforaethol. (Er gwybodaeth) PDF 92 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol adroddiad 'er
gwybodaeth' a oedd yn cynnwys Polisi Risg Corfforaethol y cyngor a'r fframwaith
perthnasol. Amlinellwyd yr ymgynghorwyd â'r Pwyllgor Archwilio
ynghylch y Polisi Risg drafft ar 11 Gorffennaf 2017 cyn iddo gael ei gymeradwyo
yn ystod cyfarfod y Cabinet ym mis Awst 2017. Darparwyd y Polisi Risg Corfforaethol yn Atodiad A a
darparwyd y Fframwaith Risgiau Corfforaethol yn Atodiad B. Cyfeiriodd y Cadeirydd at gyfrifoldeb y pwyllgor i herio a darparu sicrwydd
annibynnol i aelodau am ddigonolrwydd y Polisi a'r Fframwaith Rheoli Risgiau,
datblygu a gweithdrefnau rheoli risgiau a'u gweithredu, a monitro cynnydd wrth
fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â risgiau. Mynegodd bryder ynghylch y
ffaith nad oedd y pwyllgor yn gallu monitro risgiau ar hyn o bryd, a'i bod yn
gobeithio y byddai'r system newydd yn darparu'r wybodaeth y mae ei hangen, ac
felly'n rhoi sicrwydd i'r pwyllgor. Trafododd y pwyllgor y canlynol: - ·
Gwella
safon trefniadau rheoli risgiau; ·
Yr
angen am gysondeb wrth symud ymlaen; ·
Gweithredoedd
wrth gefn a gweithio gyda pherchnogion y risgiau i wella'r sefyllfa. |
|
Trosolwg o Statws Cyffredinol Risg R4 2018/19. (Er gwybodaeth) PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparodd y
Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol, Richard Rowlands, adroddiad 'er
gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno trosolwg o'r statws risgiau yn y cyngor yn ystod
Chwarter 4 2018/19 er mwyn rhoi sicrwydd i'r pwyllgor ynghylch gweithrediad y
polisi a'r fframwaith rheoli risgiau yn y cyngor. Darparwyd gwybodaeth ar gyfer Chwarter 4 2018/19 yn Atodiad A a chymharodd hon gyda throsolwg o'r sefyllfa yn ystod
Chwarter 3 2018/19 yn Atodiad A.
Darparwyd y Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn Atodiad B a Chofrestr
Risgiau'r Gyfarwyddiaeth yn Atodiad C. Trafododd y pwyllgor y canlynol: - ·
Cadw data ar ôl cau risgiau; ·
Atal adlithriad
trwy sicrhau bod risgiau'n cael eu monitro/eu hadolygu bob mis; ·
Cynnwys materion bioamrywiaeth yn y
gofrestr risgiau; ·
Gallu Aelodau'r Pwyllgor Archwilio i
fonitro risgiau a rhoi sylwadau arnynt trwy gyflwyno'r system newydd; ·
Y risg sy'n gysylltiedig â'r ffaith nad
yw'r Fargen Ddinesig wedi'i harwyddo; ·
Yr amserlen ar gyfer cyflwyno'r system
newydd; ·
Ymagwedd ragweithiol yr awdurdod mewn
perthynas â risgiau. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r
system newydd ar gyfer risgiau'n gwella ansawdd y manylion a ddarparwyd yn y
gofrestr risgiau. Ychwanegodd y byddai perchnogion risgiau uchel yn cael eu
gwahodd i gyfarfod y pwyllgor i adrodd am eu risgiau. |
|
Rhaglen Hyfforddi'r Pwyllgor Archwilio 2019/20. PDF 128 KB Cofnodion: Cyflwynodd Simon
Cockings, y Prif Archwilydd, Raglen Hyfforddiant y Pwyllgor Archwilio 2019/20,
a ddarparwyd yn Atodiad 1. Ychwanegwyd yr argymhellir y Meysydd Gwybodaeth
canlynol ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor Archwilio mewn arweiniad newydd a
ddosbarthwyd gan Cipfa yn 2018: ·
Rôl a
gweithredoedd y Pwyllgor Archwilio ·
Rheoli
risgiau ·
Rheoli
ariannol a chyfrifeg ·
Llywodraethu
a gwerthoedd llywodraethu da ·
Archwilio
Allanol ·
Archwilio
Mewnol ·
Hyfforddiant
Gwrth-dwyll Dywedodd y
Cadeirydd y dylai unrhyw hyfforddiant yn y dyfodol ganolbwyntio ar unrhyw
newidiadau mewn meysydd penodol. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Darparu
hyfforddiant cyn cyfarfodydd er mwyn rhoi dealltwriaeth well o bynciau penodol
i aelodau; ·
Diweddaru'r
rhaglen hyfforddiant cyn y cyfarfod ac adrodd amdano yn y cyfarfod
nesaf; ·
Darparu
hyfforddiant rheoli ariannol a chyfrifeg yn unig yn ystod y cyfarfod nesaf a
drefnir; ·
A oes
angen darparu hyfforddiant llywodraethu yn y dyfodol o ystyried cynnwys
cyflwyniad diweddar y Dirprwy Brif Weithredwr i'r pwyllgor ·
Esbonio
terminoleg/acronymau mewn cyflwyniadau yn y dyfodol; ·
Perchnogaeth
Rhaglen Hyfforddiant y Pwyllgor a threfnu i'r Gwasanaethau Democrataidd fod yn
gyfrifol am yr holl hyfforddiant yn y dyfodol yn lle'r Prif Archwilydd
wrth symud ymlaen. Penderfynwyd: - 1)
Cymeradwyo
Rhaglen Hyfforddiant y Pwyllgor Archwilio; 2)
Y
bydd y Cadeirydd/Gwasanaethau Democrataidd yn cyflwyno Rhaglen Hyfforddiant ddiwygiedig
yn y cyfarfod nesaf a drefnir; 3) Y bydd y Gwasanaethau Democrataidd yn gyfrifol am yr holl ofynion a threfniadau hyfforddi ar gyfer y pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwiliwr yr archwiliadau a gwblhawyd ac unrhyw waith arall a wnaed gan yr
Is-adran Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod o 1 Ionawr 2019 i 31 Mawrth 2019. Cwblhawyd
cyfanswm o 27 o archwiliadau yn ystod y chwarter. Darparwyd yr archwiliadau a
gwblhawyd yn Atodiad 1, a oedd hefyd yn dangos lefel y sicrwydd a roddwyd ar
ddiwedd yr archwiliad a nifer yr argymhellion a wnaed ac y cytunwyd arnynt.
Gwnaed cyfanswm o 213 o argymhellion yn yr archwiliad, a chytunodd y rheolwyr i
weithredu 209 ohonynt, h.y. derbyniwyd 98% o'r argymhellion yn erbyn targed o
95%. Roedd Atodiad 2
yn dangos, erbyn diwedd mis Mawrth 2019, fod 87% o'r adolygiadau a gynlluniwyd
wedi'u cwblhau i o leiaf y cam adroddiad drafft, gyda 3% o'r archwiliadau
ychwanegol a gynlluniwyd ar waith. O ganlyniad, roedd 90% o'r Cynllun Archwilio
wedi'i gwblhau neu ar waith. Nodwyd bod y 10% o'r swyddi sy'n weddill wedi'u
trosglwyddo i gynllun 2019/20. Gwelwyd cynnydd
sylweddol yn lefelau absenoldeb salwch yr Is-adran Archwilio Mewnol yn ystod
chwarter 2 a chwarter 3 2018/19. Nodwyd cyfanswm cronnus o 142 o ddiwrnodau o
absenoldeb salwch erbyn 31/03/19 yn erbyn cyllideb flynyddol o 66 o
ddiwrnodau. Nodwyd bod mwyafrif helaeth
yr absenoldeb hwn yn ymwneud â thri aelod o staff a oedd i ffwrdd o'r gwaith yn
y tymor hir oherwydd materion nad oeddent yn ymwneud â'r gwaith/salwch yn ystod
y cyfnod. Darparwyd manylion grantiau a ardystiwyd a
materion arwyddocaol i'r pwyllgor hefyd a arweiniodd at y graddfeydd cymedrol a
roddwyd yn y chwarter. Nodwyd gwybodaeth
ynghylch gwaith ychwanegol a gwaith dilynol a gwblhawyd rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth
2019 yn fanwl, gan gynnwys archwiliadau Ysgol Gyfun yr Esgob Gore, Ysgol
Gynradd Portmead a'r Gwasanaethau Glanhau.
Ym mhob achos cadarnhaodd yr adolygiad dilynol fod cynnydd sylweddol
wedi'i wneud trwy roi'r argymhellion a wnaed ar waith, a rhoddwyd holl
argymhellion y risgiau uchel a chanolig ar waith. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog ac ymatebwyd yn briodol iddynt. Roedd trafodaethau'n cynnwys y canlynol: - ·
Rhesymau
dros ymdrin â gohiriadau ac archwiliadau a ohiriwyd yn ystod chwarter cyntaf y
flwyddyn ariannol newydd; ·
Y
broses o ychwanegu archwiliadau newydd i'r cynllun blynyddol gyda chefnogaeth
Penaethiaid Gwasanaeth; ·
Gohirio'r
archwiliad adennill dyledion a'i gynnwys yn archwiliad dilynol y Cyfrifon
Derbyniadwy a drefnir ar gyfer mis Medi/Hydref 2019, lle cyflwynir y
canlyniadau i'r pwyllgor fel rhan o'r Adroddiad Olrhain Argymhellion Archwiliad
Hanfodol, fel dros y blynyddoedd blaenorol. Dywedodd y
Cadeirydd y byddai'n cwrdd â'r Prif Swyddog Cyllid a'r Prif Archwilydd ar ôl y
cyfarfod i drafod rhai adroddiadau archwilio er mwyn deall y risgiau a cheisio
sicrhad. Bydd yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor ym mis Awst 2019. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. (Er gwybodaeth) PDF 138 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwilydd adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio 'er
gwybodaeth'. Dywedodd fod rhai gweithredoedd wedi'u cau a bod fersiwn ddiweddaraf y Rheolau Gweithdrefnau Contractau yn cael ei hadrodd i'r cyngor i'w chymeradwyo. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 102 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adroddwyd am Gynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio 'er gwybodaeth’. Dywedodd y Cadeirydd y byddai angen i'r pwyllgor gytuno ar faich gwaith
dichonadwy. Ychwanegodd y bydd
Cyfarwyddwr Corfforaethol yn dod i gyfarfodydd yn y dyfodol i ddarparu sicrwydd
ar lywodraethu, risgiau a rheolaeth fewnol yn eu meysydd cyfrifoldeb. Nododd y Prif Archwilydd y dylai'r Gwasanaethau Democrataidd fod yn
gyfrifol am reoli Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio ar unwaith. |
|
Argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru yn dilyn Adolygiad o Effeithiolrwydd y Pwyllgor Archwilio. (Llafar) Cofnodion: Nododd y
Cadeirydd fod cynnydd da wedi'i wneud yn erbyn argymhellion Swyddfa Archwilio
Cymru (SAC) yn dilyn adolygiad o effeithlonrwydd y Pwyllgor Archwilio. Ychwanegodd y byddai SAC yn cynnwys y cynnydd
yn y sesiwn a hwylusir. Nododd Jason
Garcia, Swyddfa Archwilio Cymru, y cynhelir llawer o drafodaethau ynghylch
risgiau ac y gallai'r pwyllgor ganolbwyntio ar risgiau corfforaethol o bosib, a
cheisio sicrhad gan swyddogion ynghylch y risgiau hyn. Ychwanegodd fod gwaith y
pwyllgor yn canolbwyntio ar gydbwysedd. |
|
Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio. PDF 48 KB Cofnodion: Darparwyd cylch
gorchwyl y Pwyllgor Archwilio 'er gwybodaeth'. |