Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

https://www.abertawe.gov.uk/DatgeluCysylltiadau.

Cofnodion:

·         Dim

 

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 244 KB

·         Cymeradwyo a llofnodifel cofnod cywirgofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cymeradwywyd

 

3.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

·         Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

·         Dim

4.

Adolygiadau Comisiynu - Y Diweddaraf am Gynnydd pdf eicon PDF 139 KB

·         Clive Lloyd - Aelod y Cabinet - Trawsnewid Busnes a Pherfformiad (y Dirprwy Arweinydd)

·         Sarah Caulkin - Prif Swyddog Trawsnewid

Cofnodion:

  • Bydd arbedion adfywio a chynllunio y nodwyd 'nad ydynt wedi'u cyflawni' yn cael eu gohirio yn hytrach na pheidio â'u cyflawni ar y cyfan
  • Ymholiad ynghylch 'cynlluniau amgaeedig' yn adran Adeiladau Corfforaethol/Eiddo Corfforaethol – bydd yr adran yn cadarnhau
  • Costau'r cyngor mewn perthynas ag Adeiladau ac Eiddo Corfforaethol yn dod yn unol â chontractwyr allanol ac, o ganlyniad, mae mwy o waith yn cael ei wneud yn fewnol
  • Angen mwy o eglurhad o ran y diweddaraf am Gynllunio Llwybrau o fewn yr adran Rheoli Gwastraff.
  • Mae arbedion y Rhaglen Cefnogi Busnes dros gyfnod o 5 mlynedd - hyderus o ran ffigurau
  • Hoffem gael mwy o wybodaeth am berfformiad arlwyo – dylai’r adran ddarparu adborth ynghylch 6 mis o berfformiad
  • Mae salwch yn effeithio ar rai gwasanaethau a phrosiectau - mae rhai gwasanaethau'n dal i gael eu cyflwyno ond nid ydynt yn 'cyflawni safon aur'
  • Mae rhai gwasanaethau wedi newid o ganlyniad i golli staff ond nid ydynt o reidrwydd yn waeth - mae rhai gwasanaethau wedi newid y ffordd y maent yn gweithredu
  • Ystyried rolau a sicrhau eu bod yn aml-fedrus er mwyn cyflenwi staff
  • Problemau posib o ran staff sy'n derbyn gwaith ychwanegol a generig

 

5.

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 4ydd 2017/18 pdf eicon PDF 105 KB

·         Clive Lloyd - Aelod y Cabinet - Trawsnewid Busnes a Pherfformiad (y Dirprwy Arweinydd)

·         Richard Rowlands – Rheolwr Perfformiad Corfforaethol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Ceisio cyflawni heriau yn ymwneud â mesurau diogelu'r gwasanaethau cymdeithasol
  • Teimlo'n gadarnhaol bod y Cynllun Datblygu Lleol wedi'i dderbyn - darn mawr o waith
  • Gwaith da o ran Adfywio Canol y Ddinas
  • Adroddiad a fformat newydd sy'n cael eu creu drwy feddalwedd ar hyn o bryd

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

  • AS9 (Asesiadau Diogelu rhag Colli Rhyddid wedi'u cwblhau mewn 21 diwrnod neu lai) - roedd perfformiad yn is yn C3 yn dilyn gwelliant yn C2 - mae'r ôl-groniad yn lleihau. Rhai trafodaethau mewn perthynas ag asesiadau cyffredinol ac effeithiolrwydd casglu gwybodaeth gywir gan bobl
  • PAM025 (Cyfradd y trosglwyddiadau gofal i ofal cymdeithasol sy'n hwyr) - nid yw darparwyr gofal cartref yn gallu ymdopi â'r galw ond mae problemau parhaus yma. Mae Panel Craffu Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion yn ystyried hyn yn fanwl
  • SAFE27 - Mae gan hyfforddiant staff o ran diogelu statws coch ac mae angen i hyn wella

 

Addysg

  • Mae presenoldeb ysgolion yn parhau i fod yn sefydlog ond mae gwendidau i'w gweld yn arwyddion o wendid yn C2 a C3
  • EDU016a Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion cynradd - mae'n lleihau ond yn cael ei fonitro
  • BBMA4 Nifer y prentisiaid neu weithwyr dan hyfforddiant sy'n dechrau yn y cyngor - targedau i'w hadolygu oherwydd cyfyngiadau cyllidebol
  • Ymholiad ynghylch straeon yn y wasg am ddisgyblion yn cael eu diddymu o gofrestrau er mwyn gwella presenoldeb

 

Economi ac Isadeiledd

  • Dim newidiadau sylweddol

 

Trechu Tlodi

 

  • HBCT01a Cyflymder prosesu Budd-dal Tai - dangos bod gwelliant
  • HBCT01b Prosesu newidiadau mewn amgylchiadau Budd-dal Tai - mae'r amser a gymerir i brosesu newidiadau i amgylchiadau'n parhau i fod yn uchel ar y cyfan - gall hyn fod o ganlyniad i gyflwyno Credyd Cynhwysol
  • POV10/POV11 Ennill cyflogaeth/cymwysterau - dangosyddion newydd, gofyn am fwy o wybodaeth

 

Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol

 

  • CHROO2 Nifer y dyddiau a gollwyd oherwydd salwch staff - lleihau, ansawdd data yn destun adolygiad. Pryderon bod colli staff yn effeithio ar salwch staff. Rhaid mynd ar drywydd hyn gyda'r adran i gael mwy o wybodaeth
  • FINA6 - Cyflwyno arbedion yn her sy'n gysylltiedig â thrawsnewid cymhleth

 

6.

Cynllun Gwaith 2018/19 pdf eicon PDF 65 KB

Cofnodion:

·         Swyddog Craffu i weithio ar gynllun drafft newydd ar gyfer 2019/20 a dod â hwnnw i'r cyfarfod nesaf

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 325 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 299 KB