Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

55.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

56.

Cofnodion. pdf eicon PDF 110 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2019 fel cofnod cywir.

57.

Llythyrau'r Cyngor at breswylwyr. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Joanne Portwood, y Swyddog Strategaeth a Pholisi, gyflwyniad i'r pwyllgor ar lythyrau'r cyngor at breswylwyr. Roedd y manylion a ddarparwyd yn cynnwys: -

 

·         Llythyrau'r cyngor - defnyddio Saesneg clir, iaith hawdd ei darllen a'r Ddamcaniaeth Hwb i wella cyfathrebu;

·         Yr Angen am Newid;

·         Manteision newid;

·         Enghreifftiau o effaith llythyrau sydd wedi'u hysgrifennu'n wael;

·         Arfer da: Saesneg clir;

·         Arfer da: Fersiwn hawdd ei darllen;

·         Damcaniaeth Hwb;

·         Enghraifft 1: Wedi'i threialu gan CThEM;

·         Enghraifft 2: Cyngor Bwrdeistref Colchester;

·         Enghraifft 3: Cyngor Wigan;

·         Camau nesaf.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·         Symleiddio'r neges a gwella edrychiad y llythyrau gydag e.e. gwaith celf;

·         Yr angen i wneud llythyrau'n haws i'w deall ac edrych ar lythyrau enghreifftiol a anfonwyd gan y cyngor;

·         Sut mae peidio â deall llythyrau'n arwain at breswylwyr yn cael eu herlyn;

·         Sut mae Shelter Cymru wedi nodi problem preswylwyr yn cael eu herlyn ac am fynd i'r afael â'r sefyllfa a sut gallai newid i eirio symlach osgoi erlyniadau, costau llys a dyled.

 

Penderfynwyd:   -

 

1)    Y byddai'r Adran Cyllid yn darparu cyflwyniad sy'n rhoi enghreifftiau o lythyrau sy'n cael eu hanfon at breswylwyr;

2)    Bydd Rheolwr y Gwasanaeth Lles a Ffyniant Oedolion yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor ar drafodaethau â Shelter Cymru a'r Adran Tai ac yn darparu llythyrau enghreifftiol i'w hystyried.

58.

Hawliau dynol Dinas a Sir Abertawe. (Llafur)

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Mo Sykes ddiweddariad i'r pwyllgor am gynnydd ynghylch Abertawe'n dod yn Ddinas Hawliau Dynol. Rhoddodd ddiweddariad a oedd yn cynnwys y diffiniad o Ddinas Hawliau Dynol, ei chenhadaeth a'i hamcanion. Roedd hefyd yn amlygu'r datganiad ar gyfer Dinas Efrog, y bobl a oedd yn ymwneud â hyn, yr hyn yr oeddent yn ei wneud a phedair elfen allweddol eu strategaeth.

 

Amlygwyd yr ystyriaethau ar gyfer Abertawe hefyd, gan gynnwys yr agenda weithredu a oedd yn manylu ar y canlyniadau a'r adnodau angenrheidiol.

 

Dywedodd os oedd Abertawe'n dymuno bod yn Ddinas Hawliau Dynol y byddai'n gorfod gwneud pethau'n wahanol ac roedd angen ymrwymiad lefel uchaf yr awdurdod.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·         Yr angen i gyflwyno datganiad o genhadaeth trosgynnol;

·         Ysgolion yn edrych ar y mater Hawliau Dynol, gofyn iddynt amlinellu'r hyn y dylai Dinas Hawliau Dynol fod a thrafod y mater yn uniongyrchol ag un o ysgolion Abertawe;

·         Cynnwys grwpiau/unigolion eraill yn Abertawe a'u cynnwys mewn trafodaethau;

·         Trafod y mater â grwpiau swyddogion yn y cyngor:

·         Cabinet /Tîm Rheoli Corfforaethol yn ymrwymo iddo.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Mo Sykes am ddarparu ei hadroddiad.

 

Penderfynwyd:   -

 

1)    Y bydd Rheolwr y Gwasanaeth Lles a Ffyniant Oedolion yn drafftio llythyr at y Cabinet/TRhC ac yn ei gylchredeg i'r pwyllgor er mwyn ei gymeradwyo;

2)    Ymchwilio ymhellach i'r syniad o drefnu ymweliad ar y cyd gyda'r Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau ag un o ysgolion Abertawe.

59.

Cynllun Gwaith 2018-2019. pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2018-2019.

 

Darparodd Rheolwr y Gwasanaeth Lles a Ffyniant Oedolion ddiweddariad ar y cynnydd ynghylch Benthyca Llog Uchel. Amlinellodd y camau gweithredu a gymerwyd mewn perthynas â'r Cynllun Gweithredu Benthyca Llog Uchel.

 

Tynnodd sylw at y ffaith bod cynghorwyr wedi gofyn am hyfforddiant ymwybyddiaeth o fenthycwyr arian didrwydded/ymwybyddiaeth o weithredoedd twyllodrus ychwanegol.

 

Penderfynwyd:   -

 

1)    Nodi cynnwys y Cynllun Gwaith diweddaredig ar gyfer 2018-2019;

2)    Y bydd Rheolwr y Gwasanaeth Lles a Ffyniant Oedolion yn cylchredeg crynodeb o'r cynnydd a wnaed o ran y Cynllun Gweithredu Benthyca Llog Uchel;

3)    Ymchwilio ymhellach i'r opsiynau ar gyfer hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o fenthycwyr arian didrwydded/ymwybyddiaeth o weithredoedd twyllodrus.