Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

32.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: -

 

Y Cynghorydd L R Jones - Cofnod Rhif 35 - Cynllun Gweithredu Benthyca Llog Uchel - Ambell waith byddaf yn gweithio i'r diwydiant bancio a chyllid - personol.

33.

Cofnodion. pdf eicon PDF 115 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2018 fel cofnod cywir.

34.

Rhoi'n Gall. (I'w drafod)

Cofnodion:

Yn dilyn y pryderon a fynegwyd yn y cyfarfod diwethaf ynglŷn â thaflen hysbysebu Diverted Giving, nododd y Cadeirydd y byddai'r gost o newid y daflen tua £1,600 a chafwyd y cyllid gan yr awdurdod. Archebwyd baneri a gwybodaeth farchnata ychwanegol hefyd. Ychwanegodd fod y daflen yn rhan o gynllun cenedlaethol ond cwestiynwyd hyn gan rai elusennau. 

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·         BID Abertawe yn ffafrio rhoi rhoddion drwy flychau casglu yn hytrach na'u rhoi nhw'n uniongyrchol i unigolyn;

·         Pobl ddigartref yn colli cyfle oherwydd bod pobl yn cyfrannu drwy'r blychau;

·         Newid geiriad y daflen;

·         Pobl ddigartref ddilys ddim yn gwybod ble i droi am help;

·         Nid yw’r prosiect Diverted Giving yn cefnogi pobl ddigartref ddilys;

·         Sicrhau bod cyllid yn cael ei ddosbarthu i bobl ddigartref ddilys.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi cynnwys y trafodaethau;

2)    Dosbarthodd y Cadeirydd lythyr drafft i'r pwyllgor yn amlinellu'r pryderon a fynegwyd;

3)    Dylid trosglwyddo'r llythyr a gymeradwywyd at Arweinydd y Cyngor/i’r adran briodol.

 

35.

Benthyca Llog Uchel Gweithrediad Cynllun. (Llafar)

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Cynllun Gweithredu Benthyca Llog Uchel a dywedodd y dylai'r awdurdod gynyddu ymwybyddiaeth o Undeb Credyd Bae Abertawe gyda staff y cyngor. 

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·         Dod ag Undeb Credyd Bae Abertawe at sylw'r holl gynghorwyr a'r staff drwy raeadru'r wybodaeth drwy'r awdurdod;

·         Dod ag Undeb Credyd Bae Abertawe at sylw'r holl breswylwyr drwy wefan y cyngor/Arwain Abertawe/biliau treth y cyngor/llyfrgelloedd/digwyddiadau lles;

·         Rhoi neges gadarnhaol i gynilo, a chaniatáu i bobl weld y buddion.

 

Cynghorodd y Prif Gyfreithiwr y pwyllgor o ran ystyried sut yr oedd yn dymuno hyrwyddo'r gwasanaethau a ddarparwyd gan yr Undeb Credyd Bae Abertawe gan awgrymu bod angen cael cyngor pellach cyn mynd â'r mater ymhellach.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Bod angen cael cyngor pellach gan swyddogion o ran y ffordd orau i fynd â'r mater ymhellach;

2)    Yn dilyn y cyngor hwn, dosbarthodd y Cadeirydd lythyr drafft i'r pwyllgor yn amlinellu sut i fynd â'r mater ymhellach;

3)    Dylid trosglwyddo'r llythyr a gymeradwywyd i'r Cabinet.

 

 

36.

Dinas Hawliau Dynol. (I'w drafod)

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd fod cyfarfodydd pellach wedi'u trefnu i drafod sut roedd yr awdurdod am ddatblygu i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol. Cynigodd fod y Cynghorydd M Sykes a Dr Simon Hoffman, Prifysgol Abertawe yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd pwyllgor mis Ionawr a Chwefror 2019.

 

Penderfynwyd bod y Cadeirydd yn cysylltu â'r Cynghorydd M Sykes a Dr Simon Hoffman, Prifysgol Abertawe er mwyn eu gwahodd naill i gyfarfod pwyllgor mis Ionawr neu Chwefror 2019.</AI5>

37.

Cynllun Gwaith 2018-2019. pdf eicon PDF 116 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2018-2019.

 

Trafododd y pwyllgor y pynciau posib canlynol: -

 

·         Cyflogadwyedd/Gwirfoddoli/Oriau gweithio/Unigolion yn dysgu sgiliau newydd

·         Clybiau ar ôl ysgol a'u heffeithiolrwydd

·         Tlodi bwyd/Storio bwyd/Siopau'n cyfrannu bwyd/Unigolion yn dysgu sgiliau coginio

·         Effaith y Fargen Ddinesig

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Dylid nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Bod Diverted Giving a Benthyca llog uchel yn cael eu cynnwys ar bob adenda yn y dyfodol nes diwedd y flwyddyn ddinesig;

3)    Cyflogadwyedd, Tlodi bwyd a Chlybiau ar ôl ysgol i'w hychwanegu at y Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019.