Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

8.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorwyr P M Black, N J Davies, L S Gibbard, J A Hale, S M Jones, W G Lewis, S Pritchard, G J Tanner, L J Tyler-Lloyd ac L V Walton ddiddordeb personol yng Nghofnod 10 "Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2019-202 - Ymgynghoriad".

9.

Cofnodion. pdf eicon PDF 151 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf 2018 fel cofnod cywir.

 

Materion yn codi

 

Cofnod 6 - Cyfryngau Cymdeithasol - Canllaw i Gynghorwyr - Drafft Cyntaf CLlLC

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y pwyllgor y cafodd y newidiadau a awgrymwyd ganddynt yn y cyfarfod diwethaf eu bwydo'n ôl i'r CLlLC ac fe'u cynhwyswyd yn y fersiwn derfynol, a ddosbarthwyd i bob cynghorydd erbyn hyn.

10.

Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA) 2019-2020 - Ymgynghoriad. pdf eicon PDF 175 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad er mwyn ymgynghori a rhoi sylwadau ar Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2019-2020 a oedd yn gwneud sylwadau ar y penderfyniadau a wnaed a fyddai'n effeithio ar Ddinas a Sir Abertawe a'r ymatebion arfaethedig. 

 

Bydd y sylwadau'n llunio adroddiad i'r cyngor a dilynir hyn gan ateb ffurfiol i'r IRPW erbyn ei ddyddiad cau, sef 27 Tachwedd 2018. Cyhoeddir yr adroddiad terfynol gan IRPW ym mis Chwefror 2019.

 

Penderfynwyd argymell yr adroddiad i'r cyngor i'w gymeradwyo.

11.

Adolygiad o Lawlyfr y Cynghorwyr pdf eicon PDF 155 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i adolygu Adran A "Cydnabyddiaeth Ariannol Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig (Cyflogau, Lwfansau a Threuliau)" yn y Llawlyfr i Gynghorwyr.

 

Adolygwyd Adran A gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ar 7 Tachwedd 2017 a mabwysiadodd y cyngor y newidiadau yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr 2017.

 

Cynhaliwyd adolygiad pellach o Adran A gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â phenderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, yn addas i'w ddefnyddio gyda system hunanwasanaeth y cynghorwyr (Oracle) ac yn osgoi dyblygu cynnwys gydag Atodlen Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r diwygiadau a awgrymwyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd;

2)              Argymell Adran A ddiwygiedig y Llawlyfr i Gynghorwyr i'r cyngor i'w mabwysiadu.