Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

47.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim.

48.

Cofnodion. pdf eicon PDF 113 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion cyfarfod y panel a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2019 yn gofnod cywir.

 

49.

Project 360, Gwasanaeth ar gyfer Cyn-filwyr. (Heather Ferguson - Age Cymru)

Cofnodion:

Rhoddodd Heather Ferguson gyflwyniad llafar ar Prosiect 360, sy'n prosiect partneriaeth rhwng Age Cymru, Woody's Lodge a Chynghrair Henoed Cymru.

 

Mae'n brosiect Cymru gyfan a bydd yn cael ei gynnal tan fis Mawrth 2020 ac mae'n cael ei ariannu gan y Gronfa Cyn-filwyr Hŷn. Mae'n brosiect ar gyfer helpu cyn-filwyr dros 65 oed a'i brif amcan yw gwella gwasanaethau a ddarperir i gyn-filwyr hŷn drwy bartneriaid y prosiect, wrth gadw cyn-filwyr hŷn wrth wraidd y broses.

 

Amlinellodd y staff sy'n rhan o'r prosiect a manylodd ar chwe phrif weithgareddau allweddol y prosiect:

·       Mapio'r gwasanaethau sydd ar gael i gyn-filwyr hŷn drwy sefydliadau Cynghrair Henoed Cymru a'u cysylltiad â chyn-filwyr hŷn yng Nghymru ar hyn o bryd;

·       Datblygu hwb Woody's Lodge yn ne Cymru, gan gynnwys cynyddu cysylltiadau â chyn-filwyr yn yr ardal ehangach a chynyddu'r amrywiaeth o asiantaethau perthnasol;

·       Sefydlu safle Woody's Lodg yng ngogledd Cymru;

·       Cyfathrebu â chyn-filwyr ar draws Cymru i ddeall yr hyn y mae ei angen arnynt i wella ansawdd eu bywydau a pha rwystrau y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd o bosib er mwyn cael mynediad at y gwasanaethau y mae eu hangen arnynt;

·       Datblygu perthnasoedd â sefydliadau cyn-filwyr, swyddogion cyswllt y Lluoedd Arfog a Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog i sicrhau bod gwasanaethau rhannu gwybodaeth effeithiol ar gael a nodi angen;

·       Defnyddio'r wybodaeth a gafwyd yn y broses fapio a chyfathrebu â chyn-filwyr hŷn i wella gwasanaethau drwy ddyrannu arian grant mewnol mewn ymateb i'r angen a nodwyd.

 

Amlinellodd hefyd y gwaith gwerthuso a fydd yn cael ei wneud ar effaith y prosiect gan Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru.

 

Nododd Grace Halfpenny y gallai'r prosiect fod o fudd i gyn-filwyr hŷn a gallai ddisodli canghennau'r Lluoedd Arfog sy’n cael eu colli mewn cymunedau ar draws y wlad.

 

50.

Clwb a Chanolfan Baffio Bulldogs. (Mal Emerson)

Cofnodion:

 

Nid oedd Mal Emerson yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Gohiriwyd yr eitem ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol

51.

Abertawe Bro Morgannwg University Health Board. (adborth)

Cofnodion:

Adroddodd Grace Halfpenny ei bod hi wedi bod yn bresennol mewn cyfarfod PABM yn ddiweddar. Nododd fod Prif Weithredwr PABM yn awyddus i adfer y fforwm a gyfarfu'n flaenorol.

 

Bydd cyfarfod nesaf PABM yn cael ei gynnal ym mis Mehefin a nododd y byddai'n bresennol i annog y bwrdd i anfon cynrychiolydd i gyfarfodydd y panel hwn yn y dyfodol.

 

52.

Diweddariad gan Aelodau'r Panel.

Cofnodion:

Rhoddodd aelodau'r panel y diweddaraf ar lafar am weithgareddau, digwyddiadau a llwythi gwaith presennol ac arfaethedig eu grwpiau a'u sefydliadau perthnasol.

 

Cadeirydd

Adroddodd Jane Burtonshaw fod y gwaith yn parhau gyda Chapten Chris Evans o ran ail-lofnodi’r cyfamod gyda'r partneriaid presennol a rhai newydd.

 

Nododd ei bod yn parhau i weithio ar ymholiadau Tai a Budd-dal yn ôl yr angen pan fydd hi'n eu derbyn.

 

Cyfeiriodd at y digwyddiad celf gwych a drefnwyd gan y Clwb Cyn-filwyr a gynhaliwyd yn Ystafell Dderbyn yr Arglwydd Faer lle bu'n bresennol.

 

Cyngor Abertawe

Amlinellodd Spencer Martin y dylai'r cyfamod gael ei ail-lofnodi ym mis Mai mewn digwyddiad a gynhelir yn Ystafell Dderbyn yr Arglwydd Faer. Byddai'r gwahoddiadau'n cael eu rhannu maes o law.

 

Cyfeiriodd at ffair swyddi a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 28 Mawrth a drefnwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Julie James AC.

 

Digwyddiadau Arbennig

Adroddodd David Price Deer fod y cynlluniau ar gyfer y Sioe Awyr/Diwrnod y Lluoedd Arfog yn parhau i ddatblygu. Amlinellodd fod ceisiadau wedi'u cyflwyno i'r lluoedd arfog am awyrennau ar gyfer yr arddangosiadau ac amlinellodd y cynlluniau i ehangu ar arddangosfeydd tir y llynedd a oedd yn llwyddiannus iawn ymhlith y cyhoedd.

 

Amlinellodd nad yw trafodaethau wedi'u gorffen â Chapten Chris Evans ynghylch darparu pabell/stondin cyfamod a nododd y byddai'n rhoi gwybod i aelodau'r panel pan fydd y ddarpariaeth wedi'i chwblhau ac unwaith y bydd trafodaethau mewnol pellach â'r cyngor ynghylch y ddarpariaeth/gost wedi'u cwblhau. Amlinellodd gostau masnachol posib stondinau yn y sioe.

 

Trafododd aelodau'r panel yr angen am ddarparu stondin yn y sioe a'r costau afresymol posib ar gyfer aelodau'r cyfamod.

 

Nododd June Burtonshow y byddai'n ariannu costau'r stondin ar gyfer aelodau'r panel petai angen gwneud hynny o'i chyllideb gymunedol.

 

Nododd David Price Deer y byddai Seremoni Rhyddid y Ddinas yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf ar gyfer 175fed Gatrawd y Cymry gyda gorymdaith i ganol y ddinas yn dilyn seremoni ffurfiol.

 

Amlinellodd hefyd gynlluniau ar gyfer digwyddiadau ym mis Gorffennaf i nodi 50 mlynedd ers i Abertawe ennill statws dinas.

 

 

 

Blesma

Amlinellodd Tom Hall ei fod bellach yn gweithio gyda 33 o gyn-filwyr/weddwon yn ardal Abertawe. Amlinellodd y cysylltiadau gwych sydd ganddo â champfa Bulldogs a chanolfan aelodau artiffisial Abertawe.

 

Poppy Factory

Adroddodd Natalie McCombe fod ganddi 39 o gleientiaid yn yr ardal ar hyn o bryd ac amlinellodd fod grantiau ar gael i helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith. Amlinellodd ei pherthynas waith ardderchog â John Raymond Transport ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Cyfeiriodd at ddigwyddiad posib sy'n cael ei drefnu i nodi 25 o flynyddoedd ers diwedd HMS Dragon yn Abertawe.

 

Amlinellodd y VC Gallery a sefydlwyd yn Sir Benfro gan y cyn-filwr Barry John i helpu cyn-filwyr a'r rheiny yn y gymuned ehangach drwy eu cynnwys mewn amrywiaeth o brosiectau celf.

 

Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA)

Cyfeiriodd Dave Singletary at ostyngiad yn niferoedd y sefydliadau a’r grwpiau catrodol a nododd y gellid gwneud ymdrechion i archwilio'r posibilrwydd o gyfuno canghennau lleol.

 

Clwb Cyn-filwyr

Adroddodd Katherine Jennings am y gwaith y mae hi'n ei wneud mewn ysbytai i gynyddu ymwybyddiaeth o faterion sy'n effeithio ar gyn-filwyr.

 

Cyfeiriodd Sandy Shaw at y sesiwn galw heibio yng Nghwmgrach a agorodd yn ddiweddar ac ehangu’r sesiynau i ardaloedd Port Talbot a Chaerdydd.

Amlinellwyd llwyddiant y digwyddiad celf yn Neuadd y Ddinas a gododd dros £1,000 a nododd y bydd digwyddiad codi arian arall yn cael ei gynnal yn nhafarn Wig & Pen ar 18 Ebrill.

 

British Training Board

Adroddodd Adrian Rabey fod y cwmni wedi dechrau darparu gwasanaethau'n ddiweddar o garsiwn Henffordd, gyda 35 o bobl wedi'u cofrestru gydag EFT i ymgynghori ar hyfforddiant rheoli cyfleusterau. Nododd y byddai'r prosiect hwn yn ehangu i Lundain yn fuan a'r nod oedd cael 100 o bobl i fod yn rhan ohono.

 

Nododd fod 47 o bobl wedi bod ar y cyrsiau yn Abertawe'n ddiweddar a bod y cwmni’n archwilio opsiynau cyllid pellach er mwyn ehangu'r hyfforddiant ar draws y DU.

 

Adroddodd fod digwyddiad diweddar yn Stadiwm Liberty wedi codi dros £2,500 a fyddai'n cael ei wario ar brosiectau yn Abertawe.

 

Amlinellodd hefyd ddechrau prosiect gyda Chymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd yng Nghatraeth i ddarparu cyfleoedd hyfforddiant ar gyfer y rheiny nad ydynt yn cwblhau hyfforddiant sylfaenol.

 

Swyddog Cyswllt Rhanbarthol Cyfamod y Lluoedd Arfog

Nododd Grace Halfpenny ei bod wedi bod yn bresennol mewn sawl ffair swyddi ac amlinellodd fod cyflogwyr i'w gweld yn croesawu'r syniad o gyflogi cyn-filwyr. Nododd y byddai'n parhau i roi cyngor i gwmnïau ac unigolion.

 

Nododd ei bod am gwrdd â swyddogion o adran addysg Abertawe maes o law i drafod darpariaeth ar gyfer teuluoedd y lluoedd arfog.

 

Mae'r gwaith diweddaru ar gyfer tudalen y cyfamod ar wefan Abertawe'n dal i fynd rhagddo.

 

Cyfeiriodd at y digwyddiad gwych a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Aberhonddu gyda STOMP a'r Gwasanaeth Prawf.

 

Nododd hefyd fod cynllun gwirfoddoli yng ngharchar Pen-y-bont ar Ogwr a sefydlwyd gan gyn-filwr hefyd yn cael ei ehangu i ogledd Cymru.

 

Action on Hearing Loss

Adroddodd Charis Moon ar y gwaith a wneir gan ei sefydliad gyda chyn-filwyr hŷn, sy'n cynnwys ymweliadau cartref, cyngor, darparu offer etc.

 

Nododd y byddai'n hapus i dderbyn unrhyw atgyfeiriadau gan aelodau'r panel.