Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Nodwyd cofnodion y Pwyllgor Datblygu Polisi
Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a gynhaliwyd ar 25 Medi 2018. |
|
Y Diweddaraf am y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau. PDF 155 KB Linda Philips Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflynodd y
Swyddog Prosiectau adroddiad am y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau. Roedd adroddiad
wedi'i ddiweddaru wedi'i gylchredeg i'r pwyllgor ac eglurwyd y rhesymau dros yr
adroddiad diwygiedig a'r newidiadau data. Tynnodd sylw'n benodol at y gwahaniaeth
rhwng cyflog cyfartal a'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Adroddwyd mai'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer staff amser llawn (ac eithrio staff ysgolion) ar 31 Mawrth 2017 oedd 10.9% ar gyfer yr awrdal cymedrig i bob gweithiwr amser llawn perthnasol ac 11.5% ar gyfer yr awrdal canolrifol i weithwyr amser llawn perthnasol. Adroddwyd am y bandiau cyflog chwartel, a nodwyd yn 2017 mai'r chwartel mwyaf cytbwys o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau oedd y band cyflog uchaf. Adroddwyd mai'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer staff amser llawn a rhan-amser (ac eithrio staff ysgolion) ar gyfer 2018 oedd 7.3% ar gyfer yr awrdal cymedrig ac 11.1% ar gyfer yr awrdal canolrifol. Roedd ffigur cadarnhaol yn dangos bod dynion yn well eu byd na menywod, yn seiliedig ar yr awrdal. Roedd y ffigur wedi lleihau o 2017 i 2018, a oedd yn gadarnhaol. Adroddwyd hefyd fod y polisi i hyrwyddo gweithio rhan-amser yn effeithio ar y ffigurau ac yn debygol o barhau, oherwydd y gyfran gyfredol o ddynion i fenywod sy'n gweithio amser llawn/rhan-amser. Roedd hi'n anodd cymharu Cyngor Abertawe ag awdurdodau eraill gan nad ydynt yn hyrwyddo gweithio rhan-amser yn yr un ffordd, ac yn gyffredinol, mae'r rhaniad rhwng y rhywiau'n fwy cyfartal. Argymhellwyd y diweddariadau canlynol i'r cynllun gweithredu ar gyfer 2018-2020: -
Dilynwyd hyn gan drafodaeth ar y posibilrwydd o waith pellach i wella'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a'r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i wneud hynny. Penderfynwyd nodi'r diweddariad a darparu diweddariadau blynyddol i'r pwyllgor er mwyn monitro'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. |
|
Y Diweddaraf am Gaffael. Cofnodion: Darparodd Pennaeth
y Gwasanaethau Masnachol ddiweddariad i'r pwyllgor ar ddiwygiadau i'r Rheolau
Caffael Contractau. Cynhaliwyd y
gweithdai caffael gan y pwyllgor ar ddechrau 2018 ac roeddent yn canolbwyntio
ar chwalu'r rhwystrau ar gyfer busnesau lleol sy'n gwneud cais am gontractau
lleol ac yn eu hennill. Yn dilyn y gweithdy, gwnaed nifer o argymhellion a oedd
yn cynnwys diwygiadau i'r Rheolau Caffael. Adroddodd
Pennaeth y Gwasanaethau Masnachol fod y rheolau diwygiedig yn mynd drwy'r
broses gymeradwyo ar hyn o bryd ac y byddent yn cael eu rhoi ar waith unwaith y
byddai'r broses gymeradwyo wedi'i chwblhau. Roedd y rheolau diwygiedig yn
berthnasol i gontractau hyd at £140,000 a byddent yn caniatáu i gontractau gael
eu hysbysebu i fusnesau lleol, gan sicrhau na ellid gofyn dro ar ôl tro/yn unig
i un grŵp o gwmnïau gyflwyno cynigion am gyfleoedd y cyngor. Diffiniwyd
bod 'lleol' yn golygu Abertawe. Gofynnwyd
cwestiynau i'r Swyddog Cyflwyno a ymatebodd yn briodol. Roedd cwestiynau a
thrafodaethau'n canolbwyntio ar: - ·
Fandiau
Contractau Diwygiedig yr awdurdod ·
A yw
cwmnïau lleol wedi croesawu'r newidiadau ·
Hysbysu
contractau'n well a'r posibilrwydd o wefan Gwerthu i Abertawe ·
Y
posibilrwydd sydd ar ôl i ddewis dyfynbrisiau gan ychydig o fusnesau -
anawsterau a manteision y broses honno Diolchodd y
Cadeirydd i’r swyddog am y diweddariad a defnyddioldeb y gweithdy. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Cynllun Gwaith 2018 - 2019. PDF 110 KB Cofnodion: Dywedodd y
Swyddog Strategaeth a Pholisi y byddai'r Rheolwr Perfformiad a Chyflwyno
Strategol yn cynnal adolygiad o waith y Pwyllgorau Datblygu Polisi (PDP) a
thynnodd sylw at y ffaith y dylai'r gwaith polisi ymwneud â'r Cynllun
Corfforaethol a'r Ymrwymiadau Polisi. Byddai'r Swyddog
Strategaeth a Pholisi'n aildrefnu'r gweithdy ar Gydgynhyrchu ac yn gwirio penodi
Hyrwyddwr Cydgynhyrchu. Ystyriodd y
pwyllgor ddatblygu mwy o feysydd gwaith e.e. cyfranogaeth gyda'r llawlyfr
staff, y byddent yn eu trafod yn uniongyrchol â'r Cadeirydd. Penderfynwyd: - 1)
Nodi'r
diweddariad 2)
Darparu dyddiad newydd ar gyfer y gweithdy ar
Gyd-gynhyrchu 3)
Penodi
Hyrwyddwr Cydgynhyrchu. |