Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

85.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

86.

Cofnodion. pdf eicon PDF 103 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2019 fel cofnod cywir, yn amodol ar ychwanegu ymddiheuriadau'r Cynghorydd J A Raynor.

 

87.

Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan 2018-19. pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Digonolrwydd Gofal Plant a Chwarae adroddiad i nodi ystyriaethau mewn perthynas â'r arian a dderbyniwyd i gefnogi cydymffurfiaeth â'r Ddyletswydd Digonolrwydd Chwarae.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Derbyn yr arian a gynigiwyd, sef £140,000, gan Lywodraeth Cymru i gefnogi digonolrwydd chwarae yn 2018/19

2)              Dosbarthu dadansoddiad o sut caiff yr arian grant ei wario ym mhob parc i holl Aelodau'r Cabinet.

88.

Grant Plant a Chymunedau Llywodraeth Cymru pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Partneriaethau a Chomisiynu adroddiad i gymeradwyo'r cyllid ar gyfer Grant Plant a Chymunedau Llywodraeth Cymru.

 

Penderfynwyd y byddai'r Panel Ariannu Allanol yn gwneud y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo'r newidiadau i gyllid grant saith grant sydd eisoes yn bodoli;

2)              Derbyn y llythyr sy'n cynnig un grant Plant a Chymunedau cyfunol newydd.

89.

Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru. pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Ataliaeth, Lles a Chomisiynu adroddiad i gymeradwyo'r cyllid ar gyfer Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru.

 

Nodwyd bod ffigur anghywir wedi'i gynnwys yn llythyr cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer 'Gorfodaeth Rhentu Doeth Cymru' ar gyfer 2019/20.  Dylai'r ffigur fod yn £26,636, nid £9,523 fel a nodwyd yn wreiddiol.

 

Penderfynwyd y byddai'r Panel Ariannu Allanol yn gwneud y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo'r newidiadau i gyllid grant tri grant sydd eisoes yn bodoli;

2)              Derbyn llythyr sy'n cynnig un Grant Cymorth Tai cyfunol newydd.

90.

Ysgolion yr 21ain Ganrif - Cyllid ar gyfer Gwaith Sylweddol mewn Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir - Mynegiant o Ddiddordeb. pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth yr Uned Cynllunio a Chyflwyno Cyfalaf adroddiad i hysbysu'r Panel Ariannu Allanol o'r datganiadau o ddiddordeb a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gwaith cynnal a chadw â blaenoriaeth mewn ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol, ar yr amod bod Llywodraeth Cymru'n ariannu 85% a bod yr ysgolion yr effeithir arnynt yn darparu gweddill y cyllid sef 15%.

 

Penderfynwyd y byddai'r Panel Ariannu Allanol yn cymeradwyo'r cynlluniau arfaethedig yn amodol ar gymeradwyaeth y datganiad o ddiddordeb i Lywodraeth Cymru, ac y bydd y cyllid yn cael ei rannu rhwng Llywodraeth Cymru (85%) a'r ysgolion (15%).