Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

96.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

97.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

98.

Cofnodion. pdf eicon PDF 123 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2018 fel cofnod cywir.

99.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

100.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Yr Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth (Y Cynghorydd Rob Stewart). pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Arweinydd/Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth am benawdau allweddol ei bortffolio.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau ag Aelod y Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol:-

 

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

·             Cynnydd y Fargen Ddinesig ac effaith yr adolygiadau a gomisiynwyd - cynhaliwyd adolygiad mewnol gan Gyngor Sir Penfro ynghylch y materion sy'n ymwneud â phrosiect Llynnoedd Delta, adolygiad llywodraethu o'r rhaglen a gomisiynwyd gan y Cynghorydd Stewart fel Cadeirydd y cyd-bwyllgor ac adolygiadau annibynnol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru

·             Amserlen ar gyfer rhyddhau arian cychwynnol o'r Fargen Ddinesig - rhagwelir y daw cyn diwedd y flwyddyn ariannol

·             Effaith yr arenâu sydd i'w hadeiladu yng Nghasnewydd a Chaerdydd ar yr arena arfaethedig yn Abertawe

·             Ffyrdd o ddenu pobl i ganol y ddinas - ymagwedd gymysg (byw, siopa, hamdden), nid siopau'n unig, i greu cyrchfan i bobl ymweld ag ef

·             Bydd cyfleoedd swyddi a sgiliau sy'n deillio o ddatblygiad yng nghanolfan y ddinas, a pharheir i ddod o hyd i lafur a deunyddiau’n lleol a hefyd gysylltu ag addysg i ddatblygu sgiliau y mae eu hangen, e.e. Sgiliau Digidol

·             Roedd y Prosiect Sgiliau a Thalent yn elfen allweddol o'r Fargen Ddinesig ac yn rhan o Gam 2

·             Yr angen i ddenu cynigion i ganol y ddinas i apelio at bawb, gan gynnwys teuluoedd

·             Effaith nifer cynyddol yr eiddo i fyfyrwyr yng nghanol y ddinas - byddai datblygu llety yng nghanol y ddinas, gan gynnwys tai myfyrwyr a phreifat, yn cynyddu'r boblogaeth yng nghanol y ddinas a fyddai'n helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr a’r angen/galw am y cynigion yng nghanol y ddinas

·             Roedd hysbysebu byd-eang yn rhan o Abertawe Ganolog - Cam 2 a byddai'n rhoi'r cyfle i hyrwyddo cyfleoedd manwerthu a hamdden newydd yn fyd-eang

Brexit

·             Goblygiadau posib Brexit heb gytundeb

·             Paratoadau ar gyfer Brexit – wedi dechrau yn CLlLC ac ar lefel leol, ond gyda chymaint o ansicrwydd a phenderfyniadau sydd heb eu gwneud, bydd yn anodd rhagfynegi pa mor bellgyrhaeddol y byddai’r effeithiau a byddai llawer ohonynt y tu allan i reolaeth y cyngor

·             Effeithiau posibl ar gyflenwadau bwyd a meddygol, busnesau oedd eisoes yn wynebu anawsterau, yn enwedig darparwyr gwasanaethau cymdeithasol

·             Heriau Cyfathrebu - defnydd effeithiol o gyfryngau cymdeithasol i sicrhau fod pobl yn wybodus yn dilyn Brexit, a herio gwybodaeth anghywir

·             Pryderon ynghylch meysydd lle nad oes unrhyw gyfreithiau na chyrff cenedlaethol, lle mae cyfreithiau neu gyrff Ewropeaidd yn cael eu defnyddio

·             Goblygiadau cost a'r arian a wariwyd eisoes wrth baratoi ar gyfer Brexit - roedd amser swyddogion wedi ei gymryd ond roedd arian yn cael ei geisio (trwy CLlLC) o gronfa parodrwydd Llywodraeth Cymru

·             Cydweithio â Chasnewydd a Chaerdydd ar faterion Brexit - gan ymchwilio i gynghrair Dinasoedd Mawr y Gorllewin

·             Cyfarfod wedi’i drefnu gan y Cyngor ar gyfer dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd ar 23 Ionawr yn rhoi cyngor am Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC)/Amcanion Lles

·             Llywodraethu’r BGC a chynnydd yr adolygiad llywodraethu

·             Tystiolaeth o werth ychwanegol gan y BGC - cynnydd ar faterion megis Cam-drin Domestig, NEETS, Dechrau Gorau mewn Bywyd a Blaenoriaethau Amgylcheddol

·             Newid yn arweinydd y BGC - penodwyd Andrew Davies, Bwrdd Iechyd PABM, yn Gadeirydd a phenodwyd y Cynghorydd Rob Steward yn Is-gadeirydd

·             Posibilrwydd o BGC rhanbarthol i leddfu dyblygu/pwysau ar bartneriaid sy'n ymwneud â mwy nag un BGC ar hyn o bryd

·             Roedd y BGC newydd ddechrau'r cam cyflwyno. Roedd cydweithio â'r holl bartneriaid yn dal i ddatblygu ac roedd digon o waith i'w wneud o hyd. Y gobaith oedd, wrth i'r Cynllun Lles fynd rhagddo, y byddai canlyniadau'n cael eu gweld yn gynt gyda mwy o weithio mewn partneriaeth a chyfranogaeth.

·             Dangosodd diagramau ysgogi'r BGC gyfraniad pob partner at yr amcanion.

 

Penderfynwyd y dylai Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

101.

Cynllun Gweithredu Gwella Craffu. pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar y Cynllun Gweithredu Gwella Craffu. Tynnodd sylw at gyfleoedd ychwanegol i adrodd i'r Cabinet yn dibynnu ar ganlyniadau’r gweithgorau a'r paneli perfformiad yn ogystal â chynullyddion gweithgorau’n cael eu hannog i gymryd camau dilynol uniongyrchol yn absenoldeb prosesau ffurfiol, ond roedd yn awyddus eu bod yn cael cyngor gan y Tîm Craffu yn gyntaf.

102.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: pdf eicon PDF 119 KB

Gwella Gwasanaethau a Chyllid (Y Cynghorydd Chris Holley, Cynullydd)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn absenoldeb y Cynullydd, y Cynghorydd Chris Holley, nodwyd diweddariad y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid.

 

Roedd canmoliaeth am waith ac effeithiolrwydd y panel a gwaith rhagorol y Cadeirydd.

103.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 107 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar Aelodaeth Panelau a Gweithgorau Craffu.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Peter Black wedi gofyn i gael ei ychwanegu at y Panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio.

 

Yn dilyn yr adroddiad, darparwyd diweddariad i aelodaeth y grwpiau canlynol, yn dilyn gwahoddiad i gynghorwyr anweithredol fynegi diddordeb:-

 

·             Gweithgor Craffu Twristiaeth

·             Gweithgor Craffu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

·             Gweithgor Craffu Cynhwysiad Digidol

 

Roedd y Cynghorwyr Peter Jones a Will Thomas wedi mynegi diddordeb mewn gweithredu fel Cynullydd y Gweithgor Craffu Twristiaeth.

Yn absenoldeb y Cynghorydd Will Thomas, darllenodd y Cadeirydd ddatganiad i gefnogi ei ddiddordeb mewn gweithredu fel Cynullydd. Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd Peter Jones, i gefnogi ei ddiddordeb mewn gweithredu fel Cynullydd.

 

Mynegodd y Cynghorydd Terry Hennegan a'r Cynghorydd Sam Pritchard ddiddordeb mewn gweithredu fel Cynullydd y Gweithgor Craffu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd Terry Hennegan, i gefnogi ei ddiddordeb mewn gweithredu fel Cynullydd. Tynnodd y Cynghorydd Sam Pritchard ei fynegiant o ddiddordeb mewn gweithredu fel Cynullydd yn ôl.

 

Roedd y Gweithgor Craffu Cynhwysiad Digidol yn weithgor presennol a byddai'r Cynghorydd Lesley Walton yn parhau fel Cynullydd.

 

Penderfynwyd:-

1)          Penodi'r Cynghorydd Peter Jones fel Cynullydd y Gweithgor Craffu Twristiaeth

2)          Penodi'r Cynghorydd Terry Hennegan yn Gynullydd y Gweithgor Craffu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

3)          Nodi ychwanegiad y Cynghorydd Peter Black i'r Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio

4)          Nodi aelodaeth y gweithgorau ar Dwristiaeth, Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Chynhwysiad Digidol, fel y'i dosbarthwyd.

104.

Rhaglen Waith Craffu 2018/19. pdf eicon PDF 140 KB

Trafodaeth am:

a)         Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)         Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)         Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2018/19.

 

Byddai Sesiwn Holi Aelod y Cabinet yng nghyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu gydag Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, a gofynnwyd i aelodau'r pwyllgor roi ystyriaeth i gwestiynau.

 

Nodwyd hefyd fod Panel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion a drefnwyd ar gyfer 15 Ionawr 2019 wedi'i ganslo.

105.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth. Derbyniwyd yr ohebiaeth a oedd yn dilyn yr ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.

106.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 80 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth.

107.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. pdf eicon PDF 52 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod er gwybodaeth.

Llythyr at Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 184 KB