Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd
y cysylltiadau canlynol: Y Cynghorydd M C Child – personol - Cofnod Rhif 88 - Mae ei fam yn derbyn
gwasanaethau gan y Gwasanaethau Cymdeithasol - rhoddwyd goddefeb
i'r Cynghorydd Mark C Child gan y Pwyllgor Safonau i arfer pwerau gweithredol,
aros, siarad, pleidleisio a gwneud sylwadau llafar ac ysgrifenedig mewn
perthynas â materion sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion. Y Cynghorydd C A Holley – personol - Cofnod Rhif
88 - Mae ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2018 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda adroddiad ar benawdau allweddol
ei bortffolio. Darparwyd anerchiad llafar mewn perthynas â'r adroddiad
ysgrifenedig a gylchredwyd. Amlygodd y blaenoriaethau allweddol yn y
portffolio: atal ac ymyrryd yn gynnar, moderneiddio a gweithio'n integredig yn
ogystal â'r pwysau sy'n deillio o galedi a'r cynnydd yn y galw am y
gwasanaeth. Roedd cwestiynau
a thrafodaethau ag Aelod y Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Gwaith
y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac a yw'n ychwanegu gwerth at agweddau ar y
portffolio ·
Cyllid
Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gwasanaeth Iechyd
Gwladol - a oes cydbwysedd teg/a yw'r cyllid wedi'i rannu'n deg ·
Parhau
i hyrwyddo byw'n annibynnol a'r adnoddau sydd ar gael ·
Cydlynu
Ardaloedd Lleol - uchelgais i ehangu Cydlynu Ardaloedd Lleol i bawb yn
Abertawe, sicrhawyd cyllid ar gyfer dwy swydd newydd yn ardaloedd Llansamlet a
Blaen-y-maes a defnyddiwyd proses recriwtio newydd er mwyn eu penodi. Fodd
bynnag, nodwyd hefyd y tynnwyd cyllid yn ôl ar gyfer y Cydlynydd Ardaloedd
Lleol a oedd yn gwasanaethu Tre-gŵyr, Llwchwr a Phenllergaer. ·
Darparu
tystiolaeth i ddangos effaith/canlyniadau Cydlynu Ardaloedd Lleol yn benodol i
Abertawe, a'r effaith o ran lleihau'r galw/costau ar gyfer y Gwasanaethau
Cymdeithasol Nododd y
Cadeirydd y derbyniwyd cwestiynau gan aelod o'r cyhoedd mewn perthynas â
Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol ranbarthol Bae'r Gorllewin. Canolbwyntiodd y
cwestiynau ar argaeledd cofnodion ac agendâu ar gyfer Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol Bae'r Gorllewin ynghyd â gwybodaeth, hygyrchedd a thryloywder y
gwaith a wneir a hwyluso mwy o gysylltiad â'r cyhoedd. Darparodd Aelod y
Cabinet ymateb ysgrifenedig i'r cwestiynau a dderbyniwyd. Penderfynwyd: 1)
Y
bydd Aelod y Cabinet yn darparu ymatebion ysgrifenedig i'r cwestiynau gan y
cyhoedd a dderbyniwyd; 2)
Y
bydd Aelod y Cabinet yn darparu tystiolaeth/cysylltiadau ag astudiaethau o ran
effeithiolrwydd Cydlynu Ardaloedd Lleol; ac 3)
Y
bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan
adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Dirprwy Arweinydd, y Cyfarwyddwr Lleoedd a Rheolwr Rhaglen Abertawe
Gynaliadwy'n bresennol wrth i'r pwyllgor ystyried yr adroddiad am Raglen
Abertawe Gynaliadwy - Adolygiadau Comisiynu: Meysydd Gwasanaeth - Diweddariad
Cynnydd Blynyddol'. Rhoddwyd anerchiad llafar gan y Dirprwy Arweinydd mewn perthynas â'r
adroddiad a ddarparwyd, a oedd yn esbonio diben yr Adolygiadau Comisiynu ac yn
amlygu'r cynnydd a'r canlyniadau dros y 12 mis diwethaf. Rhoddodd Rheolwr Rhaglen Abertawe Gynaliadwy gyflwyniad ar 'Adroddiadau
Comisiynu Abertawe Gynaliadwy - Diweddariad Blynyddol' a oedd yn cynnwys y
canlynol:- ·
Diben allweddol ·
Effaith ar genedlaethau'r dyfodol ·
Egwyddorion craidd - canlyniadau enghreifftiol ·
Heriau ·
Camau nesaf Amlinellodd y Cyfarwyddwr Lleoedd y byddai'r adolygiadau a wnaed yn parhau
i gael eu monitro nes y caiff pob newid angenrheidiol ei roi ar waith. Roedd
rhaglen gytunedig yr Adolygiadau Comisiynu a nodwyd yn 2014 bron wedi cael ei
chwblhau a byddai rhaglen newydd yn cael ei datblygu. Byddai cynllun y rhaglen
newydd yn cynnwys ffocws mwy ar gydgynhyrchu a
byddai'n cynnwys mewnbwn Craffu. Canolbwyntiodd trafodaethau â'r Dirprwy Arweinydd a'r swyddogion ar y
canlynol:- ·
Sicrhau bod Adolygiadau Comisiynu'n darparu/dangos gwerth
am arian ·
Manteision ac arbedion o ganlyniad i'r holl raglen ·
Yr angen i Adolygiadau Comisiynu i ystyried
barn/canfyddiadau'r cyhoedd ac i gael gwybodaeth eglur am yr hyn y mae'r
cyhoedd am ei gael ar ddechrau'r adolygiad ·
Adolygiad Parciau a Glanhau - Peth newid yn y cynllun ond
mae gwaith i archwilio partneriaeth ynghylch y Gerddi Botaneg yn parhau (aeth y
Cyfarwyddwr Lleoedd ati i egluro a oes cynlluniau o hyd i greu maes parcio lle
codir tâl) ·
Adnabod nifer o feysydd ar gyfer adolygiadau cyllidebu ar
sail sero fel rhan o waith y dyfodol ·
Gwerth cysylltu'n gynnar â Chraffu Penderfynwyd nodi'r diweddariad a barn y pwyllgor. |
|
Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad PDF 119 KB Datblygiad ac Adfywio (Y Cynghorydd Jeff Jones,
Cynullydd) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y
Cynghorydd Jeff Jones, Cynullydd y Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio,
ddiweddariad ar waith y panel hyd yn hyn. Cyfeiriodd at gynllun gwaith y panel
sy'n cynnwys adroddiad mewn arddull 'dangosfwrdd' ym
mhob cyfarfod er mwyn cefnogi monitro parhaus ac 'archwiliadau iechyd' cyson o
brosiectau datblygu ac adfywio. Amlygodd y gwaith craffu cyn penderfynu
diweddar ar y Diweddariad ar Gam 1 Abertawe Ganolog ac FPR7 gan nodi'r pryderon
ynghylch cost y prosiect. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 105 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad a oedd yn amlinellu nad oedd unrhyw newidiadau i aelodaeth
o'r paneli a'r gweithgorau craffu presennol.
|
|
Rhaglen Waith Craffu 2018/19. PDF 143 KB Trafodaeth am: a)
Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b)
Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2018/19. Trefnwyd y bydd Sesiwn Holi Aelod y Cabinet ar gyfer cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu gyda'r Arweinydd. Gofynnwyd i aelodau'r pwyllgor gyflwyno cwestiynau neu bynciau ar gyfer cwestiynau cyn y cyfarfod. Nodwyd hefyd y cafodd Dr. Gideon Calder ei gyfethol i'r Panel Ymchwilio Cydraddoldeb. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am lythyrau craffu, er gwybodaeth. Amlygodd y
llythyr ymateb a dderbyniwyd oddi wrth Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu
a Sgiliau, dyddiedig 26 Tachwedd 2018. Ar fater camau gweithredu posib i fynd
i'r afael â phryderon ynghylch allyriadau mygdarth cerbydau ger ysgolion, a
chyngor gan Aelod y Cabinet, nodwyd y byddai'n fwy addas i ofyn i gyrff
llywodraethu ystyried a yw eu polisïau lles yn ymdrîn
â risgiau iechyd sy'n gysylltiedig ag allyriadau mygdarth ac i ofyn iddynt
gytuno ar strategaeth ar gyfer cyfleu neges i rieni. Roedd teimlad hefyd y
gellid annog ysgolion sy'n rhan o Raglen Eco-ysgolion i ystyried y mater hwn. Mewn perthynas
â'r llythyr oddi wrth Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau,
nodwyd hefyd fod yr awdurdod lleol wedi argymell i gyrff llywodraethu y dylai
pob llywodraethwr ysgol gael gwiriad GDG. Fodd bynnag, gan nad yw hyn yn orfodol,
mae'n fater i gyrff llywodraethu gytuno arno. Hefyd, amlygodd
gais a dderbyniwyd gan y Gweithgor Craffu Llygredd Aer a Sŵn i gwrdd yn
flynyddol. Dylid ystyried hyn fel rhan o'r Gynhadledd Cynllunio Gwaith ar gyfer
y flwyddyn ddinesig nesaf. Hysbysodd y
Cadeirydd y pwyllgor y cynhelir craffu cyn penderfynu gan y Panel Perfformiad
Ysgolion ar 17 Rhagfyr 2018 ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Craig-cefn-parc
(adroddiad ar yr Arolygiad o Ysgolion Bach) ac YGG Felindre (adroddiad ar
Drefniadaeth Ysgolion sy'n gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn
Addysg), a oedd yn destun penderfyniad gan y Cabinet ar 20 Rhagfyr. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). PDF 79 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. Nododd y Cadeirydd y gwneir
trefniadau er mwyn i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio ddod i gyfarfod pwyllgor yn
y dyfodol. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 46 KB Cofnodion: Rhoddwyd
dyddiadau ac amserau cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod er
gwybodaeth. |
|