Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

69.

Datgeliadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd M Durke - personol - Cofnod Rhif 73 - Ei bartner yn gweithio i Wasanaethau Cymdeithasol Plant a Theuluoedd Cyngor Abertawe

 

Y Cynghorydd J W Jones - personol - Cofnod Rhif 73 - Ei ferch yn fydwraig

 

Y Cynghorydd M H Jones - personol  - Cofnod Rhif 73 - Ei ferch yn fydwraig 

 

70.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw gysylltiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

71.

Cofnodion. pdf eicon PDF 111 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Arbennig y Rhaglen Graffu gynhaliwyd ar 1 Hydref 2018 a Phwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 8 Hydref 2018 a'u llofnodi fel cofnod cywir.

72.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

73.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelodau'r y Cabinet Dros y Gwasanaethau Plant (Cynghorwyr Elliott King & Will Evans) pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet dros y Gwasanaethau Plant adroddiad ar y prif benawdau ar gyfer portffolio'r Gwasanaethau Plant. Darparwyd anerchiad llafar mewn perthynas â'r adroddiad ysgrifenedig a gylchredwyd. Roedd Portffolio'r Gwasanaethau Plant wedi'i rannu i'r Blynyddoedd Cynnar a Phobl Ifanc. Roedd Amddiffyn a Diogelu Plant yn parhau o'r pwys mwyaf ar draws yr holl bortffolio.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau ag Aelodau'r Cabinet a Phennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                Casgliadau cadarnhaol diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru mewn perthynas â'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Maethu Abertawe

·                Y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol - gwneud y bwrdd yn fwy cydweithredol yn yr awdurdod a chryfhau perthnasoedd rhwng aelodau a swyddogion.

·                Deilliannau Addysg i Blant sy'n Derbyn Gofal yn enwedig mewn addysg uwch a phellach

·                Datblygu Ysgol Rithiol

·                Therapyddion Chwarae - y ddarpariaeth yn y cyngor

·                Prentisiaethau - cyfleoedd i Blant sy'n Derbyn Gofal

·                Hyfforddiant Amddiffyn/Diogelu Plant

·                Dechrau'n Deg - faint ohonynt sydd yn Abertawe, cyllideb, cynlluniau gwella, mesur canlyniadau

·                Hyrwyddo Cynhwysiad a Dinasyddiaeth Ieuenctid - cynnwys plant Abertawe ymhlith pobl ifanc yn y Senedd Ieuenctid 

·                Rhyngweithio â'r Gwasanaethau Ieuenctid a Datblygu Senedd Ieuenctid 

·                Cyfleoedd diwylliannol i grwpiau diamddiffyn

·                Mabwysiadu - cynnydd â'r gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol a pherfformiad, cynnydd nodedig mewn achosion cymhleth

·                Y Gofrestr Amddiffyn Plant - nifer cynyddol o blant yn cael eu hailgofrestru am resymau gwahanol

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelodau'r Cabinet i adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. 

74.

Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc - Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2018. pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Partneriaethau a Chomisiynu a'r Cydlynydd Hawliau Plant adroddiad ar Adroddiad Cynnydd Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2018. Nodwyd mai dyma'r pedwerydd adroddiad blynyddol yn dilyn penderfyniad y cyngor i ymgorffori'r CCUHP (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn) yn y Fframwaith Polisi. Darparwyd y cefndir ganddynt ac amlinellwyd cyflawniadau mewn perthynas â rhoi'r cynllun ar waith ac ymgorffori'r CCUHP ar draws y cyngor, a sicrhau sylw dyladwy drwy:

 

·         Gynnwys a Chyfranogiad

·         Hybu Gwybodaeth a Dealltwriaeth

·         Cynyddu Ymwybyddiaeth

·         Gwella sut rydym yn gweithio

·         Darparu Tystiolaeth am Effaith

 

Rhoddwyd crynodeb o'r cyflawniadau yn erbyn amcanion ac, wrth edrych ymlaen at 2019, tynnwyd sylw ganddynt hefyd at y camau a'r heriau nesaf.

 

Amlygodd y Cydlynydd Hawliau Plant y canlynol: -

 

·                Yn gyffredinol, roedd yn adroddiad cadarnhaol sy'n dangos cynnydd da ac y cyflawnwyd amcanion allweddol

·                Sgyrsiau Mawr - roedd naw sgwrs fawr bellach yn cael eu cynnal bob blwyddyn. Fe'u datblygwyd ar gyfer plant a phobl ifanc o ystod oed ehangach ac roedd yn cynnwys gwaith rhwng y cenedlaethau

·                Gwobr Ysgolion sy'n Parchu Hawliau - mae 100% o ysgolion bellach yn cymryd rhan yn y cynllun gwobrau. Byddai'r cyngor a staff ysgolion yn cael eu hyfforddi i fod yn aseswyr er mwyn sicrhau bod ysgolion yn cael eu hachredu am ddim, a helpu i gynnal y gwaith hwn yn y dyfodol

·                Cynllun Lles - Gwnaed llawer o waith gyda theuluoedd a phlant er mwyn gwneud y cynllun yn hygyrch i bawb 

·                Gweithio tuag at greu dinas sy'n addas i blant ochr yn ochr â datblygiadau canol y ddinas

·                Cynhaliwyd Cynhadledd Dydd i Blant y llynedd a daeth llawer o blant iddo

·                Mae angen iddynt bwyso a mesur y pedair blynedd diwethaf, gwerthuso ac adolygu'r cynllun

·                Heriau wrth ymgorffori'r gwaith hwn, gan sicrhau ei fod yn fusnes i bawb ac yn flaenoriaeth uchel, a mesur y gwahaniaeth a wnaed.

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:-

 

·         Yr ymrwymiad i glywed lleisiau plant a gwerthfawrogi eu barn

·         Mae'r angen i sicrhau bod gwybodaeth am hawliau plant (gan gynnwys Hyrwyddo'r Sgwrs Fawr) yn hygyrch ac ar gael ar amrywiaeth o lwyfannau, nad ydynt o reidrwydd ar gael drwy wefan y cyngor yn unig

·         Ymgysylltu â phlant ar faterion gan gynnwys perthnasoedd, iechyd rhywiol, smygu (gan gynnwys defnyddio sigaréts electronig)

 

Yn gyffredinol, roedd y pwyllgor yn fodlon ar yr adroddiad blynyddol a'r gwaith blaengar a wnaed. Diolchwyd i'r swyddogion am eu gwaith caled.

 

Penderfynwyd y dylai Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau i Blant - Pobl Ifanc a Swyddogion - nodi barn y Pwyllgor ar y cynnydd. 

75.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Perfformiad Craffu. pdf eicon PDF 120 KB

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd (Y Cynghorydd Paxton Hood-Williams, Cynullydd)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd Paxton Hood-Williams, Cynullydd Panel Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd y diweddaraf am waith y panel hyd yn hyn.

Amlygodd y ddau arolygiad diweddar a fu o'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Maethu Abertawe. Roeddent yn arolygiadau trylwyr iawn ac mae'r adroddiadau wedi bod yn gadarnhaol iawn. Codwyd rhai pryderon/problemau gan y panel yn enwedig o ran ailgofrestru ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Byddai hyn yn parhau i gael ei fonitro.

 

Penderfynwyd nodi'r diweddariad.

76.

Craffu Cyn Penderfynu: Strategaeth a Chynllun Gweithredu Digartrefedd 2018-2022. pdf eicon PDF 123 KB

a)         Rôl y pwyllgor

b)         Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau

c)         Barn y pwyllgor i'r Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Rheolwr Gweithrediadau - roedd Gwasanaethau Tai Cymunedol a'r Uwch-swyddog Rheoli Polisi a Lesddaliadau'n bresennol ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor o Adroddiad y Cabinet ar 'Strategaeth a Chynllun Gweithredu Digartrefedd 2018-2022’.

 

Y Rheolwr Gweithrediadau - Amlygodd y Gwasanaethau Tai Cymunedol ddiwygiadau diweddar i'r strategaeth yn dilyn yr ymgynghoriad a'r mewnbwn oddi wrth y tîm craffu. Roedd y diwygiadau allweddol yn canolbwyntio ar: -

 

·                Ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn fel egwyddor allweddol o'r strategaeth

·                Asesiad Effaith Cydraddoldeb

·                'Canolfan Atebion Cyfannol' - adolygu'r amserlen ar gyfer astudiaeth dichonoldeb.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:-

 

·                Gwneud yn fawr o ewyllys da'r cyhoedd i helpu i fynd i'r afael â digartrefedd - edrych ar ffyrdd o ymgysylltu â phobl drwy'r flwyddyn ac nid yn y gaeaf yn unig.

·                'Canolfan Atebion Cyfannol' - yr angen am enw da ar gyfer y ganolfan arfaethedig a chyfranogaeth sefydliadau allanol wrth gynnal astudiaeth dichonoldeb

·                Cyflenwad annigonol o dai cymdeithasol i ateb y galw  

·                Gwella perthnasoedd â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a dewisiadau amgen i ddatblygu 'Rhestr Aros Gyffredin'

·                Monitro cynnydd yn erbyn y strategaeth a'r cynllun gweithredu

 

Diolchodd y pwyllgor i swyddogion am eu gwaith caled ar y strategaeth ac am ystyried ac ymgorffori'r sylwadau/argymhellion a wnaed gan y tîm craffu yn y strategaeth derfynol.

 

Yn gyffredinol, roedd y pwyllgor yn fodlon ar y strategaeth a'r cynllun gweithredu arfaethedig

 

Penderfynwyd y byddai cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni gan amlinellu barn y pwyllgor ar Strategaeth a Chynllun Gweithredu Digartrefedd 2018-2022, i'r Cabinet ei hystyried.

77.

Adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru i'r Tîm Craffu. pdf eicon PDF 120 KB

Cofnodion:

Darparodd y Cadeirydd adroddiad am 'Adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru i'r tîm craffu' ac amlygodd paragraff 2.3 o'r adroddiad a oedd yn amlinellu i ba Banel/Bwyllgor Perfformiad y gellid dyrannu pob adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru a ddisgwylid yn ystod y flwyddyn. 

 

Penderfynwyd y dylid nodi cynnwys yr adroddiad.

78.

Aelodaeth Paneli Craffu a Gweithgorau. pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am aelodaeth y paneli a’r gweithgorau craffu. 

 

Penderfynwyd nodi'r diwygiadau canlynol: -

1)        Panel Ymchwilio Cydraddoldeb - Tynnu enwau'r Cynghorwyr Wendy Fitzgerald a Mo Sykes ac ychwanegu'r Cynghorwyr Lyndon Jones a Susan Jones.

2)        Gweithgor Parcio i Breswylwyr - Ychwanegu enw'r Cynghorydd Chris Holley

79.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd adroddiad am 'Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol'.

 

Penderfynwyd cytuno ar gynnwys yr 'Adroddiadau Craffu' drafft a'u cyflwyno i'r cyngor.

80.

Rhaglen Waith Craffu 2018/19. pdf eicon PDF 141 KB

Trafodaeth am:

a)         Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)         Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)         Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2018/19.

 

Tynnodd sylw at y ffaith y byddai'r Sesiwn Holi Aelod y Cabinet nesaf yn trafod Gofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda. Byddai adroddiad ar ganlyniadau ôl-weithredu yn dilyn Adolygiadau Comisiynu Abertawe Gynaliadwy'n cael eu cyflwyno hefyd yng nghyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 10 Rhagfyr 2018. 

 

Nodwyd Rhaglen Waith Craffu 2018/19.

81.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am lythyrau craffu, er gwybodaeth. Dywedodd fod ymateb wedi'i dderbyn bellach i'r llythyr a anfonwyd ar 2 Gorffennaf 2018 at Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell - Pobl, ynghylch cydlyniant cymunedol.

 

Nodwyd cofnodlyfr y llythyrau craffu.

82.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

Nodwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio.

83.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Nesaf Paneli/Gweithgorau. pdf eicon PDF 48 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

Ymateb Aelod y Cabinet - Craffu Cyn Penderfynu: Strategaeth a Chynllun Gweithredu Digartrefedd 2018-2022 pdf eicon PDF 111 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 184 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 758 KB